Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Academyddion Aberystwyth yng Ngŵyl y Gelli

Published

on

Bydd tri academydd o Brifysgol Aberystwyth ar raglen Gŵyl y Gelli eleni, a ddarlledir am ddim ar-lein o’r Gelli Gandryll o 26 Mai tan 6 Mehefin.

Yn yr ŵyl, fe gyflwynir yr Athro Mererid Hopwood, a ymunodd â Phrifysgol Aberystwyth fel Athro’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym mis Ionawr 2021, yn Gymrawd Rhyngwladol newydd Cymru Greadigol Gŵyl y Gelli.  Ac fe drafodir rhai cwestiynau sy’n berthnasol iawn i’r byd sydd ohoni, yng nghyd-destun pandemig COVID-19, mewn dwy ddarlith a fydd yn cael eu traddodi gan academyddion o Aberystwyth.

Yn ei darlith ‘Women and Leadership’ am 13:00 ddydd Sadwrn 29 Mai, fe fydd y Dr Jenny Mathers o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn gofyn a fyddai’r byd yn wahanol – ac yn well – pe bai mwy o fenywod yn dal yr awenau mewn safleoedd arweinyddiaeth.

Mae’r Dr Mathers yn esbonio sail ei darlith:  “Byddaf yn edrych eto ar y pwnc llosg hwn yng nghyd-destun y pandemig byd-eang. Rhywedd yw rhan o’r esboniad am y gwahaniaeth mawr rhwng profiadau COVID Seland Newydd o dan Jacinda Ardern a’r Unol Daleithiau o dan America.  Mae rhai wedi dadlau y gallasai effeithiau Argyfwng Ariannol Byd-Eang 2008 wedi’u lleddfu pe buasai mwy o fenywod wrth fyrddau rheoli’r prif sefydliadau ariannol. Ond mae arweinwyr benywaidd yn dal i fod yn gymharol brin, ac mae’r menywod sy’n arwain llywodraethau a sefydliadau drwy argyfyngau yn cael eu trin yn fwy garw na dynion mewn safleoedd cyfatebol.”
Ddydd Mercher 2 Mehefin, 13:00, bydd y Dr Siobhan Maderson, Cymrawd Ôl-Ddoethurol yr ESRC yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, yn siarad am ‘The Great Reset: Co-designing an inclusive, sustainable, post-pandemic future’.

Mae’r Dr Maderson yn esbonio: “Wrth i’r rhaglen frechu at COVID-19 fynd rhagddi, mae llawer ohonom yn dechrau mentro teimlo’n obeithiol am y dyfodol, er ein bod hefyd yn ymwybodol o’r difrod cymdeithasol ac economaidd a achoswyd gan y pandemig. Yn fy narlith arall byddaf yn ystyried sut olwg allai fod yn ar y normal newydd a sut y gellir sicrhau bod yr ailgychwyn yn gweithio er lles pawb – a rhywogaethau eraill – yn yr amgylchedd ehangach. Bydd fy nghyflwyniad yn cloriannu camgymeriadau’r gorffennol, edrych ar fentrau’r presennol ac ystyried gweledigaethau llawn dewrder a dychymyg at y dyfodol.”

Bydd y ddwy ddarlith yn cael eu recordio ymlaen llaw, ac fe fydd y Doethuriaid Mathers a Maderson ill dwy ar gael wrth i’w darlithoedd gael eu darlledu a thoc wedyn i ateb cwestiynau gan y gynulleidfa yn y llif sgwrsio.

Bydd darlith yr Athro Hopwood ddydd Sul 30 Mai yn trafod sut mae’r beirdd wedi dychmygu iaith a sut mae’r dychymyg hwnnw yn ein helpu i ddeall yr elfen hanfodol hon o lenyddiaeth.

