Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Rydym yn barod ar gyfer y gaeaf – ydych chi?

Published

on

Mae'r gaeaf yn dod: Paratewch!

Mae’r gaeaf yn dod: Paratewch!

MAE BWRDD IECHYD PRIFYSGOL HYWEL DDA wedi datblygu cynlluniau i reoli galw a gofal ar gyfer nifer cynyddol o gleifion brys dros gyfnod y gaeaf.

Bob blwyddyn, mae’n rhaid i’r bwrdd iechyd ddelio â nifer o bwysau’r gaeaf megis galw cynyddol am wasanaethau, oedi posib mewn rhyddhau cleifion ac effaith tywydd garw ar staff a mynediad at ysbytai ar draws yr ardal wledig.

I leddfu’r pwysau hyn, mae’r bwrdd iechyd wedi datblygu cynllun gweithredu i sicrhau bod gwasanaethau’n parhau i redeg mor esmwyth â phosib tra’n sicrhau bod anghenion cleifion yn cael eu diwallu 24 awr y dydd.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys:

  • Cynnal cyfarfodydd dyddiol rhwng clinigwyr a rheolwyr er mwyn cynllunio nifer gwelyau a staffio, ac i helpu rhyddhau cleifion sy’n feddygol-barod
  • Cynllunio staffio a gwelyau yn seiliedig ar wybodaeth actifedd dyddiol cywir iawn o flynyddoedd cynt i broffwydo actifedd, â lle am hyblygrwyd
  • Amserlenni llawdriniaethau etholedig (a gynlluniwyd) ar lefel sy’n cwrdd â thargedau amseroedd aros, ond sy’n caniatáu capasiti digonol ar gyfer argyfyngau
  • Gweithio mewn partneriaeth, yn cynnwys prynu gwelyau mewn cartrefi nyrsio a defnyddio cartrefi preswyl pan nad oes angen gofal meddygol ar bobl bellach
  • Galluogi agor gwelyau ychwanegol pan fo ange n
  • Annog a darparu staff â chyswllt cleifion, e.e. pigiadau ffliw

Dywed Peter Skitt, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Acíwt: “Rydym yn gwybod y bydd hi’n anodd, ond byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu, a dw’i am dawelu meddyliau cleifion y byddwn yn blaenoriaethu’r rheiny â’r angen mwyaf.

“Gofynnwn i bobl fod yn amyneddgar ar adegau prysur. Gall cymunedau lleol helpu hefyd trwy wneud y defnydd llawn o wasanaethau eraill heblaw’r Uned Frys, lle bo’n briodol.”

Gall trigolion lleol chwarae eu rhan trwy feddwl yn ofalus am sut y meant yn defnyddio eu GIG i sicrhau eu bod yn gwneud defnydd o’r gwasanaeth cywir ar gyfer eu hanghenion unigol, a thrwy ofalu am ei gilydd dros fisoedd y gaeaf.

Mae’r bwrdd iechyd yn cefnogi ymgyrch genedlaethol Dewis Doeth GIG Cymru, sy’n defnyddio darlun o thermomedr i helpu adnabod pa wasanaeth gofal iechyd sy’n diwallu eu hanghenion gofal orau.

Ni does angen gofal brys ar y mwyafrif helaeth o gyflyrau meddygol ac mae ystod o wasanaethau a all helpu pobl gael y gofal iawn ar yr amser iawn, megis fferyllfeydd cymunedol, optometryddion, gwasanaethau deintyddol a meddygfeydd.

Mae’n syniad da i sicrhau bod gennych ddigon o feddyginiaethau ar gyfer y tymor yn cynnwys eitemau hanfodol y gellir eu prynu dros-y-cownter, megis tabledi lleddfu poen, meddyginiaeth dolur gwddf a phecyn Cymorth Cyntaf.

Gellir trin sawl math o salwch yn y cartref gan ddefnyddio meddyginiaethau dros-y-cownter, yfed digon o hylifau a gorffwys digon.

