Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Cofi o Rhys ap Gruffudd yng Nghastell Aberteifi

Published

on

o garregNEWYDDION syfrandol ecscliwsif i’w ddatgelu’r wythnos hon. Mae’r newyddion yn dal i ddod i law wrth i fi ysgrifennu. Dwi’n whys drabŵd. Dwi’n siŵr y bydd pawb ohonoch am fod yn Aberteifi ar ddydd Sadwrn, Gorff ennaf 25. Pam? Wel, prif ddigwyddiad dathlu ail-agor Castell Aberteifi gwlei. Gwariwyd dros £12m o’ch arian chi a fi ar ei adfer ac mae Ymddiriedolaeth Cadwgan, sy’n gofalu amdano ar ein rhan, wedi trefnu sbloet ysblennydd. Rhaid diolch iddyn nhw am eu gweledigaeth. Tua hanner dydd bydd yr Archdderwydd, ar gefn march buddugol Dydd Sadwrn Barlys, yn arwain gorymdaith o gannoedd trwy strydoedd y dref. Chwarae teg i’r trefnwyr feddwl am gyfuno dau draddodiad hynafol sy’n gysylltiedig â’r dref.

Gŵyr pawb ohonoch wrth gwrs mai castell Aberteifi yw crud yr Eisteddfod ers pan gynhaliodd y Tywysog Rhys ap Gruff udd yr eisteddfod gyntaf y gwyddom amdani o fewn muriau ei gastell. Am fod Rhys wedi gwahodd cynrychiolwyr o’r gwledydd Celtaidd i gymryd rhan mae Ymddiriedolaeth Cadwgan wedi gwneud yr un modd dros 800 mlynedd yn ddiweddarach. Wel, dyna’r cam amlwg. Mae’n debyg y bydd seiniau’r pibau, y bodhran, y delyn a’r bombard i’w clywed yn ystod yr orymdaith. Bydd cyngerdd mawreddog o fandiau gwerin yn cychwyn o fewn muriau’r castell yn gynnar yn y prynhawn. A sdim dowt yn nhafarne’r dre ‘fyd. Mae’r rhestr yn rhy faith i’w nodi fan hyn.

Ond mae Calan, 9Bach a Mabon ymhlith y prif grwpiau o Gymru, Alan Stivell o Lydaw a bydd Ryland Teifi yn arwain y Gwyddelod yn cynnwys yr enwog Clancys. Bydd yna seremoni arbennig yn cael ei harwain gan y Gorseddigion hefyd wedi’i llunio’n benodol ar gyfer yr achlysur. Deallwn fod y prifardd lleol, Ceri Wyn, wedi derbyn comisiwn i gyfansoddi cerdd ar gyfer yr achlysur. Mae’n siŵr y bydd yna Dalyrna dychryn daear. Diolch i Ymddiriedolaeth Cadwgan am eu gweledigaeth. Deallaf hefyd – ac mae’n anodd credu hyn – ond comisiynwyd Karl Jenkins o Benclawdd i gyfansoddi gwaith cerddorol mawreddog i gyfl eu ysbryd yr oesoedd o fewn y castell. Deallaf fod Ar Ôl Tri, corau Islwyn Evans a Buddug Verona James, ymhlith eraill o’r cyfoeth o dalentau lleol, wrthi fel lladd nadroedd yn ymarfer.

Bydd y perff ormiad gyda cherddorfa lawn yn cael ei ddangos yn fyw ar S4C. Rhaid diolch i Ymddiriedolaeth Cadwgan am eu gweledigaeth eithriadol. Mae myrdd o ddigwyddiade ymylol ar y gweill hefyd a chyrff cenedlaethol yn cyfrannu at y dathlu. Cadarnhaodd Dylan Iorwerth y bydd rhifyn arbennig o Golwg yn cael ei gynhyrchu yn llawn o newyddion 1176 ‘er mwyn cyfl eu ysbryd yr oes’ meddai. Bydd hanner tudalen o sbloet yn y Teifi seid. Mae neges yn dod i law’r funud hon yn dweud fod y Theatr Genedlaethol wedi comisiynu drama gan Caryl Lewis i’w pherff ormio yn yr awyr agored. Mae’n debyg mai ‘Cadwgan’ yw enw’r cynhyrchiad. Ac mae Rhys Ifans yn chwarae’r brif ran. Mae Mathew Rhys a Ioan Gruff udd yno’n rhywle ‘fyd. Mae’n anodd credu fod gan Ymddiriedolaeth Cadwgan y fath ddychymyg.