Mae’r ysgolhaig o Brifysgol Aberystwyth wedi ennill prif gystadlaethau’r Brifwyl dair gwaith, a hi oedd y fenyw gyntaf i ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn 2001. Mae wedi bod yn Fardd Plant Cymru ac wedi ennill gwobr Glyndŵr am ei chyfraniad at lenyddiaeth. Roedd ei chasgliad o farddoniaeth Nes Draw yn fuddugol yng nghategori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2016.
Dywedodd yr Athro Hopwood: “Fel Cymrawd Rhyngwladol Cymru Greadigol Gŵyl y Gelli eleni, mae’n arbennig o braf gweld yr Ŵyl yn ymestyn nid yn unig dramor ond hefyd yn nes at adref. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at barhau’r drafodaeth ddechreuodd llynedd am ddwyieithrwydd, gan ystyried eleni sut mae llenorion wedi dychmygu iaith ar hyd yr oesoedd.”

Ychwanegodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “A ninnau’n brifysgol sydd ag enw da am ragoriaeth ein gwaith dysgu ac ymchwil, mae gennym lawer o werthoedd cyffredin â Gŵyl y Gelli – yn fan lle y gellir trin a thrafod materion pennaf yr oes.  Mae’n bleser gennym fod yn bartner i Ŵyl y Gelli, 2021, gan barhau â’n perthynas ehangach a fagwyd drwy fentrau megis Taith ‘Scribblers’ Gŵyl y Gelli, ‘Hay Levels’ a’n cynlluniau am ŵyl flynyddol ar y cyd yn yr Hen Goleg yn Aberystwyth ar ôl iddo ailagor tua diwedd 2023.”

Bydd y rhaglen ddigidol o ddigwyddiadau am ddim i Ŵyl y Gelli 2021 yn dod â llenorion a darllenwyr ynghyd am amrywiaeth o sgyrsiau, trafodaethau, gweithdai a pherfformiadau ar-lein, yn llawn ysbrydoliaeth, o ddydd Mercher 26 Mai tan ddydd Sul 6 Mehefin.  I weld y rhaglen lawn o ddigwyddiadau ac i gofrestru ar-lein yn rhad ac am ddim, gweler: www.hayfestival.com

Continue Reading
Advertisement
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Cyfleoedd gwaith a gyrfa ar gael yn ffair swyddi Sir Gaerfyrddin

Published

on

Bydd pobl yn cael cyfle i siarad wyneb yn wyneb â chynrychiolwyr y diwydiant a derbyn cefnogaeth i ymgeisio am swyddi gyda chyflogwyr

MAE ffair swyddi’n cael ei chynnal i helpu pobl sy’n chwilio am waith i sicrhau cyfleoedd mewn sectorau busnes allweddol sy’n chwilio am staff ar frys.

Mae Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol De-orllewin Cymru yn cynnal y ffair ar y cyd â Chymunedau am Waith a Gweithffyrdd i gefnogi busnesau yn y sectorau trafnidiaeth a logisteg, lletygarwch ac iechyd a gofal cymdeithasol – y mae gan bob un ohonynt nifer o swyddi i’w cynnig ar hyn o bryd.

Bydd pobl yn cael cyfle i siarad wyneb yn wyneb â chynrychiolwyr y diwydiant a chael cymorth i wneud cais am swyddi gyda chyflogwyr gan gynnwys timau gofal cymdeithasol, arlwyo a glanhau Cyngor Sir Caerfyrddin, darparwyr gofal preifat Paddacare a Swanton Care ynghyd ag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gofal Croesffyrdd; Bwydydd Castell Howell, Owens Transport, TRJ Ltd a Army Reserves.

Anogir ceiswyr gwaith i alw i heibio rhwng 10am a 2pm yn hen uned Topshop yn Rhodfa’r Santes Catrin, Caerfyrddin, ddydd Mercher 22 Medi; yn Stryd Stepney, Llanelli, ddydd Iau 23 Medi, ac yn Stryd y Cei, Rhydaman, ddydd Gwener 24 Medi.

Dywedodd Edward Morgan, Cadeirydd y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol: “Mae hwn yn gyfle i unrhyw un sy’n chwilio am waith neu sy’n ystyried newid gyrfa siarad â’r bobl sydd ag amrywiaeth o swyddi gwag i gael gwybod am yr hyn sydd ganddynt i’w gynnig i ddarpar weithwyr.