Sicrhewch fod digonedd o’r meddyginiaethau canlynol gennych:

  • Meddyginiaeth lleddfu poen – paracetamol, ibuprofen ac aspirin yw’r mwyaf cyffredin ac ar gael ar ffurf tabled neu hylif. Mae Aspirin ac ibuprofen hefyd yn lleihau llid
  • Cyffuriau gwrth-histamin – mae’r rhain yn helpu ag alergeddau a thrwynau sy’n rhedeg ac ar gael ar ffurf tabled neu hylif
  • Meddyginiaeth dolur gwddf – argymhellir meddyginiaeth cyffredinol ar gyfer lleddfu poen e.e. paracetamol. Gall oedolion garglo ag aspirin hydawdd. Gall losennau a chwistrelli gwddf leddfu symptomau hefyd
  • Ffisig peswch – mae nifer o wahanol fathau ar gael. Gall y rhain atal peswch neu ei ryddhau
  • Triniaeth dolur rhydd – sicrhewch eich bod yn yfed digon o hylif heb alcohol am y 24 awr gyntaf. Gall eich fferyllydd argymell diodydd ail-hydradu yr ydych yn ychwanegu at ddwr
  • Meddyginiaeth diffyg traul – mathau gwahanol ar gael. Gall gwrthasid syml esmwytho symptomau fel arfer
  • Triniaethau rhwymedd – e.e. gellir rhoi cynnig ar Senna
  • Pecyn Cymorth Cyntaf – gall eich fferyllydd lleol eich cynghori ar beth ddylai fod ym mhecyn cymorth cyntaf eich cartref, megis thermomedr, eli antiseptig, rhwymyn, gorchudd a thâp adlynol, rhwymyn cynnal ac elastoplast
  • Meddyginiaethau plant – mae mathau ar gyfer plant ar gael o’r mwyafrif o’r meddyginiaethau hyn, holwch eich fferyllydd. Rydym yn argymell cael cyflenwad o paracetamol ac ibuprofen ar ffurf hylif yn ogystal â gwrth-histamin hylif

Cofiwch ddarllen y label ar feddyginiaeth, a pheidiwch â chymryd mwy na’r dos argymelledig.

Er enghraifft, mae paracetamol mewn nifer o wahanol feddyginiaethau ffliw yn ogystal â thabledi paracetamol. Ni ddylech roi aspirin i blant dan 16 oed onid ceir cyfarwyddyd meddyg i wneud hynny.

Hysbyswch eich fferyllydd o bob meddyginiaeth yr ydych yn ei gymryd ac o bob cyflwr meddygol sydd gennych – ee asthma, pwysedd gwaed uchel, fel y gallant sicrhau eich bod yn cael y cynnyrch mwyaf addas.

Continue Reading
Advertisement
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Cyngor yn ymateb ar gyflymder i gyflawni gwelliannau sylweddol yn ei wasanaeth cynllunio

Published

on

MAE ARCHWILIO Cymru wedi cynnal Adolygiad Dilynol o Wasanaethau Cynllunio gan Gyngor Sir Gaerfyrddin ac wedi dod i’r casgliad fod y cyngor wedi llwyddo i fynd i’r afael â’i holl argymhellion.

Ym mis Gorffennaf 2021, cyhoeddodd Archwilio Cymru adroddiad yn dilyn adolygiad o wasanaethau cynllunio’r cyngor, ac roedd ei ganfyddiadau yn nodi materion perfformiad arwyddocaol a hirsefydlog yn y gwasanaeth cynllunio yr oedd angen mynd i’r afael â nhw ar frys er mwyn helpu i gefnogi’r gwaith o gyflawni uchelgeisiau’r cyngor.

Fe gafodd 17 o argymhellion eu gwneud gan Archwilio Cymru er mwyn i’r cyngor fynd i’r afael â nhw. Mae’r adroddiad wedi cadarnhau eu bod i gyd wedi eu diwallu.

Mewn ymateb i argymhellion yr adroddiad, fe wnaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin alw Bwrdd Ymyrraeth i ddarparu goruchwyliaeth o gynllun gweithredu 49 pwynt er mwyn ymateb i ganfyddiadau Archwilio Cymru a gafodd eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2021. Dros y 15 mis diwethaf, mae’r cynnydd yn erbyn y cynllun wedi’i fonitro drwy fframwaith llywodraethu’r cyngor i roi sicrwydd o gynnydd a wnaed yn erbyn yr argymhellion.

