Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Amserlen yr hydref ar S4C

Published

on

Bryn Terfel: B ydd S4C yn dathlu ei ben-blwydd yn 50

Bryn Terfel: B ydd S4C yn dathlu ei
ben-blwydd yn 50

O FATERION cyfoes i ddrama, o Gwpan Rygbi’r Byd i adloniant, bydd rhaglenni’r misoedd nesaf ar S4C yn destun trafod – ac yn darparu cynnwys unigryw na allwch ei fethu. Wrth lansio rhaglenni’r sianel ar gyfer yr hydref, ar fore Mawrth 8 Medi, dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu S4C, Dafydd Rhys; “Mae yna nifer o resymau i fod yn falch ac yn hyderus o’n cynnwys ar S4C ac mae tymor yr hydref am fod yn hynod o gryf. Mae cryfder yr amserlen ac ansawdd y rhaglenni yn dyst o bwysigrwydd gwaith S4C fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, wrth gynnig amrywiaeth eang o gynnwys eithriadol yn yr iaith Gymraeg. “Ymhlith y cynnwys bydd digwyddiadau chwaraeon mawr sydd yn destun trafod i’r genedl, sef Cwpan Rygbi’r Byd 2015 ac uchafbwyntiau gemau pêl-droed rhagbrofol Euro 2016.

Mae drama hefyd yn flaenoriaeth ac un o’n hamcanion ar gyfer eleni oedd cynyddu’r oriau o ddrama wreiddiol ar y sgrin. Cawn weld ffrwyth y dyhead hwnnw wrth i ni gyflwyno rhagor o ddrama wreiddiol yn ystod yr wythnos. Mae hynny’n cynnwys ail gyfres Lan a Lawr, Y Gwyll/Hinterland a 35 Diwrnod yn ogystal â dwy ddrama newydd yn y misoedd nesaf. “Yn ogystal â’r prif benawdau yma, bydd hefyd sawl noson thematig i ddathlu gwaith y diweddar awdur T. Llew Jones a noson i ddathlu penblwydd arbennig y canwr Bryn Terfel yn 50 oed. Mae hi am fod yn dymor cryf o raglenni, ac mae hynny’n glod i dalent pobl greadigol yn y sector gynhyrchu annibynnol, yn y BBC ac ITV yn ogystal â holl staff gweithgar S4C.” I nodi rhai o uchelfannau’r amserlen ar gyfer y tymor: Bydd y hydref fod yn llawn o ddrama ar S4C; yr ail gyfres o Lan a Lawr ddychwelyd i S4C ar 9 Medi gyda straeon mwy dramatig a calon-gynhesu.

Mae ail gyfres o Y Gwyll / Hinterland Dechreuodd ar ddydd Sul 13 Medi. Mae’r ddrama dditectif sydd wedi’i leoli yn Aberystwyth gyda Richard Harrington, Mali Harries, Aneirin Hughes, Hannah Daniel ac Alex Harries yn brif gymeriadau, wedi ei henwebu am bum gwobr BAFTA Cymru 2015, a bellach wedi ei gwerthu i dros 26 o wledydd. Ym mis Tachwedd, bydd cyfres newydd wedi ei lleoli mewn llys barn dychmygol yng ngogledd Cymru. Yn Dim ond y Gwir, byddwn yn dilyn gweithwyr yn y llys wrth eu gwaith ac yn eu bywydau personol. Ac yn dilyn llwyddiant 35 Diwrnod, bydd cyfres newydd ar 8 Tachwedd, a’r ddrama ddirgelwch wedi’i lleoli yng nghanol dinas Caerdydd y tro hwn. Yn ffilmio ar hyn o bryd, ar gyfer darlledu yn y flwyddyn newydd, mae drama Byw Celwydd, drama wleidyddol ei naws, gyda gwleidyddion. eu gweithwyr a newyddiadurwyr yn y prif rannau. Mae ymgyrch Cwpan Rygbi’r Byd 2015 ar ddechrau, ac fe fydd gwasanaeth S4C yn cynnwys naw gêm fyw, gan ddilyn holl gemau Cymru yn ystod y bencampwriaeth. A beth bynnag fydd tynged Cymru yn ystod y gystadleuaeth, byddwn yn darlledu’n fyw un gêm o rownd yr wyth olaf, un gêm o’r rownd gynderfynol, y gêm efydd a’r ffeinal.