“Mae gan bob un o’r sectorau busnes sydd ar gael yn y ffeiriau swyddi gwag i’w llenwi ar unwaith – rydym am helpu i sicrhau’r swyddi cywir i’r bobl sydd â’r sgiliau a’r uchelgeisiau cywir.

“Rydym yn gweithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau yn ogystal â Chymunedau am Waith a Gweithffyrdd i gefnogi pobl drwy’r broses ymgeisio ac unrhyw hyfforddiant y gallai fod ei angen ar gyfer swyddi penodol.”

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin a’r Aelod Cabinet dros Adfywio: “Mae cefnogi busnesau i adfer yn sgil y pandemig Covid a Brexit, a helpu pobl i ddod o hyd i gyflogaeth gynaliadwy, yn flaenoriaethau allweddol i’r cyngor fel rhan o’n cynllun adfer economaidd.

“Mae rhai sectorau yn ei chael hi’n anodd recriwtio pobl ar hyn o bryd ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w cefnogi – mae hynny’n cynnwys ein timau ein hunain o fewn y cyngor, yn enwedig y timau gofal, arlwyo a glanhau lle mae angen mwy o bobl arnom i ymuno â’n tîm.

“Mae hwn yn gyfle gwych i unrhyw un sy’n chwilio am waith, sydd am newid cyfeiriad, neu sy’n dechrau ar ei daith gyrfa. Rydym yn gobeithio y bydd nifer o bobl yn bresennol ac y bydd yn helpu i ddod â cheiswyr gwaith a recriwtwyr at ei gilydd.”

Continue Reading

Cymraeg

Cynllun lleoliad swydd Kickstart – newid bywydau ac o fudd i fusnesau

Published

on

Kornelia Charkiewicz

MAE merch ifanc o Sir Gaerfyrddin a dreuliodd hyd at bedair awr y dydd yn chwilio am waith wedi sôn am ei llawenydd wrth lwyddo i gael swydd (o’r diwedd) diolch i gynllun newydd Kickstart.

Dywedodd Kornelia Charkiewicz fod ei bywyd yn ‘llawn straen a rhwystredigaeth’ yn treulio oriau bob dydd yn gwneud ceisiadau am swyddi heb fawr o lwc.

Ond newidiodd hynny i gyd pan gymerodd ran yng nghynllun Kickstart, sy’n cael ei gynnal yn lleol gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r Ganolfan Waith.

Mae Kornelia bellach yn mwynhau ei rôl newydd fel gweinyddwr i’r cwmni adeiladu lleol Morganstone.

Mae’r cynllun Kickstart yn ariannu lleoliadau gwaith i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sydd ar Gredyd Cynhwysol ac mewn perygl o fod yn ddi-waith yn yr hirdymor.

Gall cyflogwyr lleol o unrhyw faint wneud cais am gyllid i dalu am gost lleoliadau, hyfforddiant a chymorth cyflogadwyedd, Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn sy’n golygu bod y cynllun 100 y cant yn niwtral o ran cost iddynt.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithredu fel y sefydliad arweiniol ar gyfer dros 70 o gyflogwyr lleol.

Mae’r tîm C4W+ (Cymunedau am Waith) hefyd yn gweithio gyda phobl ifanc cymwys i’w helpu i gael profiad gwaith, ysgrifennu CV a’u paratoi nhw ar gyfer cyfweliadau am swyddi.

“Pan gefais wybod am Kickstart i ddechrau roedd yn swnio ychydig yn rhy dda i’w gredu ond wrth gysylltu â nhw, roeddwn i wir yn teimlo bod pwysau wedi’i godi o’m hysgwyddau,” meddai Kornelia.

“Roeddwn i’n teimlo’n rhwystredig ac o dan lot o straen o’r blaen. Byddai diwrnod arferol yn cynnwys siom yn sgil methu â chael ymateb neu gyfweliad o’r diwrnod cynt, yna treulio tair i bedair awr yn palu drwy hysbysebion swyddi a llenwi ffurflenni cais a fyddai yn y pen draw, yn arwain at dderbyn e-byst yn dweud fy mod i’n aflwyddiannus.