Mae Archwilio Cymru wedi bod yn dilyn cynnydd y cyngor trwy gynnal cyfarfodydd dal i fyny’n rheolaidd gyda’r cyngor, adolygu dogfennau a chraffu ar gyfarfodydd pwyllgor llywodraethu ac archwilio. Maent hefyd wedi cyfweld â swyddogion allweddol y cyngor yn ystod y broses archwilio.

O fewn yr adolygiad dilynol, sydd wedi ei gyhoeddi ar ei gwefan, mae Archwilio Cymru’n dweud:

“Mae’r Cyngor i’w ganmol am y camau pendant, cyflym a gymerodd mewn ymateb i ganfyddiadau ein hadroddiad yn 2021, ac am y ffordd y mae wedi ysgogi gwelliannau yn ei wasanaeth cynllunio.

“Mae’r ffordd adeiladol y derbyniodd y Cyngor ein hadroddiad a gweithredu ar yr argymhellion yn enghraifft arbennig o gadarnhaol o Gyngor yn dangos ei ymrwymiad i wella wrth ddarparu gwasanaethau.

“Mae’r Cyngor wedi dysgu gwersi o’r adolygiad y mae hefyd wedi’i roi ar waith yn ehangach, yn enwedig mewn perthynas â rheoli perfformiad.

“Ar y cyfan, gwelsom fod y Cyngor wedi llwyddo i fynd i’r afael â’n holl argymhellion ac wedi ymateb ar gyflymder i gyflawni gwelliannau sylweddol yn ei wasanaeth cynllunio.”

Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio:

“Rwy’n falch iawn o adroddiad Archwilio Cymru sydd yn dweud bod Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi llwyddo i oresgyn heriau o fewn ein hadran gynllunio.

“Mae’r adroddiad yn rhagorol, mae’n canmol y gwaith a’r newid mewn systemau, gweithdrefnau ac arweinyddiaeth, gan gydnabod y gwelliant sylweddol sydd wedi’i gyflawni.

“Nid diffyg moeseg gwaith oedd yn gyfrifol am y materion dan sylw, gan fy mod yn gwybod o lygad y ffynnon am yr ymdrech a’r ymroddiad sy’n cael eu rhoi i mewn gan nifer o’n swyddogion. Yn hytrach y prosesau oedd ar fai ac roedd angen eu haddasu, gan nad oedd yn rhoi’r amgylchedd priodol i swyddogion gyflawni’r gwaith oedd ei angen.

“Hoffwn ddiolch i holl swyddogion y cyngor sydd wedi gweithio mor galed ers Gwanwyn 2021 i gyrraedd y nod o gwrdd â phob un o’r 17 o’r argymhellion a gafodd eu nodi yn wreiddiol gan Archwilio Cymru.

“Y cam nesaf, wrth gwrs, yw dal ati, parhau i symud ymlaen er mwyn aros ar flaen y gad fel un o’r awdurdodau cynllunio mwyaf cynhyrchiol yng Nghymru. Mae gwaith pellach i’w wneud ac rydym wedi ymrwymo i wella’n barhaus, yn enwedig ym myd gorfodi ond rydym yn symud i’r cyfeiriad cywir gyda dros 1000 o achosion gorfodi eisoes wedi’u datrys yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.”

Cliciwch yma i weld copi llawn o’r Adolygiad Dilynol o’r Gwasanaethau Cynllunio ar wefan Archwilio Cymru.

Continue Reading

Charity

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn defnyddio rhoddion i greu ystafell dawel ar gyfer eu haelodau staff

Published

on

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu cadeiriau cyfforddus a byrddau coffi ar gyfer yr ystafell staff wedi’i hadnewyddu yn ward anadlol Padarn yn Ysbyty Glangwili.
Mae Ward Padarn wedi symud i leoliad newydd, parhaol ac mae’r ystafell staff wedi’i gwella i’w gwneud yn ardal fwy ymlaciol.
Dywedodd Lynwen Williams, Uwch Swyddog Cyswllt Gweithredol ar gyfer Gofal Heb ei Drefnu yn Ysbyty Glangwili: “Bydd y dodrefn newydd yn helpu gyda lles staff, gan ei wneud yn fwy cyfforddus a deniadol.
“Mae Cynghrair Cyfeillion yr ysbyty hefyd wedi talu am furlun i addurno ystafell y staff, felly mae bellach yn lle tawel.”
Ychwanegodd Nicola Llewellyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Os hoffech gefnogi eich GIG lleol, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk

Continue Reading

Cymraeg

Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi yn ystod yr argyfwng costau byw

Published

on

RYDYM AM sicrhau bod holl drigolion Sir Gaerfyrddin yn ymwybodol o’r cymorth ariannol a’r cymorth i’r aelwydydd sydd ar gael.

