Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Lansio strategaeth adfywio gwledig

Published

on

DAETH dros 100 o bobl o bob maes i weld strategaeth adfywio gwledig y Cyngor yn cael ei lansio.

Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghastellnewydd Emlyn, ac roedd yn gyfle i bobl glywed rhagor am strategaeth Symud Sir Gaerfyrddin Wledig Ymlaen, sy’n canolbwyntio ar gryfhau economïau lleol, creu swyddi a chyfleoedd busnes, a diogelu’r Cymraeg.

Rhoddodd Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Emlyn Dole, a’r Prif Weithredwr, Wendy Walters, gyflwyniadau ar symud ymlaen.

Bu’r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Faterion Gwledig, sef y Cynghorydd Cefin Campbell, yn trafod canfyddiadau ac argymhellion adolygiad gan grŵp gorchwyl trawsbleidiol a sefydlwyd i ymchwilio, deall a chynllunio ar gyfer yr hyn sydd ei angen i greu cymunedau ac economïau gwledig mwy cynaliadwy.

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole: “Roedd cynrychiolaeth dda yno, ac roedd yn gyfle i drafod argymhellion a gyflwynwyd gan Grŵp Gorchwyl Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin i sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i helpu ein hardaloedd gwledig i dyfu, ffynnu, a bod yn hunangynhaliol – cymunedau sy’n cynnig cyfleoedd i bawb.

Dylai pawb sy’n byw ac yn gweithio yn un o’n cymunedau gwledig weld hwn yn gyfle i gymryd rhan a chyfrannu – nid yw hwn yn rhywbeth y gallwn ni fel Cyngor ei wneud ar ein pen ein hunain, ac rydym yn croesawu pob cyfraniad gan drigolion, busnesau a sefydliadau. ”

Wrth wraidd y strategaeth newydd y mae pwyslais ar greu swyddi, tai fforddiadwy, a chyfleoedd busnes fel bod pobl ifanc yn aros ac yn ymgartrefu yn Sir Gaerfyrddin. Mae pwyslais hefyd ar annog pobl ifanc i ddychwelyd i’w gwreiddiau.

Dyma’r tro cyntaf erioed i strategaeth eang gael ei llunio gan y Cyngor er mwyn canolbwyntio’n benodol ar ardaloedd gwledig.

Mae dros 60 y cant o boblogaeth Sir Gaerfyrddin yn byw mewn ardal wledig a bwrdd gweithredol y Cyngor oedd y cyntaf i greu portffolio penodol i gynrychioli materion gwledig.

Bwriwch olwg ar yr adroddiad a’i argymhellion ➡ https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/cyngor-a-democratiaeth/strategaethau-a-chynlluniau/symud-sir-gâr-wledig-ymlaen/

Continue Reading
Advertisement
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Pedwar o bob pum tenant yn fodlon ar wasanaeth tai y cyngor

Published

on

Dengys arolwg diweddar fod PEDWAR allan o bob pum tenant (82%) yn fodlon ar y gwasanaeth cyffredinol a ddarperir gan adran dai y Cyngor, lle roedd 44% ohonynt yn fodlon iawn.

Hefyd, dengys arolwg bodlonrwydd tenantiaid STAR fod 79% o denantiaid yn fodlon ar ansawdd eu cartref, lle roedd 38% ohonynt yn fodlon iawn.

Roedd 77% yn hapus gyda gwerth yr arian o ran rhent, ac roedd tri chwarter yr ymatebwyr (75%) yn fodlon ar y gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw yn gyffredinol.

Cynhaliwyd yr arolwg yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf drwy ddefnyddio model STAR HouseMark sef y dull safonol ar gyfer arolygon tenantiaid a thrigolion. Anfonwyd holiaduron at 5000 o denantiaid, a ddewiswyd ar hap, trwy’r post, e-bost, ar-lein a neges destun.

Cwblhaodd 2087 o denantiaid yr arolwg a oedd yn gyfradd ymateb o 29%.