“Parodd y cylch parhaus hwn am oddeutu blwyddyn a hanner ac roedd e’n teimlo fel bod fy siawns o gael cyfweliad, heb sôn am swydd, bron yn amhosibl.”

Cafodd Kornelia wybod am Kickstart gan ei Chanolfan Waith leol.

“O’r diwedd roedd yn teimlo fel bod golau ar ddiwedd y twnel ac roedd cael yr help hwnnw yn meddwl y byd i mi. Cefais gymorth ac anogaeth drwy gydol y broses ganddyn nhw, o’r eiliad y siaradais â nhw am y tro cyntaf i’r eiliad y cefais leoliad swydd. Roedden nhw bob amser yn amyneddgar ac yn barod i wrando hyd yn oed arnaf i’n sôn am fy rhwystredigaethau wrth chwilio am swyddi.”

Ychwanegodd: “Un o’r agweddau sydd wir wedi fy helpu oedd paratoi ar gyfer cyfweliadau – dim ond un cyfweliad rwyf i erioed wedi’i gael felly  roedd hwn yn brofiad eithaf cynhyrfus i mi, ond diolch i gymorth C4W+ es i ar gwrs oedd yn ymwneud â pharatoi ar gyfer cyflogaeth a pharatoi ar gyfer cyfweliadau. Roeddwn hefyd yn gallu gwneud ffug gyfweliad gydag adborth gan un o’r mentoriaid.

Mae’r profiad cyfan hwn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i mi. Heb y cynllun hwn, byddwn i’n sicr yn dal i chwilio am swydd ac yn teimlo’r holl emosiynau negyddol sy’n mynd law yn llaw gyda hynny.

“Mae Kickstart a C4W+ wedi cael effaith fawr ar fy mywyd yn y ffordd orau bosibl a byddaf yn ddiolchgar am byth i’r bobl rwyf wedi cwrdd â nhw a’r cyfle anhygoel rwyf wedi’i gael.”

Mae Morganstone sef cyflogwr lleoliad swydd Kornelia, hefyd wedi elwa o gynllun Kickstart.

Meddai Hannah Breen, Rheolwr Hyfforddiant a Chyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol Morganstone: “Mae dyfodol y diwydiant adeiladu yn dibynnu llawer ar y cenedlaethau sydd i ddod ond mae prinder sgiliau wedi bod yn bryder yn y diwydiant ers nifer o flynyddoedd. Yn Morganstone rydym bob amser wedi bod yn frwd dros hyrwyddo’r diwydiant i bobl ifanc a rhoi’r sgiliau a’r cyfleoedd iddynt lwyddo – mae ganddynt gymaint i’w gynnig ac oherwydd yr hinsawdd bresennol mae llawer wedi methu â gwireddu eu potensial llawn a dyna’r rheswm yr oeddem ni fel cwmni mor awyddus i fod yn rhan o’r cynllun Kickstart.

“Eisoes, mae ein profiad Kickstart wedi bod yn llwyddiannus dros ben.  Mae wedi ein galluogi ni i groesawu talent ifanc i’r sefydliad. Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Gyngor Sir Caerfyrddin am ein harwain drwy’r broses Kickstart a’n helpu i recriwtio Kornelia – mae’r gefnogaeth wedi bod yn werthfawr tu hwnt.

“Gwnaeth Kornelia gymaint o argraff ar ein tîm. Roedd yn amlwg o’i chyfweliad ei bod hi’n frwdfrydig iawn a wir eisiau llwyddo er mwyn gwneud gwahaniaeth. Mae wedi bod yn wych ei gweld yn magu hyder dros yr wythnosau diwethaf. Mae hi wedi ffitio i mewn i’r tîm mor dda ac rydym yn gyffrous i weld sut mae ei gyrfa’n datblygu.”

