Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Eisteddfod Llangollen yn Lansio Rhaglen 2020

Published

on

MAE Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi cyhoeddi ei raglen ar gyfer 2020 (7-12 Gorffennaf 2020), ac mae tocynnau nawr ar werth.

Mae’r dathliad unigryw o heddwch a harmoni rhyngwladol yn dychwelyd am y 74ain tro, gyda pherfformiadau a chystadlaethau dyddiol gan rai o artistiaid a chorau gorau’r byd, cyn dod i ben llanw gyda gwobr fawreddog Côr y Byd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig yr Eisteddfod Ryngwladol, Edward-Rhys Harry, “Rydym yn falch iawn o lansio ein rhaglen o ragoriaeth gerddorol ac amrywiaeth rhyngwladol. Mae’n nod cyson gennym i ddod ag artistiaid cerddorol a dawns gorau’r byd ynghyd yma yng Nghymru, i berfformio yn ysbryd cyfeillgarwch.

“Mae’r digwyddiadau dyddiol yn adlewyrchu ein gweledigaeth o hybu heddwch trwy gerddoriaeth ac mae’r cyngherddau nos yn cynnig rhywbeth i bawb.”

Agorir rhaglen cyngherddau 2020 ddydd Mawrth 7fed Gorffennaf gyda dau o fawrion y byd canu clasurol, Aled Jones a Russell Watson. Ar nos Fercher 8fed Gorffennaf fe fydd Fusion, gydag ymddangosiad gan y Manchester Collective a’u sioe Sirocco, yn cynnig noson unigryw gyda naws yr Eisteddfod Ryngwladol yn ei hanfod wrth i elfennau cerddorol o ddiwylliannau gwahanol eistedd ochr yn ochr. Fe fydd brenhines ‘Soul’ Prydain, Beverley Knight, yn perfformio yn Llangollen am y tro cyntaf ar y nos Wener lle disgwylir sioe fyrlymus. Yr enillwyr gwobrau BRIT, James Morrison a Will Young, fydd ar frig lein-yp Llanfest 2020, mewn diweddglo gwych arall i wythnos yr Eisteddfod.

Croesawir dros 4,000 o berfformwyr i’r ŵyl flynyddol dros wythnos yr Eisteddfod, sy’n ddathliad cywrain o gerddoriaeth, diwylliant, creadigrwydd a chydweithio rhyngwladol. Mae’n hwb allweddol i dwristiaeth ddiwylliannol Gogledd Cymru gan ddenu dros 35,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Continue Reading
Advertisement
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Dros 150,000 wedi gwylio cynnwys AmGen