Wel, wel, ar ben hynny mae Danny Boyle wedi’i gyfl ogi i drefnu uchafbwynt gwir ysblennydd i’r diwrnod yn llawn goleuadau a phasiant a chyff ro ac emosiwn a fydd yn cydio yn y dref gyfan. Bydd yr afon wedi’i goleuo. Bydd ffl otilla o fadau’n hwylio heibio yn llawn cerddorion Celtaidd. Bydd Danny Boyle yn trefnu eogiaid Teifi i neidio ar draws y dŵr a mwy. Ac yn gopsi ar y cwbwl clywir llais Dafydd Iwan yn canu ‘Yma o Hyd’. ‘Dyna fydd coron fy ngyrfa’, meddai Dafydd. Ni chredaf y bydd Aberteifi ’n cysgu’r noson honno. Deallir y bydd Iolo James a’r grŵp, Y Ffug, yn canu ‘Anghofi wch Dryweryn’ cyn i Ddafydd ei morio hi. Mae Iolo yn arddel yr un agwedd heriol ag oedd gan Dafydd pan oedd yntau’n ifanc. Trannoeth bydd y Parch Ddr Guto Prys ap Gwynfor yn pregethu yng Nghapel Mair. Ei destun fydd ‘Pa beth yr aethom allan i’w achub?’. A bydd Dewi Pws yn bysgio ar Sgwâr Ffi nsh. Ni ellir diolch digon i Ymddiriedolaeth Cadwgan am eu gweledigaeth. Mae’n rhaid bydd Gŵyl Cadwgan yn marchnata ei hun. Bydd y dvd a wneir o’r achlysur yn gwerthu fel slecs i ymwelwyr yr ‘high end heritage market’. Cewch wybod mwy gen i am y trefniade yr wythnos nesaf oni bai y bydd rhywun wedi fy mhinso ar ddihun.

Continue Reading
Advertisement
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Cyngor yn ymateb ar gyflymder i gyflawni gwelliannau sylweddol yn ei wasanaeth cynllunio

Published

on

MAE ARCHWILIO Cymru wedi cynnal Adolygiad Dilynol o Wasanaethau Cynllunio gan Gyngor Sir Gaerfyrddin ac wedi dod i’r casgliad fod y cyngor wedi llwyddo i fynd i’r afael â’i holl argymhellion.

Ym mis Gorffennaf 2021, cyhoeddodd Archwilio Cymru adroddiad yn dilyn adolygiad o wasanaethau cynllunio’r cyngor, ac roedd ei ganfyddiadau yn nodi materion perfformiad arwyddocaol a hirsefydlog yn y gwasanaeth cynllunio yr oedd angen mynd i’r afael â nhw ar frys er mwyn helpu i gefnogi’r gwaith o gyflawni uchelgeisiau’r cyngor.

Fe gafodd 17 o argymhellion eu gwneud gan Archwilio Cymru er mwyn i’r cyngor fynd i’r afael â nhw. Mae’r adroddiad wedi cadarnhau eu bod i gyd wedi eu diwallu.

Mewn ymateb i argymhellion yr adroddiad, fe wnaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin alw Bwrdd Ymyrraeth i ddarparu goruchwyliaeth o gynllun gweithredu 49 pwynt er mwyn ymateb i ganfyddiadau Archwilio Cymru a gafodd eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2021. Dros y 15 mis diwethaf, mae’r cynnydd yn erbyn y cynllun wedi’i fonitro drwy fframwaith llywodraethu’r cyngor i roi sicrwydd o gynnydd a wnaed yn erbyn yr argymhellion.

Mae Archwilio Cymru wedi bod yn dilyn cynnydd y cyngor trwy gynnal cyfarfodydd dal i fyny’n rheolaidd gyda’r cyngor, adolygu dogfennau a chraffu ar gyfarfodydd pwyllgor llywodraethu ac archwilio. Maent hefyd wedi cyfweld â swyddogion allweddol y cyngor yn ystod y broses archwilio.