Rydym ni’n gwybod pa mor anodd yw hi pan fo angen cymorth arnoch ond heb fod yn gwybod ble i droi – rydym am i chi wybod ein bod yma i chi.

Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin dîm ymroddedig o ymgynghorwyr sydd yma i wrando a’ch helpu i wneud cais am y cymorth, y gwasanaethau a’r arian y mae’n bosibl fod gennych hawl iddynt.

Mae 2 ffordd o gael mynediad at y cymorth hwn.

Ar-lein – drwy fynd i dudalen Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi y Cyngor, lle gallwch gael gwybodaeth am amrywiaeth eang o gynlluniau cymorth neu drefnu i siarad ag ymgynghorydd.

Ewch i un o’n Canolfannau HWB – yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman a siaradwch ag un o’n hymgynghorwyr HWB cyfeillgar.

Ers mis Ebrill eleni, mae ymgynghorwyr HWB wedi cael dros 400 o geisiadau am gyngor a chymorth gan drigolion Sir Gaerfyrddin ac wedi helpu gyda cheisiadau am ystod o gynlluniau cymorth gan y Cyngor a thrydydd partïon. Ymhlith y rhain mae Bathodynnau Glas ar gyfer parcio i bobl anabl, gostyngiadau ar y Dreth Gyngor, Taliadau Annibyniaeth Personol, a grantiau i helpu rhieni i brynu hanfodion ysgol, fel gwisg ysgol.

Yn ogystal â rhoi cymorth drwy ei Ganolfannau HWB a’i dudalen ‘Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’, bydd Cyngor Sir Gaerfyrddin yn cyfarfod â phartneriaid a rhanddeiliaid lleol i drafod a rhannu gwybodaeth, ynghyd ag arferion gorau, fel y gallwn weithio tuag at ddarparu pecyn cymorth gwirioneddol aml-asiantaeth i aelwydydd agored i niwed yn Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac arweinydd y Cabinet ar y maes hwn, sef y Cynghorydd Linda Evans, “Nawr, yn fwy nag erioed, mae’n bwysig bod pobl yn gwybod pa gymorth a buddion sydd ar gael iddynt wrth i’r costau byw gynyddu, sy’n effeithio arnom i gyd.

“Mae talu am fwyd, ynni, tanwydd a’r morgais, i enwi ond ychydig o’r costau cynyddol, yn flaenllaw yn ein meddyliau ni i gyd, felly mae’n hynod o bwysig bod pobl yn gallu cael mynediad at ba bynnag gymorth sydd ar gael iddynt.

“Mae’r broses o wneud cais am gefnogaeth wahanol yn gallu bod yn llethol a dyna pam rydyn ni wedi sefydlu timau HWB, yn Llanelli, Rhydaman a Chaerfyrddin i bobl alw heibio a siarad ag ymgynghorydd. Gall ein hymgynghorwyr HWB eich arwain drwy’r prosesau gwahanol ar gyfer gwneud cais am gymorth a budd-daliadau ac efallai y gallant awgrymu canghennau eraill o gymorth nad ydych efallai’n ymwybodol ohonynt. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim.

“Yn ddiweddar, mae’r cyngor wedi dechrau dosbarthu Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf Llywodraeth Cymru ac yn ddiweddarach y mis hwn, byddwn yn cynnal digwyddiad costau byw i ddod ag ystod o asiantaethau partner ynghyd i ddeall yn well beth arall mae’n bosib ei wneud ar lefel leol i gefnogi’r rhai sy’n cael eu taro galetaf gan yr argyfwng costau byw.”

I gael help gan ymgynghorydd HWB neu i gael rhagor o wybodaeth am sut i gael cymorth, budd-daliadau a gwasanaethau, ewch i’r dudalen Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.

Continue Reading

Trending

FOLLOW US ON FACEBOOK