Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Noson y Gorweliaid a Chawl Caffi Beca

Published

on

PWY DDYWEDODD synnon ni’n gallu creu ein hadloniant ein hunain gwedwch? Towlwch y zapper. Rhowch y gore i wasgu botyme’r cyfrifiadur. Diffoddwch y bocs. Cwatwch yr i-ffôn. A rhowch eich dychymyg ar waith gan ddefnyddio dim mwy na chof a llais. Pe baech chi yng Nghaffi Beca, yn Efail-wen, yn ddiweddar, buasech wedi cael dwy awr ddifyr o frethyn cartre’ ar ben basned o gawl.

Mae Robert James yn adnabyddus am ansawdd ei gawl wrth gwrs. Cawl cartre’ yn llysie a chig sy’n bryd ynddo’i hun yn hytrach na’r cawl tene dwrllyd ‘ma gewch chi yn ambell i fan a chithe’n whilo’n ofer am ddarn bach o gig yn ei ganol. Ac fe gewch chi’r trimins i fynd ‘da ge. Hynny yw, cwlffyn o gaws a thafell o fara. Gallwch ddathlu Gŵyl Ddewi bob dydd o’r flwyddyn yng Nghaffi Beca. Cawl ffarm heb ei ail.

Felly oedd hi ar fanc Efail-wen ar ffin y ddwy sir ar nos Sadwrn ar ddiwedd mis bach. Roedd y llwythe wedi dod ynghyd i fwynhau adloniant wedi’i ddarparu gan lwyth y Lewysiaid neu griw’r Gorwelion o gyffinie Login. Sdim rhyfedd fod y lle’n llawn. Roedd un o’r ieuengaf o’u plith, Gwyndaf, yn codi arian ar gyfer ymweld â Phatagonia yn yr haf. Fe’n tywyswyd nôl i ddyddie’r Nosweithie Llawen yn garlibwns.

Beth gafwyd te meddech chi? Wel, wnâi ddim datgelu’r cwbl. Ond i roi rhyw awgrym i chi, roedd tair cyfeilyddes gan y criw i eilio wrth y piano. Cafwyd caneuon cyfarwydd gan unigolion, deuawdau, partïon a hyd yn oed côr cyfan pan oedd y teulu’n grwn ar y llwyfan. Wrth gwrs bod yna elfen fyrfyfyr yn perthyn i’r cyfan. Ond roedd hynny’n ychwanegu at yr ysbryd cartrefol, gwlei.

Cafwyd sgetsus a’r rheini’n digwydd yng nghanol y gynulleidfa. Roedd ymdrech y pwr dab i gofio archeb diodydd un byrdded erbyn iddo gyrraedd y bar ac ail-gynnig sawl gwaith i’w gael yn gywir yn dreth ar amynedd ei gefnder o farman ond yn codi gwên ar wyneb y gynulleidfa. ‘Ma fe wedi cymysgu’n garbel to’! medde rhywun wrth fy ymyl.

Roedd y ddau strab hŷn wedyn, Eurfyl fel doctor, a’i frawd, Tudur, fel claf yn y syrjeri nad oedd ar frys, a’r holl gleifion eraill a’u hanhwylderau difrifol, yn creu rhialtwch. Ni chredaf fod yna’r fath syrjeri yn Arberth na Hendy-gwyn. Llwyddodd Eurfyl i esgor babi ei chwaer yn y fan a’r lle mewn dwy funud. Fiw i mi ddatgelu pam nad oedd Tudur ar hast i weld y meddyg er taw fe oedd y claf cyntaf i gyrraedd. Bodlon oedd i adael pawb arall i fynd at y stethosgop o’i flaen. Pert ‘achan.

Ond rhaid cyfeirio at y gân sgets canu gwlad a’r gân grafog am gyn-brif weithredwr Cyngor Sir Penfro, Bryn Parry Jones, a phrif weithredwr presennol Sir Gar, Mark James. Go dda wir. Ma’r canu gwlad ‘ma’n gallu arwain dyn i’r dwnshwn eithaf o ddiflastod ac anobaith. A bydd hanes y Porsche fyw am getyn, gwlei. Cystel bob tamed â baled Lefi Gibwn i’r ‘Beca’.