Published

on

DDEUFIS yn unig ers ei lansio, mae cynnwys prosiect Eisteddfod AmGen wedi’i wylio dros 150,000 o weithiau yn ddigidol ar draws amrywiaeth o blatfformau
Dechreuodd y prosiect ym mis Mai yn dilyn y newyddion bod rhaid gohirio Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion eleni oherwydd haint Cofid-19. Erbyn hyn, mae dros 200 o sesiynau wedi’u cynnal, a nifer fawr o straeon hefyd wedi ymddangos ar raglen Prynhawn Da.
Ac wrth i ni agosáu at ‘wythnos yr Eisteddfod’ ddechrau Awst, mae’r tîm sydd wrth y llyw yn mynd yn fwyfwy uchelgeisiol ac yn awyddus i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael blas ar yr Eisteddfod mewn ffordd gwbl wahanol eleni.
Meddai’r Prif Weithredwr, Betsan Moses: “Mae Cofid wedi cael effaith mawr ar yr Eisteddfod Genedlaethol, fel ar gynifer o ddigwyddiadau celfyddydol eraill yng Nghymru. Ddiwedd Mawrth, bu’n rhaid i ni gyhoeddi ein bod ni’n gohirio Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion am flwyddyn, oherwydd nad oedd modd i ni barhau â’r gwaith yn ystod yr haint.
“Er bod pawb yn disgwyl y newyddion, roedd pobl yn siomedig pan ddaeth y cyhoeddiad bod yn rhaid gohirio’r Eisteddfod eleni – a neb yn fwy na ni a’r criw o wirfoddolwyr yng Ngheredigion ac yn Llŷn ac Eifionydd. Ac fe sbardunodd y siom ni i fynd ati i feddwl mewn ffordd cwbl wahanol – os nad oedd pobl yn gallu dod atom ni, yna, fe fydden ni’n mynd â rhywfaint o’r profiad eisteddfodol atyn nhw.
“Ac ry’n ni’n ddiolchgar i bawb sydd wedi cefnogi, yn berfformwyr, siaradwyr, artistiaid, ond yn fwyaf oll, ry’n ni’n ddiolchgar i’r gynulleidfa sydd wedi gwrando a gwylio, rhai’n fyw a rhai drwy wylio eto ar ein gwefan, ar You Tube ac ar AM. Gwn fod nifer o bobl wedi defnyddio elfennau o dechnoleg am y tro cyntaf er mwyn iddyn nhw wylio sesiwn neu ddilyn y cwrs Cerdd Dafod neu Gerdd Dant.
“Ry’n ni wedi ceisio dangos ychydig o bopeth. Wedi’r cyfan, mae’r Eisteddfod yn ŵyl gwbl eclectig sy’n gartref i bob math o ddiwylliant a chelfyddyd. Ac ry’n ni’n gwerthfawrogi’r gefnogaeth yn arw iawn. Wrth gwrs, mae gwahanol elfennau’n apelio at gynulleidfaoedd amrywiol, ond mae’r ffaith ein bod ni’n gallu cyflwyno rhaglen, sy’n cynnwys y cwmpas ehangaf o gyfranwyr – o Gymdeithas Emynau Cymru i 3 Hwr Doeth, nid yn unig yn arwydd o’r amrywiaeth sydd ar gael yn yr Eisteddfod, ond hefyd yn arwydd o’r awydd i greu cynnwys a chefnogi’r prosiect. Ac ry’n ni’n ddiolchgar iawn i bawb.
“Mae ‘wythnos yr Eisteddfod’ yn prysur agosau, ac erbyn hyn, fel rheol, byddai’r Maes yn tyfu ac yn datblygu’n ddyddiol. Ac mewn ffordd, mae hynny’n dal i ddigwydd gan ein bod ni’n gweithio ar raglen lawn o weithgareddau a digwyddiadau. Mae’n braf iawn bod cynifer o’n partneriaid ni’n awyddus i fod yn rhan o AmGen, ac yn ein gweld fel ffordd o gyrraedd cynulleidfaoedd, boed yn graidd neu’n newydd.
“Bydd gennym ni raglen lawn o weithgareddau yn ystod yr wythnos ar draws nifer o blatfformau digidol a thraddodiadol er mwyn ceisio cyrraedd y gynulleidfa ehangaf bosibl. Y gobaith yw adeiladu ar lwyddiant y ddeufis cyntaf a rhoi digonedd o fwynhad i bobl o bob oed ym mhob cwr o Gymru a thu hwnt.”
Am ragor o wybodaeth am AmGen ac i wylio’r sesiynau hyd yn hyn, ewch i www.eisteddfod.cymru/amgen, ein sianel You Tube neu ein sianel ar blatfform AM.

Continue Reading

Cymraeg

Comisiynydd yn canmol addewidion i fyfyrwyr

Published

on

BYDD myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn elwa ar ymroddiad newydd i gynnig cyfleoedd a chyfleusterau trwy gyfrwng y Gymraeg, wedi i’r Brifysgol lansio cyfres o addewidion newydd ar 20 Gorffennaf.
Mae ‘Addewidion Aber’ yn nodi wyth ymrwymiad gan y Brifysgol i fyfyrwyr Cymraeg yn ystod eu cwrs. Yn eu plith mae darparu:
– Cyrsiau cyfrwng Cymraeg o bob math ar draws y Brifysgol;
– Llety Cymraeg i fyfyrwyr, gan gynnwys yn Neuadd Pantycelyn ar ei newydd wedd;
– Tiwtor sgiliau academaidd i gynorthwyo myfyrwyr gyda’u hastudiaethau cyfrwng Cymraeg.
Dywedodd Dr Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor sydd yn gyfrifol am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg Prifysgol Aberystwyth: “Mae ymestyn cyfleoedd a darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn fater o flaenoriaeth i mi’n bersonol, ac i Brifysgol Aberystwyth fel sefydliad. Rydyn ni am i fyfyrwyr gael y profiad gorau a llawnaf oll drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae’r addewidion hyn yn gam arall ar y ffordd i gyflawni’r uchelgais honno.
“Mae gan y myfyrwyr hawliau cyfreithiol pendant sy’n ymwneud â’r Gymraeg, wrth gwrs, ond rydyn ni am fynd gam ymhellach a chynnig rhagor o wasanaethau a chyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol, ac fel rhan o’u bywydau academaidd a chymdeithasol.
“Mae dyfnder ein darpariaeth academaidd cyfrwng Cymraeg yn galluogi myfyrwyr i ddilyn cynlluniau gradd cyfan drwy gyfrwng yr iaith. Yn ogystal, rydym yn cynnig profiad cymdeithasol Cymraeg heb ei ail yma.
“Mae hi’n adeg gyffrous iawn yn Aberystwyth wrth i ni baratoi ail-agor drysau Neuadd Pantycelyn i fyfyrwyr unwaith eto. Heb os, dyma gyfle unwaith-mewn-bywyd i’r genhedlaeth nesaf.”
Ychwanegodd Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA), Morgan Lewis: “Rydym ni fel Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) yn ymfalchïo fod y Brifysgol yn mynd gam ymhellach gyda’i hymrwymiadau i fyfyrwyr Cymraeg er mwyn sicrhau y cânt y profiad gorau posibl.
“Mae’n bleser i weld a bod yn rhan o’r addewidion a fydd yn hwyluso a helpu llunio bywydau’r myfyrwyr yn ystod eu cyfnod yma yn Aberystwyth.”
Mae Addewidion Aber yn mynd tu hwnt i ofynion statudol Safonau’r Gymraeg.
Mae Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, yn croesawu ac yn canmol y cyhoeddiad, gan ddweud: “Mae gan fyfyrwyr yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg yng ngholegau a phrifysgolion Cymru ers Ebrill 2018, ac mae’n wych fod Prifysgol Aberystwyth wedi mynd gam ymhellach trwy gynnig yr addewidion hyn.
“Felly, fyfyrwyr, mae gennych chi’r hawl ac addewidion pellach gan eich Prifysgol i ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Manteisiwch ar y cyfle, a gadael i’r Gymraeg dreiddio i bob rhan o’ch bywyd yn y brifysgol.”