Dengys canlyniadau pellach bod:

85% o denantiaid yn fodlon ar eu cymdogaeth fel lle i fyw
66% (dwy ran o dair) yn fodlon ar y gwasanaeth cynnal a chadw tiroedd
58% (tri o bob pump) o’r ymatebwyr yn fodlon ar y ffordd mae’r cyngor yn delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
64% yn teimlo bod y cyngor yn gwrando ac yn talu sylw i’w sylwadau
79% yn fodlon ar y gwaith trwsio diwethaf

Mae’r gyfradd fodlonrwydd gyffredinol o 82% hefyd yn cymharu’n ffafriol â chyfradd gyfartalog o 78% ar gyfer Cynghorau eraill Cymru.

Fodd bynnag, dengys canlyniadau’r arolwg fod bodlonrwydd ar wasanaethau’n gyffredinol yn is ymhlith pobl 35 i 54 oed a bod rhai mannau mewn wardiau trefol yn Llanelli a Chaerfyrddin lle roedd y lefelau bodlonrwydd yn is na’r cyfartaledd.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Dai: “Hoffwn ddiolch i bawb a ymatebodd i’r arolwg. Mae’n braf gweld bod lefelau bodlonrwydd yn gadarnhaol iawn ar y cyfan, fodd bynnag, nid oes rheswm o gwbl dros laesu dwylo a dylid bob amser anelu at wella.

“Rydym bellach yn gweithio gyda chydweithwyr o adrannau eraill fel atgyweirio a chynnal a chadw tiroedd, i ystyried ffyrdd o wella’r gwasanaethau y mae tenantiaid yn eu derbyn.

“Mae hefyd yn bwysig iawn inni wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol, a bydd dal angen eich cefnogaeth arnom i ddatblygu’r gwasanaethau yn y modd sydd orau ar eich cyfer chi.”

Y cam nesaf yw cynnal cyfres o weithdai ledled y sir lle bydd modd i denantiaid siarad ag un o’r tîm partneriaeth ac ymgysylltu. Cadwch lygad ar wefan y Cyngor ac ar Facebook a Twitter am wybodaeth bellach ynghylch pryd a ble y cynhelir y gweithdai. Os nad ydych yn gallu dod i unrhyw ddigwyddiad, gallwch siarad â swyddog yn ystod ymweliad cartref neu dros y ffôn.