Gwn am ambell ardal gyffelyb ble byddai’n rhaid cael cyfran o eiteme yn Saesneg rhag digio’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg. Fan hyn rhowd cyfle i’r prin eu Cymraeg werthfawrogi’r modd y mae’r Gymraeg yn gallu cynnal noson o adloniant ar ei phen ei hun. Gwnaed y cwbl yn gwbl naturiol. Roedd pawb yn corco wherthin.

Cishwch gyda Gorweliaid Gorwelion i ddod i ddifyrru yn eich ardal chi. A cishwch gyda mam-gu’r un-ar-ddeg o wyrion i roi unawd hefyd. Ond bydd basned o gawl a sêrs ar ei wmed yn gaffaeliad ‘fyd.

Roedd hi’n noson a wnâi fy atgoffa o ddifyrwch Bois y Frenni. A wyddech chi wedyn te fod y parti’n ddeg a thrigain oed eleni? Odyn wir. Ma’ na ddathlu i fod mae’n debyg. Noson yn Neuadd Boncath o gofio mai dyna lle berfformion nhw gyntaf erioed o dan arweiniad y chwedlonol Wil Glynsaithmaen. Ma’ nhw’n dal i berfformio’n gyson, wrth gwrs, ac yn cyfyngu eu hunain i’r hen ganeuon.

Ma’ rhywbeth yn braf yn hynny o beth. Ma’n nhw’n dal i ganu cloch a tharo deuddeg yng nghysgod y Frenni Fawr. Ma’ Gwyndaf Lewis yn un o’r aelodau; eled ag afiaith y Preselau yn ei ges i Batagonia.

Continue Reading
Advertisement
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Cyngor yn ymateb ar gyflymder i gyflawni gwelliannau sylweddol yn ei wasanaeth cynllunio

Published

on

MAE ARCHWILIO Cymru wedi cynnal Adolygiad Dilynol o Wasanaethau Cynllunio gan Gyngor Sir Gaerfyrddin ac wedi dod i’r casgliad fod y cyngor wedi llwyddo i fynd i’r afael â’i holl argymhellion.

Ym mis Gorffennaf 2021, cyhoeddodd Archwilio Cymru adroddiad yn dilyn adolygiad o wasanaethau cynllunio’r cyngor, ac roedd ei ganfyddiadau yn nodi materion perfformiad arwyddocaol a hirsefydlog yn y gwasanaeth cynllunio yr oedd angen mynd i’r afael â nhw ar frys er mwyn helpu i gefnogi’r gwaith o gyflawni uchelgeisiau’r cyngor.

Fe gafodd 17 o argymhellion eu gwneud gan Archwilio Cymru er mwyn i’r cyngor fynd i’r afael â nhw. Mae’r adroddiad wedi cadarnhau eu bod i gyd wedi eu diwallu.

Mewn ymateb i argymhellion yr adroddiad, fe wnaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin alw Bwrdd Ymyrraeth i ddarparu goruchwyliaeth o gynllun gweithredu 49 pwynt er mwyn ymateb i ganfyddiadau Archwilio Cymru a gafodd eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2021. Dros y 15 mis diwethaf, mae’r cynnydd yn erbyn y cynllun wedi’i fonitro drwy fframwaith llywodraethu’r cyngor i roi sicrwydd o gynnydd a wnaed yn erbyn yr argymhellion.

Mae Archwilio Cymru wedi bod yn dilyn cynnydd y cyngor trwy gynnal cyfarfodydd dal i fyny’n rheolaidd gyda’r cyngor, adolygu dogfennau a chraffu ar gyfarfodydd pwyllgor llywodraethu ac archwilio. Maent hefyd wedi cyfweld â swyddogion allweddol y cyngor yn ystod y broses archwilio.