Continue Reading

Cymraeg

Dŵr Cymru yn cael canmoliaeth gan ddefnyddwyr

Published

on

MAE Dŵr Cymru wedi cadw ei statws fel y cwmni dŵr uchaf ei barch yng Nghymru a Lloegr yn y yn y gwaith ymchwil DU-eang diweddaraf i bwyso a mesur safonau gwasanaethau cwsmeriaid.
Mae’r cwmni nid-er-elw – sy’n gwasanaethu tair miliwn o bobl ar draws y rhan fwyaf o Gymru, Sir Henffordd a rhannau o Lannau Dyfrdwy a Sir Gaer – wedi dod allan ar y brig o blith holl gwmnïau dŵr eraill am wasanaethau cwsmeriaid, ac mae hi gyda’r gorau yn sector y cyfleustodau’n gyffredinol.
Mae’r cwmni wedi ennill ei le yn 50 Gorau yn y DU hefyd – a hi yw’r unig gwmni dŵr i gyflawni’r gamp honno.
Cafodd y cwmni sgôr o 80.1 yn yr arolwg, oedd dau bwynt yn uwch na’r cwmni dŵr nesaf, a daeth yn safle 47 yn gyffredinol yn rhestr y 50 Cwmni Gorau.
Roedd astudiaeth Barn y Sefydliad Gwasanaethau Cwsmeriaid (UKCSI) yn edrych ar ansawdd gwasanaethau cwsmeriaid ar draws 13 sector o’r economi yn y DU. Mae’n seiliedig ar yr arolygon o gwsmeriaid a gyflawnir pob chwe mis.
Mae sgôr cyffredinol Dŵr Cymru’n ei gosod yn y safle cyntaf yn y sector dŵr. Mae sgôr y cwmni 3.1 yn uwch na sgôr cyffredinol UKCSI sef 77m, a gweddill y sector sef 72.6.
Mae’r newyddion yma’n dilyn cadarnhad bod Dŵr Cymru wedi dod allan ar frig canlyniadau’r rheoleiddiwr, Ofwat, o ran boddhad cwsmeriaid ar draws Cymru a Lloegr hefyd. Yn sgoriau terfynol gwaith “gweithredu cysgodol” y Mesur o Brofiadau Cwsmeriaid (C-MeX) yn 2019-2020 – cyn iddynt gael eu cyflwyno’n barhaol eleni – cafodd Dŵr Cymru sgôr o 82.47, a hynny yn erbyn sgôr gyfartalog o 76.65 ar draws y diwydiant yng Nghymru a Lloegr ar led (17 cwmni i gyd).
Dywedodd Peter Perry, Prif Weithredwr y cwmni: “Fel cwmni nid-er-elw, ein hunig ffocws, nawr yn fwy nag erioed, yw darparu gwasanaethau ar gyfer ein cwsmeriaid ar y lefel y maent yn ei disgwyl – a rhagori ar hynny. Mae hi’n galonogol iawn felly fod cwsmeriaid yng Nghymru’n teimlo’n fwy cadarnhaol ynghylch y gwasanaeth y maent yn ei gael gennym, a’n bod ni’n parhau i gyflawni hyn er gwaetha’r sefyllfa hynod ymestynnol sydd ohoni.
“Ond rydyn ni’n gwybod hefyd bod angen i ni wrando ar ein cwsmeriaid yn fwy nag erioed i adeiladu ar y canfyddiadau cadarnhaol yma – a bydd y gwaith ymchwil yma’n darparu sylfaen bwysig i ni adeiladu arno.”

Continue Reading

Trending

FOLLOW US ON FACEBOOK