O fewn yr adolygiad dilynol, sydd wedi ei gyhoeddi ar ei gwefan, mae Archwilio Cymru’n dweud:

“Mae’r Cyngor i’w ganmol am y camau pendant, cyflym a gymerodd mewn ymateb i ganfyddiadau ein hadroddiad yn 2021, ac am y ffordd y mae wedi ysgogi gwelliannau yn ei wasanaeth cynllunio.

“Mae’r ffordd adeiladol y derbyniodd y Cyngor ein hadroddiad a gweithredu ar yr argymhellion yn enghraifft arbennig o gadarnhaol o Gyngor yn dangos ei ymrwymiad i wella wrth ddarparu gwasanaethau.

“Mae’r Cyngor wedi dysgu gwersi o’r adolygiad y mae hefyd wedi’i roi ar waith yn ehangach, yn enwedig mewn perthynas â rheoli perfformiad.

“Ar y cyfan, gwelsom fod y Cyngor wedi llwyddo i fynd i’r afael â’n holl argymhellion ac wedi ymateb ar gyflymder i gyflawni gwelliannau sylweddol yn ei wasanaeth cynllunio.”

Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio:

“Rwy’n falch iawn o adroddiad Archwilio Cymru sydd yn dweud bod Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi llwyddo i oresgyn heriau o fewn ein hadran gynllunio.

“Mae’r adroddiad yn rhagorol, mae’n canmol y gwaith a’r newid mewn systemau, gweithdrefnau ac arweinyddiaeth, gan gydnabod y gwelliant sylweddol sydd wedi’i gyflawni.

“Nid diffyg moeseg gwaith oedd yn gyfrifol am y materion dan sylw, gan fy mod yn gwybod o lygad y ffynnon am yr ymdrech a’r ymroddiad sy’n cael eu rhoi i mewn gan nifer o’n swyddogion. Yn hytrach y prosesau oedd ar fai ac roedd angen eu haddasu, gan nad oedd yn rhoi’r amgylchedd priodol i swyddogion gyflawni’r gwaith oedd ei angen.

“Hoffwn ddiolch i holl swyddogion y cyngor sydd wedi gweithio mor galed ers Gwanwyn 2021 i gyrraedd y nod o gwrdd â phob un o’r 17 o’r argymhellion a gafodd eu nodi yn wreiddiol gan Archwilio Cymru.

“Y cam nesaf, wrth gwrs, yw dal ati, parhau i symud ymlaen er mwyn aros ar flaen y gad fel un o’r awdurdodau cynllunio mwyaf cynhyrchiol yng Nghymru. Mae gwaith pellach i’w wneud ac rydym wedi ymrwymo i wella’n barhaus, yn enwedig ym myd gorfodi ond rydym yn symud i’r cyfeiriad cywir gyda dros 1000 o achosion gorfodi eisoes wedi’u datrys yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.”

Cliciwch yma i weld copi llawn o’r Adolygiad Dilynol o’r Gwasanaethau Cynllunio ar wefan Archwilio Cymru.

Continue Reading

Charity

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn defnyddio rhoddion i greu ystafell dawel ar gyfer eu haelodau staff

Published

on

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu cadeiriau cyfforddus a byrddau coffi ar gyfer yr ystafell staff wedi’i hadnewyddu yn ward anadlol Padarn yn Ysbyty Glangwili.
Mae Ward Padarn wedi symud i leoliad newydd, parhaol ac mae’r ystafell staff wedi’i gwella i’w gwneud yn ardal fwy ymlaciol.
Dywedodd Lynwen Williams, Uwch Swyddog Cyswllt Gweithredol ar gyfer Gofal Heb ei Drefnu yn Ysbyty Glangwili: “Bydd y dodrefn newydd yn helpu gyda lles staff, gan ei wneud yn fwy cyfforddus a deniadol.
“Mae Cynghrair Cyfeillion yr ysbyty hefyd wedi talu am furlun i addurno ystafell y staff, felly mae bellach yn lle tawel.”
Ychwanegodd Nicola Llewellyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Os hoffech gefnogi eich GIG lleol, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk

Continue Reading

Cymraeg

Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi yn ystod yr argyfwng costau byw

Published

on

RYDYM AM sicrhau bod holl drigolion Sir Gaerfyrddin yn ymwybodol o’r cymorth ariannol a’r cymorth i’r aelwydydd sydd ar gael.