O fewn yr adolygiad dilynol, sydd wedi ei gyhoeddi ar ei gwefan, mae Archwilio Cymru’n dweud:

“Mae’r Cyngor i’w ganmol am y camau pendant, cyflym a gymerodd mewn ymateb i ganfyddiadau ein hadroddiad yn 2021, ac am y ffordd y mae wedi ysgogi gwelliannau yn ei wasanaeth cynllunio.

“Mae’r ffordd adeiladol y derbyniodd y Cyngor ein hadroddiad a gweithredu ar yr argymhellion yn enghraifft arbennig o gadarnhaol o Gyngor yn dangos ei ymrwymiad i wella wrth ddarparu gwasanaethau.

“Mae’r Cyngor wedi dysgu gwersi o’r adolygiad y mae hefyd wedi’i roi ar waith yn ehangach, yn enwedig mewn perthynas â rheoli perfformiad.

“Ar y cyfan, gwelsom fod y Cyngor wedi llwyddo i fynd i’r afael â’n holl argymhellion ac wedi ymateb ar gyflymder i gyflawni gwelliannau sylweddol yn ei wasanaeth cynllunio.”

Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio:

“Rwy’n falch iawn o adroddiad Archwilio Cymru sydd yn dweud bod Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi llwyddo i oresgyn heriau o fewn ein hadran gynllunio.

“Mae’r adroddiad yn rhagorol, mae’n canmol y gwaith a’r newid mewn systemau, gweithdrefnau ac arweinyddiaeth, gan gydnabod y gwelliant sylweddol sydd wedi’i gyflawni.

“Nid diffyg moeseg gwaith oedd yn gyfrifol am y materion dan sylw, gan fy mod yn gwybod o lygad y ffynnon am yr ymdrech a’r ymroddiad sy’n cael eu rhoi i mewn gan nifer o’n swyddogion. Yn hytrach y prosesau oedd ar fai ac roedd angen eu haddasu, gan nad oedd yn rhoi’r amgylchedd priodol i swyddogion gyflawni’r gwaith oedd ei angen.

“Hoffwn ddiolch i holl swyddogion y cyngor sydd wedi gweithio mor galed ers Gwanwyn 2021 i gyrraedd y nod o gwrdd â phob un o’r 17 o’r argymhellion a gafodd eu nodi yn wreiddiol gan Archwilio Cymru.

“Y cam nesaf, wrth gwrs, yw dal ati, parhau i symud ymlaen er mwyn aros ar flaen y gad fel un o’r awdurdodau cynllunio mwyaf cynhyrchiol yng Nghymru. Mae gwaith pellach i’w wneud ac rydym wedi ymrwymo i wella’n barhaus, yn enwedig ym myd gorfodi ond rydym yn symud i’r cyfeiriad cywir gyda dros 1000 o achosion gorfodi eisoes wedi’u datrys yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.”

Cliciwch yma i weld copi llawn o’r Adolygiad Dilynol o’r Gwasanaethau Cynllunio ar wefan Archwilio Cymru.

Continue Reading

Charity

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn defnyddio rhoddion i greu ystafell dawel ar gyfer eu haelodau staff

Published

on

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu cadeiriau cyfforddus a byrddau coffi ar gyfer yr ystafell staff wedi’i hadnewyddu yn ward anadlol Padarn yn Ysbyty Glangwili.
Mae Ward Padarn wedi symud i leoliad newydd, parhaol ac mae’r ystafell staff wedi’i gwella i’w gwneud yn ardal fwy ymlaciol.
Dywedodd Lynwen Williams, Uwch Swyddog Cyswllt Gweithredol ar gyfer Gofal Heb ei Drefnu yn Ysbyty Glangwili: “Bydd y dodrefn newydd yn helpu gyda lles staff, gan ei wneud yn fwy cyfforddus a deniadol.
“Mae Cynghrair Cyfeillion yr ysbyty hefyd wedi talu am furlun i addurno ystafell y staff, felly mae bellach yn lle tawel.”
Ychwanegodd Nicola Llewellyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Os hoffech gefnogi eich GIG lleol, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk

Continue Reading

Cymraeg

Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi yn ystod yr argyfwng costau byw

Published

on

RYDYM AM sicrhau bod holl drigolion Sir Gaerfyrddin yn ymwybodol o’r cymorth ariannol a’r cymorth i’r aelwydydd sydd ar gael.