Mae gan S4C griw o gyn-chwaraewyr Cymru i’n tywys ni drwy’r bencampwriaeth gan gynnwys Dwayne Peel, Stephen Jones, Shane Williams, Deiniol Jones a Dafydd Jones. Bydd gwasanaeth S4C yn dechrau ar 18 Medi gyda darllediad o’r seremoni a’r gêm agoriadol Lloegr v Fiji yn Twickenham. Yn ogystal â’r darllediadau teledu, bydd y naw gêm ar gael i’w gwylio ar wasanaeth ar-lein aralw S4C, s4c.cymru. Yn ogystal â gemau byw, bydd S4C yn teithio’r wlad gydol y gystadleuaeth gyda rhaglen ganol wythnos Cwpan Rygbi’r Byd a Mwy. Yn cael ei darlledu mewn clwb rygbi gwahanol bob wythnos, bydd yn cynnwys uchafbwyntiau, dadansoddiad a barn y cefnogwyr a’r arbenigwyr am y gystadleuaeth. Ac mae’r gyfres Jonathan yn dychwelyd ar gyfer y gystadleuaeth hefyd. Bydd Codi Canu nôl ar y sgrin ar gyfer ymgyrch Cwpan Rygbi’r Byd wrth i gefnogwyr ymuno ag un o bum côr – y Gleision, y Dreigiau, y Scarlets a’r Gweilch yn ogystal â chôr yn cynrychioli clybiau’r Gogledd.

Arweinydd Only Men Aloud, Tim Rhys- Evans fydd cyfarwyddwr cerddorol y gystadleuaeth. Mae tirwedd wyllt Cymru yn denu miloedd o bobl bob blwyddyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr awyr agored. Mae Cymru yn cael ei hadnabod fel un o’r llefydd gorau yn y byd ar gyfer chwaraeon awyr agored, ac mae’r galw am arweinyddion antur yn fwy nag erioed. Wedi ei ffilmio yng ngogoniant naturiol Parc Cenedlaethol Eryri a gogledd orllewin Cymru, bydd Ar y Dibyn yn dilyn chwech o bobl sy’n gobeithio gwireddu eu breuddwyd ac ennill swydd fel arweinydd antur. Yn gosod yr her ac yn profi eu gallu i’r eithaf, mae’r cyflwynydd a’r anturiaethwr Lowri Morgan, a’r arweinydd antur, Dilwyn Sanderson-Jones. Fel rhan o’r dathliadau penblwydd i nodi degawd cyntaf Canolfan Mileniwm Cymru, bydd S4C yn darlledu digwyddiad byw o Fae Caerdydd sy’n cynnwys dros 600 o gyfranwyr. Nia Roberts fydd yn ein tywys trwy’r digwyddiad a’r dathliadau, bydd yn cynnwys ystod eang o berfformwyr cyffrous.

Bydd cyfres newydd gan yr awdures a’r cyflwynydd Bethan Gwanas, a’r cynhyrchydd a’r gantores Meinir Gwilym, yn trin a thrafod pob agwedd ar y menopôs – o’r doniol i’r difrifol. Mae Bethan Gwanas: Y Menopôs a Fi yn edrych ar sut mae cymdeithas wedi trin y menopôs dros y canrifoedd a’r amryw driniaethau sydd wedi’u cynnig i ferched ar hyd yr oesau. Ym mis Hydref bydd rhaglenni i ddathlu bywyd a gwaith T. Llew Jones, ar achlysur pen-blwydd y diweddar fardd ac awdur yn 100 oed. Ymhlith y rhaglenni arbennig bydd Beti George yn cyflwyno portread o’r llenor a’r dyn y tu ôl i’r wyneb cyhoeddus. Bydd cyfle hefyd i fwynhau yr addasiad ffilm o’r nofel Tan ar y Comin. Mae Rhestr yn gyfres gwis newydd gyda Huw Stephens, sydd wrth ei fodd â chwisus, yn cyflwyno. Mae yna gyfle i gystadleuwyr yn y stiwdio, a’r gwylwyr gartre’, ennill gwobrau.

Bydd dathliadau Bryn Terfel yn 50 yn noson o ddathliadau i nodi’r penblwydd arbennig, yn cynnwys sgwrs a chân gyda’r canwr o Bant-glas. Mae ‘na gannoedd o erddi ar agor i’r cyhoedd yng Nghymru ac yn y gyfres newydd Gerddi Cymru bydd Aled Samuel yn ymweld â rhai ohonyn nhw. Yn eu plith mae Gardd Aberglasney yn Sir Gaerfyrddin, Gardd Bodnant yn Nyffryn Conwy, Castell Powis, Penllergaer ac Erddig. Edrychwn ymlaen at ail gyfres o Becws gyda Beca Lyne-Pirkis yn ein hysbrydoli gyda mwy o ryseitiau blasus. Ffermwyr o Gymru fydd yn brwydro i ennill teitl ‘Ffermwyr Gorau’r Wlad’ yn Fferm Ffactor 2015, a’r tro yma byddan nhw’n cystadlu mewn timoedd.

Continue Reading
Advertisement
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published.