Gall cyflogwyr lleol a rheiny rhwng 16 a 24 oed ac sy’n chwilio am waith gael gwybodaeth am gynllun Kickstart drwy fynd i www.sirgar.llyw.cymru/kickstart

Continue Reading

Cymraeg

Y Cyngor yn erlyn dyn o Landysul am achos ‘erchyll’ o esgeuluso ceffylau

Published

on

Anffurfiwyd eu carnau mor wael nes i'r milfeddyg ddweud mai hwn oedd y gwaethaf a welodd mewn dros 40 mlynedd o ymarfer

MAE dyn o Landysul sydd â gwaharddiad gydol oes rhag cadw ceffylau wedi ei ddyfarnu’n euog o esgeuluso ceffylau, roedd cyflwr y ceffylau mor wael nes i filfeddyg profiadol ddisgrifio’r achos fel yr un mwyaf erchyll a welodd erioed.

Roedd David Robert Davies, o Faes Dilen, Pentre-cwrt, wedi cyfaddef ei fod wedi gadael dwy ferlen i ddioddef mor wael nes bod yn rhaid eu difa i ddod â’u poen i ben.

Cafodd yr achos ei ddwyn gerbron Llys Ynadon Llanelli gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Roedd swyddog lles anifeiliaid y Cyngor wedi dod o hyd i’r merlod yn cael eu cadw yn y twyllwch gyda deunydd eu gwelyau wedi baeddu hyd at uchder gwasg ac roedd cyflwr eu carnau mor wael dywedodd y milfeddyg mai’r rhain oedd y gwaethaf iddo weld mewn dros 40 mlynedd o ymarfer.

Yn ystod ei ymchwiliad, roedd y cyngor wedi canfod bod gan Davies gollfarnau blaenorol am droseddau tebyg yn ymwneud â lles anifeiliaid a olygai ei fod wedi’i wahardd rhag cadw ceffylau am oes.

Er nad oedd yn berchen ar y merlod, cyfaddefodd ei fod yn ymwybodol o’u cyflwr ac na ddylai fod wedi gadael iddynt ddioddef.

Cafodd ei ddedfrydu i 12 wythnos yn y ddalfa, wedi’i ohirio am 24 mis a chafodd orchymyn cymunedol o 12 mis gyda 250 awr o waith di-dâl ac adsefydlu. Yn ogystal, cafodd orchymyn i dalu £6,367 o gostau a gordal dioddefwr o £122.

Daeth yr achos i’r amlwg ym mis Chwefror, 2020, pan gynhaliodd swyddog lles anifeiliaid y cyngor arolygiad dirybudd o ddefaid a gedwir gan Davies ar gaeau y mae’n eu rhentu yn Nre-fach Felindre.

Fe’u cadwyd yn y tywyllwch, heb allu edrych allan o’r sied

Wrth aros iddo gyrraedd, sylwodd ar sied wedi’i gorchuddio â phaledi pren a tharpolin – a phan edrychodd drwy dwll gallai weld dwy ferlen yn sefyll yn eu hymgarthion eu hunain.

Yng nghwmni milfeddyg o’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, aeth i mewn i’r sied a dod o hyd i’r merlod gyda deunydd eu gwelyau wedi’u baeddu a’u cotiau’n glymog gydag ymgarthion sych, eu carnau wedi gordyfu’n wael a’u cynffonnau mor fyr roedd yn ymddangos y gallent fod wedi bwyta nhw eu hunain allan o ddiflastod.

Nid oedd gan y merlod unrhyw beth i’w fwyta – nid oedd gan un ferlen ddŵr ac roedd gan y llall ysgarthion yn ei bwced dŵr.

Roeddent yn cael eu cadw yn y tywyllwch, yn methu ag edrych allan o’r sied a dim ond dros rwystr pren a oedd yn eu gwahanu yr oeddent yn gallu cyffwrdd â’i gilydd.

Pan gyrhaeddodd y diffynnydd a chafodd ei herio ynghylch cyflwr y merlod, dywedodd nad ei ferlod ef oedden nhw – i ddechrau dywedodd eu bod yn eiddo i berchennog y cae ac yna, pan gafodd yr honiad hwn ei wrthod, dywedodd eu bod yn eiddo i’w lysferch ac nad mewn cysylltiad â hi.