Rydym ni’n gwybod pa mor anodd yw hi pan fo angen cymorth arnoch ond heb fod yn gwybod ble i droi – rydym am i chi wybod ein bod yma i chi.

Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin dîm ymroddedig o ymgynghorwyr sydd yma i wrando a’ch helpu i wneud cais am y cymorth, y gwasanaethau a’r arian y mae’n bosibl fod gennych hawl iddynt.

Mae 2 ffordd o gael mynediad at y cymorth hwn.

Ar-lein – drwy fynd i dudalen Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi y Cyngor, lle gallwch gael gwybodaeth am amrywiaeth eang o gynlluniau cymorth neu drefnu i siarad ag ymgynghorydd.

Ewch i un o’n Canolfannau HWB – yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman a siaradwch ag un o’n hymgynghorwyr HWB cyfeillgar.

Ers mis Ebrill eleni, mae ymgynghorwyr HWB wedi cael dros 400 o geisiadau am gyngor a chymorth gan drigolion Sir Gaerfyrddin ac wedi helpu gyda cheisiadau am ystod o gynlluniau cymorth gan y Cyngor a thrydydd partïon. Ymhlith y rhain mae Bathodynnau Glas ar gyfer parcio i bobl anabl, gostyngiadau ar y Dreth Gyngor, Taliadau Annibyniaeth Personol, a grantiau i helpu rhieni i brynu hanfodion ysgol, fel gwisg ysgol.

Yn ogystal â rhoi cymorth drwy ei Ganolfannau HWB a’i dudalen ‘Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’, bydd Cyngor Sir Gaerfyrddin yn cyfarfod â phartneriaid a rhanddeiliaid lleol i drafod a rhannu gwybodaeth, ynghyd ag arferion gorau, fel y gallwn weithio tuag at ddarparu pecyn cymorth gwirioneddol aml-asiantaeth i aelwydydd agored i niwed yn Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac arweinydd y Cabinet ar y maes hwn, sef y Cynghorydd Linda Evans, “Nawr, yn fwy nag erioed, mae’n bwysig bod pobl yn gwybod pa gymorth a buddion sydd ar gael iddynt wrth i’r costau byw gynyddu, sy’n effeithio arnom i gyd.

“Mae talu am fwyd, ynni, tanwydd a’r morgais, i enwi ond ychydig o’r costau cynyddol, yn flaenllaw yn ein meddyliau ni i gyd, felly mae’n hynod o bwysig bod pobl yn gallu cael mynediad at ba bynnag gymorth sydd ar gael iddynt.

“Mae’r broses o wneud cais am gefnogaeth wahanol yn gallu bod yn llethol a dyna pam rydyn ni wedi sefydlu timau HWB, yn Llanelli, Rhydaman a Chaerfyrddin i bobl alw heibio a siarad ag ymgynghorydd. Gall ein hymgynghorwyr HWB eich arwain drwy’r prosesau gwahanol ar gyfer gwneud cais am gymorth a budd-daliadau ac efallai y gallant awgrymu canghennau eraill o gymorth nad ydych efallai’n ymwybodol ohonynt. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim.

“Yn ddiweddar, mae’r cyngor wedi dechrau dosbarthu Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf Llywodraeth Cymru ac yn ddiweddarach y mis hwn, byddwn yn cynnal digwyddiad costau byw i ddod ag ystod o asiantaethau partner ynghyd i ddeall yn well beth arall mae’n bosib ei wneud ar lefel leol i gefnogi’r rhai sy’n cael eu taro galetaf gan yr argyfwng costau byw.”

I gael help gan ymgynghorydd HWB neu i gael rhagor o wybodaeth am sut i gael cymorth, budd-daliadau a gwasanaethau, ewch i’r dudalen Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.

Continue Reading

Trending

FOLLOW US ON FACEBOOK