Cymraeg

Meddygon teulu dal yma ar gyfer apwyntiadau wyneb yn wyneb

Published

on

Mae meddygon yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn atgoffa’u cleifion eu bod yn parhau i gynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb i’r rhai sydd angen eu gweld.

Trwy gydol y pandemig, mae meddygfeydd wedi sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau i redeg, gan ddefnyddio ffyrdd arloesol o gyfathrebu â’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Erbyn hyn mae llawer o feddygfeydd yn parhau i ddefnyddio ymgynghoriadau ffôn a galwadau fideo lle y bo’n briodol; mae hyn yn rhoi rhyddid i lawer o gleifion siarad â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol (nid o reidrwydd y meddyg teulu) yng nghysur a chyfleustra eu cartrefi eu hunain

Mae gan y rhan fwyaf o feddygfeydd systemau ar-lein megis E-Consult neu Ask My GP, lle gall cleifion ofyn cwestiwn llai brys am eu hiechyd. Gweler gwefan eich meddygfa am fwy o wybodaeth.

Mae Fy Iechyd Ar-lein yn parhau i fod yn opsiwn ar-lein 24/7 ar gyfer archebu presgripsiwn meddyginiaeth rheolaidd – mae wedi’i gynllunio i fod yn gyfleus i gleifion ac yn arbennig o ddefnyddiol i’r rhai sy’n hunan-ynysu neu’n gwarchod. Gall cleifion gofrestru ar gyfer hyn drwy eu meddygfa leol.

Mae system brysbennu dros y ffôn neu ar-lein ar waith yn y rhan fwyaf o  feddygfeydd i sicrhau bod cleifion yn siarad ag aelod clinigol o staff am eu hiechyd.

Os oes angen gweld claf wyneb yn wyneb, bydd y feddygfa’n gwneud apwyntiad â’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol mwyaf priodol i’w anghenion.

Dywedodd Dr Siôn James o Feddygfa Tregaron: “Hoffem atgoffa cleifion bod meddygfeydd teulu yn parhau i fod ar gael i chi. Pan fyddwch yn cysylltu â’ch meddygfa, byddwch yn siarad â’r person mwyaf addas ar gyfer eich cyflwr ac os bydd angen i’ch gweld wyneb yn wyneb, yna rhoddir apwyntiad i chi yn y feddygfa.

Gellir trin llawer o gyflyrau dros y ffôn gyda chyngor ac os oes angen, gellir rhoi presgripsiwn i fferyllfa o’ch dewis. Peidiwch ag osgoi ymofyn triniaeth.

Ar gyfer mân anhwylderau, cofiwch y gallai eich fferyllfa gymunedol helpu.”

Ychwanegodd Fferyllydd Cymunedol, Richard Evans: “Yn draddodiadol mae fferyllwyr Cymunedol wedi cynghori cleifion ar ystod eang o anhwylderau. Rydym bob amser yn argymell triniaethau addas i’r cleifion, neu os oes angen, eu cyfeirio at weithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Yn ystod y pandemig hwn, gweinyddu presgripsiynau yw’r prif ffocws o hyd, ond mae gwasanaethau eraill ar gael, megis y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin, Brysbennu a Thrin, cyflenwi meddyginiaethau mewn argyfwng a dulliau atal cenhedlu brys.

Gellir cael mynediad at y gwasanaethau hyn drwy ymgynghoriad dros y ffôn, gyda’r claf neu ofalwr/aelod o’r teulu yn casglu unrhyw feddyginiaeth angenrheidiol.

Cofiwch archebu unrhyw bresgripsiwn meddyginiaeth rheolaidd mewn pryd cyn i chi ei orffen.”

Yn ychwanegol at y wybodaeth arbenigol broffesiynol a gynigir mewn fferyllfeydd, bydd cleifion cymwys yn gallu derbyn eu brechlyn ffliw rhad ac am ddim yn y mwyafrif o’n fferyllfeydd cymunedol y gaeaf hwn. Am restr lawn o fferyllfeydd sy’n cymryd rhan, cliciwch yma https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/brechiadau-y-ffliw-tymhorol/

I gael gwybod pa wasanaethau y mae eich fferyllfa gymunedol yn eu cynnig, ewch i: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/

Mae rheolau cadw pellter cymdeithasol yn parhau ar draws safleoedd gofal sylfaenol er diogelwch cleifion a staff. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweld cleifion wyneb yn wyneb i asesu neu ddarparu triniaeth yn defnyddio’r cyfarpar diogelu personol priodol ac mae sgriniau ar waith mewn rhai cownteri a derbynfeydd

Cofiwch wisgo gorchudd wyneb pan ydych yn ymweld ag unrhyw leoliad gofal iechyd.