Fodd bynnag, cytunodd i drefnu bod y merlod yn cael sylw brys, carthu’r sied a rhoi bwyd a dŵr glân iddynt.

Dros y diwrnodau dilynol, gwnaeth y swyddog iechyd anifeiliaid sawl ymgais i gysylltu â llysferch Davies ond ni chafodd ateb a gwnaeth ailymweld â’r merlod pan gytunodd perchennog y cae i ddatgan eu bod wedi cael eu gadael ar ei dir.

Dim ond pan welwyd y merlod yng ngolau dydd y daeth eu gwir gyflwr i’r amlwg – dywedodd milfeddyg a alwodd i’w trin mai anffurfiad pob un o bedwar carn y ferlen ddu oedd yr achos gwaethaf o esgeulustod a welodd erioed mewn 40 mlynedd o ymarfer.

Roedd cyflwr traed yr ail ferlen ddu a gwyn yn wael iawn hefyd ac roedd ei chyhyrau’n crynu wrth iddi gerdded gan awgrymu nad oedd wedi cael dim neu fawr ddim o ymarfer corff am gryn amser.

Cafodd y ddwy ferlen driniaeth ond ddiwrnodau yn unig yn ddiweddarach roedd yn rhaid eu difa a dywedodd y milfeddyg ei fod yn credu iddynt ddioddef am o leiaf 12 mis.

Yn yr ymchwiliad dilynol, datgelwyd bod Davies wedi’i wahardd rhag bod yn berchen ar geffylau, eu cadw neu gymryd rhan yn y gwaith o gadw ceffylau am oes yn dilyn erlyniad gan y RSPCA yn 2015.

Nid oedd gan y merlod unrhyw beth i’w fwyta – nid oedd gan un ddŵr ac roedd gan y llall faw yn ei fwced ddŵr.

Yn ystod y cyfweliad, roedd yn dal i ddweud bod y merlod yn eiddo i’w lysferch sydd wedi ymddieithrio, er ei fod yn derbyn nad oedd erioed wedi’i gweld yn yr eiddo na gyda’r merlod.

Dywedodd eu bod wedi bod yn y sied ers tua mis Hydref 2019, ond nad oedd yn gwybod pwy oedd wedi eu rhoi yno. Er y byddai’n taflu gwair a bwyd i mewn i’r sied o bryd i’w gilydd, dywedodd nad oedd erioed wedi gweld neb yn eu bwydo nac yn gofalu amdanynt.

Dywedodd y tirfeddiannwr, a gafodd ei gyfweld hefyd, nad oedd yn ymwybodol bod y merlod yn y sied ar ei eiddo.

Daethpwyd o hyd i lysferch Davies yn y pen draw ond gwadodd ei bod yn gwybod unrhyw beth am y merlod yn y sied.

Yn ei achos yn Llys Ynadon Llanelli ar 13 Awst, plediodd Davies yn euog i ddwy drosedd o achosi dioddefaint diangen i ddau geffyl a thorri gorchymyn anghymhwyso mewn perthynas â cheffylau.

Er nad oedd yn berchen arnynt, cyfaddefodd ei fod yn ymwybodol o’u dioddefaint a’i fod wedi methu â chael cymorth milfeddygol iddynt, gan roi’r bai ar ei iechyd sy’n dirywio, ei fod yn unig ofalwr i’w bartner a’i fod yn addysgu eu dau blentyn yn y cartref.

Ar ôl y gollfarn, dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Ddiogelu’r Cyhoedd: “Oni bai am weithredoedd ein swyddog iechyd anifeiliaid, a ddilynodd ei greddf a mynd ati i edrych yn y sied, efallai y byddai’r merlod hyn yn dal i ddioddef heddiw. Mae hwn yn achos ofnadwy o esgeulustod brawychus, y gellir bod wedi’i osgoi.

Continue Reading

Trending

FOLLOW US ON FACEBOOK