Continue Reading

Cymraeg

Ymweliad astudio’n rhoi addysg Cymru ar fap y byd

Published

on

BU academyddion o’r Drindod Dewi Sant ar ymweliad ag Awstralia i ddysgu gan gydweithwyr a rhannu datblygiadau’n ymwneud â thaith diwygio addysg Cymru.
Derbyniwyd papur gan staff o’r Athrofa Addysg a’r Dyniaethau yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas Ymchwil mewn Addysg Awstralia (AARE) – sy’n dod ag arbenigwyr addysg at ei gilydd o bob cwr o’r byd.
A hithau’n un o brif gynadleddau ymchwil addysg yn y byd, roedd tua 1,000 o gynadleddwyr yn mynychu’r digwyddiad eleni yn Brisbane.
Yn rhan o’r gynhadledd, cymerodd Yr Athrofa ran mewn symposiwm yn dwyn y teitl ‘Cyfiawnder Cymdeithasol a Diwygio Addysg yn Genedlaethol yng Nghymru’, a fu’n edrych ar daith diwygio addysg yng Nghymru, datblygiadau mewn addysg athrawon, a dysgu proffesiynol. Bu’r staff yn cyflwyno ar y cyd â’r Athro John Furlong, Athro Emeritws mewn Addysg ym Mhrifysgol Rhydychen, a chyn gadeirydd Bwrdd Achredu AGA Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA).
Fe wnaeth yr Athro Furlong rannu â’r cyfeillion yn y gynhadledd ei adroddiad o 2015, ‘Addysgu Athrawon Yfory’, a arweiniodd at ddiwygio sylweddol yn y maes addysg athrawon yng Nghymru.
Cafwyd cyflwyniad gan yr Athro Kay Livingstone, arbenigwraig ar ymchwil addysgol sy’n gweithio ym Mhrifysgol Glasgow, ar y gwaith y mae wedi bod yn ei ddatblygu gyda chydweithwyr yn y Drindod Dewi Sant i fapio effaith y newidiadau hyn ar staff mewn ysgolion a’r brifysgol.
Rhoddodd Gareth Evans, Cyfarwyddwr Polisi Addysg yn Yr Athrofa, drosolwg o ddatblygiad polisi addysg yng Nghymru ers datganoli, yn ogystal â’r heriau a’r cyfleoedd a gynigir gan y diwygio uchelgeisiol o’r cwricwlwm yng Nghymru.
Bu’r addysgwyr athrawon, Rachel Wallis, Arweinydd Mathemateg a Rhifedd Yr Athrofa, a darlithydd y Dyniaethau, Dr Sioned Hughes, yn trafod eu cyfraniad at y prosiect arloesol CAMAU, sy’n cefnogi cynnydd dysgwyr trwy eu haddysg orfodol.
Yna cymerodd y ddirprwyaeth ran mewn ymweliad astudio byr â Phrifysgol Newcastle, lle cawsant eu croesawu gan yr Athro Llawryfol Jenny Gore a’i thîm yng nghanolfan ddylanwadol y brifysgol ar Ymchwil Athrawon ac Addysgu. Manteisiodd y ddau barti ar y cyfle i rannu eu gwaith cyfredol i gefnogi dysgu proffesiynol a datblygiad ymchwil athrawon.
Meddai Gareth Evans, Cyfarwyddwr Polisi Addysg yn Yr Athrofa: “Rydym yn ddiolchgar iawn i gael y cyfle i rannu ‘stori Cymru’ o ran diwygio addysg gyda chydweithwyr o bedwar ban byd.
“Yn sicr roedd llawer o ddiddordeb yn yr hyn yr ydym ni yng Nghymru’n ei wneud i ddiwygio a datblygu ein system addysg, a llawer o optimistiaeth ein bod ni’n mynd i’r cyfeiriad cywir.
“Roedd yr angen am ddewrder, ymrwymiad ac ymddiriedaeth yn ein haddysgwyr i wneud yr hyn sy’n iawn i’w dysgwyr yn themâu a gododd dro ar ôl tro, er i faterion yn ymwneud ag ariannu, capasiti ac atebolrwydd gael eu nodi fel rhwystrau posibl.
“Mae’n amlwg nad yw Cymru ar ei phen ei hun wrth wynebu nifer o heriau o ran diwygio addysg, ac mae’n bwysig ein bod yn ceisio dysgu gan gydweithwyr sydd wedi rhannu’r un profiadau.
“Ran o’r ffordd yn unig y mae Cymru trwy ei thaith ddiwygio, ac mae’n rhaid i ni fanteisio ar ein ‘cyfeillion beirniadol’ o bob rhan o’r dirwedd addysgol i lywio a siapio ein system addysg yn well wrth symud ymlaen.
“Hoffem ddiolch i’r Athro Gore a’i thîm talentog am eu croeso cynnes ac am roi mor hael o’u hamser mewn cyfnod prysur ar ddiwedd y flwyddyn academaidd Mae ein hymweliad ag Awstralia wedi rhoi cyfle unigryw i ni greu perthnasau proffesiynol newydd ac ymestyn cyrhaeddiad Cymru i ochr arall y byd – ac edrychwn ymlaen yn fawr at barhau â’n trafodaethau yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.”

Continue Reading

Cymraeg

Un bach arall am ffordd?

