Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Gall Cymru gael ei phweru gan ynni morol

Published

on

GALL Cymru fod yn wlad sy’n cael ei phweru gan ynni’r môr, mae Lesley Griffiths yn addo.

Mae gan ynni’r môr y potensial i fod wrth wraidd cynlluniau uchelgeisiol i Gymru fod yn wlad sy’n cael ei phweru gan ffynonellau ynni adnewyddadwy, yn ôl Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Pan oedd hi’n siarad yn y Gynhadledd ar Ynni’r Môr yn Nulyn ar Dydd Llun (30 Medi), gwnaeth y Gweinidog amlinellu’r llwyddiannau mae busnesau wedi’u cael wrth alluogi ynni’r môr yn ystod y flwyddyn diwethaf, a’r buddsoddiadau yn y gadwyn gyflenwi sy’n caniatáu i hyn ddigwydd.

Rydyn ni’n cydnabod bod y sector yn ifanc iawn, felly rydyn ni wedi buddsoddi mewn deg prosiect sy’n gysylltiedig ag ynni’r môr er mwyn adeiladau capasiti ac arbenigedd yng Nghymru, meddai hi.

Cytunwyd ar dros €71 miliwn o gyllid Ewropeaidd, a fydd yn arwain at fuddsoddiadau gwerth dros €117 miliwn yng Nghymru.

Mae’r busnesau sydd wedi elwa’n cynnwys:

• Ledwood Engineering, Mainstay Marine, MarineSpace a busnesau a leolir yn Sir Benfro yng Ngorllewin Cymru. Mae’r busnesau hyn i gyd wedi manteisio ar y buddsoddiadau gwerth miliynau o bunnoedd, sydd wedi bod o fudd i’w harbenigedd technegol presennol o fewn y sector ynni a sector ynni’r môr.

• Mae Minesto wedi cwblhau prosiect i alluogi’r gwaith o gyflwyno eu technoleg ffrwd lanw Deep Green yn fasnachol yn Holyhead Deep, oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Môn. Roedd y prosiect yn cynnwys dylunio, gosod a phrofi dyfais 500 cilowat. Mae cam nesaf y prosiect wedi derbyn €14.9 miliwn ychwanegol, a bydd yn ategu’r gwaith o ddylunio safle 80 megawat oddi ar arfordir Ynys Môn, ochr wrth ochr â dylunio dyfais maint llawn o un megawat o leiaf.

• Gwnaeth y datblygwyr ynni’r tonnau Marine Power Systems, a leolir yn Abertawe, gwblhau eu blwyddyn o dreialon a phrofion morol yn llwyddiannus yr haf hwn, ac mae eu prototeip chwarter maint, WaveSub, wedi cyrraedd ei gerrig milltir critigol. Hefyd dyfarnwyd €13 miliwn iddynt i ddylunio a chynhyrchu dyfais fwy.

Bydd Fframwaith Morol cyntaf Cymru a Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd hefyd yn rhoi polisi cynllunio strategol ar gyfer defnyddio adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy ar y tir ac oddi arno.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Rydyn ni’n benderfynol y bydd ynni’r môr yn rhan allweddol o’n cynlluniau i Gymru fod yn wlad sy’n cael ei phweru gan ffynonellau ynni adnewyddadwy. Mae cyllid gan yr Uned Ewropeaidd wedi bod yn hanfodol wrth gefnogi hyn.

“Rydyn ni wedi gosod targedau uchelgeisiol wrth inni geisio creu Cymru wyrddach lle mae adnoddau’n cael eu rheoli nid yn unig ar gyfer heddiw, ond er budd cenedlaethau’r dyfodol.

“Eleni rydyn ni wedi derbyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i wneud ein targedau datgarboneiddio yng Nghymru yn fwy uchelgeisiol, wedi cyflwyno deddfwriaeth i fabwysiadu targed o 95% ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y flwyddyn nesaf, ac rydyn ni’n archwilio sut gallwn ni osod targed o sero yn y dyfodol.

“Mae ynni’r môr a gwynt alltraeth yn rhan hanfodol o’r targedau hyn, wrth inni geisio harneisio ein hadnoddau naturiol i sicrhau manteision tymor hir ar gyfer pawb yng Nghymru.”

Gwnaeth y gweinidog hefyd annog Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn ynni’r môr ac ynni adnewyddadwy yng Nghymru.

Continue Reading
Advertisement
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Un bach arall am ffordd?