Continue Reading

Cymraeg

Mae teuluoedd rhoddwyr organau yn dathlu dadorchuddio cerflun

Published

on

Dadorchuddiwyd cerflun yng Ngardd Fotaneg Cymru fel rhan o Wythnos Rhoi Organau.  

Cynhaliwyd y digwyddiad arbennig i godi ymwybyddiaeth o roi organau, ac i gydnabod teuluoedd rhoddwyr yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac ar draws Cymru.

Mae’r cerflun yn darlunio Glas y Dorlan yn codi o’r twr, yn cynrychioli twf, bywyd a gobaith. Gellir dod o hyd iddo ym mhrosiect pwll newydd yr ardd fotaneg. 

Ymhlith y rhai a fynychodd y dadorchuddio roedd Jesse Lewis o Gastell-nedd, a siaradodd am sut yr oedd rhoi organau yn effeithio ar ei deulu ar ôl i’w fab Jac, yn anffodus, gymryd ei fywyd ei hun. 

Dywedodd: “Llenwyd dyddiau olaf bywyd Jac â gobaith i ni, a phan aethpwyd a hynny i ffwrdd, meddyliais ar unwaith am drawsblaniadau.

“Mae cymaint o bobl yn aros ac yn gobeithio am y cyfle i barhau i fyw bywyd arferol.” 

Yn dilyn hyn, sefydlodd Jesse a’i wraig Janet y Jac Lewis Foundation, elusen i helpu pobl sy’n dioddef o faterion iechyd meddwl. 

Ychwanegodd: “Mae’n cynnig gobaith, a chredaf mai hyn yw’r cynhwysyn sy’n rhoi’r frwydr y tu mewn iddynt i barhau. 

“Ni fydd unrhyw beth sydd wedi’i gyflawni hyd yma byth yn atal y boen o golli Jac fel y bydd unrhyw un sydd wedi colli rhywun mor agos yn gwybod. 

“Fodd bynnag, mae troi’r poen honno’n obaith rhywun arall, yn rhoi ystyr i’w fodolaeth, gan wybod bod ei fywyd wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau llawer o bobl eraill.” 

Dywedodd Rea John, Nyrs Arbenigol yn Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG : “Er ein bod wedi cael system optio allan yng Nghymru ers bron i chwe blynedd, ymgynghorir â theuluoedd bob amser cyn i roi organau fynd yn ei flaen.

“Mae’n bwysig gwneud eich penderfyniad yn hysbys i’ch teulu a’ch ffrindiau, fel eu bod yn gwybod beth rydych chi moen ddigwydd pe bau rhoi organau yn bosibilrwydd.

“Siaradwch â’ch teulu heddiw, mae’n ei gwneud ychydig yn haws iddyn nhw os ydyn nhw byth yn y sefyllfa honno.”

Dyluniwyd y cerflun gan yr artist lleol Paul Clarke, a defnyddiodd ddeunyddiau o tair sir Hywel Dda i gynnal y cysylltiad â’r bwrdd iechyd.  

“Mae’n deyrnged i ddiolch i’r teuluoedd sydd, yn eu hamser tywyllaf, yn canfod y cryfder i gefnogi a helpu i achub bywydau pobl eraill,” meddai Rea. 

Continue Reading

Cymraeg

Digwyddiadau gwasgu afalau Castell Caeriw mis Hydref yma SUDD yn rhad ac am ddim

Published

on

Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i ddod â’u hafalau i ddeuddydd am ddim yng Nghastell Caeriw ym mis Hydref.

Gyda thymor y cynhaeaf afalau yn ei anterth, mae atyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cynnig cyfle i droi unrhyw bentyrrau o’r ffrwyth maethlon hwn yn sudd blasus.

Cynhelir y digwyddiadau gwasgu afalau rhwng 10am ddydd Sadwrn 2 Hydref a dydd Sul 3 Hydref ar dir Castell Caeriw, lle bydd y Parcmon Chris wrth law gyda gwasg afalau.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Gwasanaethau Ymwelwyr yng Nghastell Caeriw:  “Hwn yw’r adeg o’r flwyddyn pan fydd afalau ar eu gorau ac mae llawer o bobl yn darganfod bod ganddyn nhw ormodedd dros ben. Mae’r diwrnodau gwasgu afalau am ddim yn gyfle perffaith i ddod at ei gilydd gyda ffrindiau a theulu mewn awyrgylch braf a mwynhau sudd ffres.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu gwesteion o bob oedran i’r digwyddiadau hyn. Nid oes ffi mynediad, a’r unig ofyniad i’r rhai sy’n dod draw yw eu bod yn dod â rhai afalau a chynhwysydd i’w sudd gyda nhw, a’u bod yn barod i roi cynnig arni.”

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.

Continue Reading

Trending

FOLLOW US ON FACEBOOK