Published

on

YDI perthynas y Cymry gydag alcohol yn un iach? Gyda miloedd o bobl ledled y wlad wrthi’n ymgymryd â her ‘Ionawr Sych’, ydi hi’n bryd i ni gyd ystyried ein arferion yfed?
Ym mhennod ddiweddaraf cyfres S4C, DRYCH: Ffion Dafis – Un Bach Arall?, sy’n cael ei ddangos am 9.00 ar nos Sul 19 Ionawr, mae’r actores a’r awdur Ffion Dafis yn awyddus i sbarduno sgwrs agored am ein perthynas ag alcohol.
Meddai Ffion: “Dw i wedi cael fy nghyflyru ers oeddwn i’n ifanc iawn i feddwl bod yfed alcohol yn rhan o fwynhau, a dw i’n meddwl bod hynny’n rhywbeth sy’n rhan ohonom ni yma yng Nghymru. Dwi wedi trio cael cyfnodau sobor dros y blynyddoedd a dwi di gwneud misoedd, dwi di gwneud wyth mis, tri mis, pedwar mis, ond ma na rhywbeth wastad sydd wedi fy nenu nôl.”
Ar 2 Mawrth 2020 bydd deddf newydd yn dod i rym gan Lywodraeth Cymru fydd yn gosod isafswm pris o 50 ceiniog ar bob uned o alcohol. Bwriad y Llywodraeth yw targedu gwerthiant diodydd rhad, uchel eu cryfder er mwyn lleihau yfed niweidiol. Mae darogan y gall hyn arwain at hyd at 60 yn llai o farwolaethau bob blwyddyn a gostyngiad o 1500 o bobl yn ymweld a’r ysbyty o ganlyniad i broblemau yn ymwneud ag alcohol.
Ym mis Mai 2018, fe ddaeth Yr Alban y wlad gyntaf yn y byd i weithredu deddf o’r un math, ac mae ymchwil yn dangos bod gostyngiad o saith y cant mewn achosion o bobl yn ymweld â’r ysbyty gyda phroblemau sy’n gysylltiedig ag alcohol o ganlyniad i’r ddeddf.
Wrth sgwrsio ag arbenigwyr meddygol bydd Ffion yn darganfod mwy am effeithiau goryfed ar y meddwl a’r corff.
Meddai Dr Dai Samuel, Ymgynghorydd Gastroenteroleg a Hepatoleg yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg: “Dros Brydain yn y 40 mlynedd diwethaf, mae marwolaethau achos Clefyd yr Afu wedi cynyddu 400 y cant. Mae pris alcohol, y pwysau gan bobl o’n cwmpas ni a’r ffordd chi’n gallu cael gafael arno fe yn hawdd iawn ma hynny yn rhan o’r gymysgfa sy’n golygu ein bod ni gyd yn yfed gormod.”
Yn ystod y rhaglen bydd Ffion hefyd yn cwrdd ag unigolion sy’n siarad yn agored am effaith ddinistriol y cyffur arnyn nhw a’u teuluoedd.
Yn ôl un o gyfranwyr y rhaglen, y cynhyrchydd a’r cyfarwyddwr theatr Iola Ynyr, un o’r problemau mwyaf yma yng Nghymru yw’r stigma sy’n dal i fodoli ynghylch problemau alcohol.
Dywedodd Iola: “Y munud wnes i gyfaddef fy mod i’n alcoholig, mi wnaeth pethau wella drwyddi draw. Ond mi oedd y siwrne o wynebu hynny yn anodd. Beth sydd rhaid sylweddoli ydi mae dibyniaeth o unrhyw fath, ‘sgynno fo ddim parch at ryw na dosbarth cymdeithasol na iaith na diwylliant.
“Mae o’n ymosod ar bawb ac mae o’n ran o bob dosbarth cymdeithasol. Dydy’r Cymry Cymraeg ddim yn gallu eithrio’u hunain o broblemau dibyniaeth. Mae cywilydd yn chwarae rhan amlwg iawn, ac mae hynny’n beth niweidiol. Mae angen chwalu label. Dw i’n fwy na label.”
Clywn hefyd am stori Brychan Llyr, y cerddor a chyflwynydd teledu a fu bron â cholli ei fywyd o ganlyniad i alcoholiaeth. Mewn sgwrs gyda Ffion mae Brychan yn datgelu ei fod wedi treulio cyfnod yn y carchar ychydig dros flwyddyn yn ôl wedi iddo gael ei ddal yn yfed a gyrru. Mae Brychan bellach wedi rhoi’r gorau i yfed ac yn rhybuddio pobl o beryglon alcohol.
Bydd Ffion hefyd yn cwrdd ag Angharad Griffiths. Ar ôl colli aelod agos o’i theulu i alcoholiaeth, penderfynodd Angharad edrych ar ei harferion yfed ei hun. Wedi cyfnodau o oryfed gael effaith ddinistriol ar ei hiechyd meddwl, bellach mae wedi rhoi’r gorau i yfed.
Mae Ffion yn awyddus i chwalu’r stigma a sbarduno sgwrs agored am ein arferion yfed ni i gyd ac am y cyffur sy’n cymaint rhan o gymdeithas.

Continue Reading

Trending

FOLLOW US ON FACEBOOK