Rydym ni’n gwybod pa mor anodd yw hi pan fo angen cymorth arnoch ond heb fod yn gwybod ble i droi – rydym am i chi wybod ein bod yma i chi.

Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin dîm ymroddedig o ymgynghorwyr sydd yma i wrando a’ch helpu i wneud cais am y cymorth, y gwasanaethau a’r arian y mae’n bosibl fod gennych hawl iddynt.

Mae 2 ffordd o gael mynediad at y cymorth hwn.

Ar-lein – drwy fynd i dudalen Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi y Cyngor, lle gallwch gael gwybodaeth am amrywiaeth eang o gynlluniau cymorth neu drefnu i siarad ag ymgynghorydd.

Ewch i un o’n Canolfannau HWB – yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman a siaradwch ag un o’n hymgynghorwyr HWB cyfeillgar.

Ers mis Ebrill eleni, mae ymgynghorwyr HWB wedi cael dros 400 o geisiadau am gyngor a chymorth gan drigolion Sir Gaerfyrddin ac wedi helpu gyda cheisiadau am ystod o gynlluniau cymorth gan y Cyngor a thrydydd partïon. Ymhlith y rhain mae Bathodynnau Glas ar gyfer parcio i bobl anabl, gostyngiadau ar y Dreth Gyngor, Taliadau Annibyniaeth Personol, a grantiau i helpu rhieni i brynu hanfodion ysgol, fel gwisg ysgol.

Yn ogystal â rhoi cymorth drwy ei Ganolfannau HWB a’i dudalen ‘Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’, bydd Cyngor Sir Gaerfyrddin yn cyfarfod â phartneriaid a rhanddeiliaid lleol i drafod a rhannu gwybodaeth, ynghyd ag arferion gorau, fel y gallwn weithio tuag at ddarparu pecyn cymorth gwirioneddol aml-asiantaeth i aelwydydd agored i niwed yn Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac arweinydd y Cabinet ar y maes hwn, sef y Cynghorydd Linda Evans, “Nawr, yn fwy nag erioed, mae’n bwysig bod pobl yn gwybod pa gymorth a buddion sydd ar gael iddynt wrth i’r costau byw gynyddu, sy’n effeithio arnom i gyd.

“Mae talu am fwyd, ynni, tanwydd a’r morgais, i enwi ond ychydig o’r costau cynyddol, yn flaenllaw yn ein meddyliau ni i gyd, felly mae’n hynod o bwysig bod pobl yn gallu cael mynediad at ba bynnag gymorth sydd ar gael iddynt.

“Mae’r broses o wneud cais am gefnogaeth wahanol yn gallu bod yn llethol a dyna pam rydyn ni wedi sefydlu timau HWB, yn Llanelli, Rhydaman a Chaerfyrddin i bobl alw heibio a siarad ag ymgynghorydd. Gall ein hymgynghorwyr HWB eich arwain drwy’r prosesau gwahanol ar gyfer gwneud cais am gymorth a budd-daliadau ac efallai y gallant awgrymu canghennau eraill o gymorth nad ydych efallai’n ymwybodol ohonynt. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim.

“Yn ddiweddar, mae’r cyngor wedi dechrau dosbarthu Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf Llywodraeth Cymru ac yn ddiweddarach y mis hwn, byddwn yn cynnal digwyddiad costau byw i ddod ag ystod o asiantaethau partner ynghyd i ddeall yn well beth arall mae’n bosib ei wneud ar lefel leol i gefnogi’r rhai sy’n cael eu taro galetaf gan yr argyfwng costau byw.”

I gael help gan ymgynghorydd HWB neu i gael rhagor o wybodaeth am sut i gael cymorth, budd-daliadau a gwasanaethau, ewch i’r dudalen Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.

Continue Reading

Trending

FOLLOW US ON FACEBOOK