Published

on

YDI perthynas y Cymry gydag alcohol yn un iach? Gyda miloedd o bobl ledled y wlad wrthi’n ymgymryd â her ‘Ionawr Sych’, ydi hi’n bryd i ni gyd ystyried ein arferion yfed?
Ym mhennod ddiweddaraf cyfres S4C, DRYCH: Ffion Dafis – Un Bach Arall?, sy’n cael ei ddangos am 9.00 ar nos Sul 19 Ionawr, mae’r actores a’r awdur Ffion Dafis yn awyddus i sbarduno sgwrs agored am ein perthynas ag alcohol.
Meddai Ffion: “Dw i wedi cael fy nghyflyru ers oeddwn i’n ifanc iawn i feddwl bod yfed alcohol yn rhan o fwynhau, a dw i’n meddwl bod hynny’n rhywbeth sy’n rhan ohonom ni yma yng Nghymru. Dwi wedi trio cael cyfnodau sobor dros y blynyddoedd a dwi di gwneud misoedd, dwi di gwneud wyth mis, tri mis, pedwar mis, ond ma na rhywbeth wastad sydd wedi fy nenu nôl.”
Ar 2 Mawrth 2020 bydd deddf newydd yn dod i rym gan Lywodraeth Cymru fydd yn gosod isafswm pris o 50 ceiniog ar bob uned o alcohol. Bwriad y Llywodraeth yw targedu gwerthiant diodydd rhad, uchel eu cryfder er mwyn lleihau yfed niweidiol. Mae darogan y gall hyn arwain at hyd at 60 yn llai o farwolaethau bob blwyddyn a gostyngiad o 1500 o bobl yn ymweld a’r ysbyty o ganlyniad i broblemau yn ymwneud ag alcohol.
Ym mis Mai 2018, fe ddaeth Yr Alban y wlad gyntaf yn y byd i weithredu deddf o’r un math, ac mae ymchwil yn dangos bod gostyngiad o saith y cant mewn achosion o bobl yn ymweld â’r ysbyty gyda phroblemau sy’n gysylltiedig ag alcohol o ganlyniad i’r ddeddf.
Wrth sgwrsio ag arbenigwyr meddygol bydd Ffion yn darganfod mwy am effeithiau goryfed ar y meddwl a’r corff.
Meddai Dr Dai Samuel, Ymgynghorydd Gastroenteroleg a Hepatoleg yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg: “Dros Brydain yn y 40 mlynedd diwethaf, mae marwolaethau achos Clefyd yr Afu wedi cynyddu 400 y cant. Mae pris alcohol, y pwysau gan bobl o’n cwmpas ni a’r ffordd chi’n gallu cael gafael arno fe yn hawdd iawn ma hynny yn rhan o’r gymysgfa sy’n golygu ein bod ni gyd yn yfed gormod.”
Yn ystod y rhaglen bydd Ffion hefyd yn cwrdd ag unigolion sy’n siarad yn agored am effaith ddinistriol y cyffur arnyn nhw a’u teuluoedd.
Yn ôl un o gyfranwyr y rhaglen, y cynhyrchydd a’r cyfarwyddwr theatr Iola Ynyr, un o’r problemau mwyaf yma yng Nghymru yw’r stigma sy’n dal i fodoli ynghylch problemau alcohol.
Dywedodd Iola: “Y munud wnes i gyfaddef fy mod i’n alcoholig, mi wnaeth pethau wella drwyddi draw. Ond mi oedd y siwrne o wynebu hynny yn anodd. Beth sydd rhaid sylweddoli ydi mae dibyniaeth o unrhyw fath, ‘sgynno fo ddim parch at ryw na dosbarth cymdeithasol na iaith na diwylliant.
“Mae o’n ymosod ar bawb ac mae o’n ran o bob dosbarth cymdeithasol. Dydy’r Cymry Cymraeg ddim yn gallu eithrio’u hunain o broblemau dibyniaeth. Mae cywilydd yn chwarae rhan amlwg iawn, ac mae hynny’n beth niweidiol. Mae angen chwalu label. Dw i’n fwy na label.”
Clywn hefyd am stori Brychan Llyr, y cerddor a chyflwynydd teledu a fu bron â cholli ei fywyd o ganlyniad i alcoholiaeth. Mewn sgwrs gyda Ffion mae Brychan yn datgelu ei fod wedi treulio cyfnod yn y carchar ychydig dros flwyddyn yn ôl wedi iddo gael ei ddal yn yfed a gyrru. Mae Brychan bellach wedi rhoi’r gorau i yfed ac yn rhybuddio pobl o beryglon alcohol.
Bydd Ffion hefyd yn cwrdd ag Angharad Griffiths. Ar ôl colli aelod agos o’i theulu i alcoholiaeth, penderfynodd Angharad edrych ar ei harferion yfed ei hun. Wedi cyfnodau o oryfed gael effaith ddinistriol ar ei hiechyd meddwl, bellach mae wedi rhoi’r gorau i yfed.
Mae Ffion yn awyddus i chwalu’r stigma a sbarduno sgwrs agored am ein arferion yfed ni i gyd ac am y cyffur sy’n cymaint rhan o gymdeithas.

Continue Reading

Cymraeg

Sir Gaerfyrddin yn arwain y ffordd o ran cefnogi teuluoedd

Published

on

MAE dull Sir Gaerfyrddin o gefnogi teuluoedd a sicrhau nad yw plant yn mynd i’r system ofal wedi’i gydnabod ar lefel genedlaethol.

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan ill dau wedi ymweld â Chyngor Sir Caerfyrddin i gwrdd â’r tîm sy’n ysgogi newid cadarnhaol i ofal cymdeithasol teulu.

Sir Gaerfyrddin sydd â’r nifer isaf o blant mewn gofal ledled Cymru, a chyda mwyfwy o deuluoedd yn cael cefnogaeth i aros ynghyd, mae’r ffigurau’n lleihau’n raddol o flwyddyn i flwyddyn.

Mae nod strategol y cyngor i leihau nifer y plant sy’n derbyn gofal yn cyd-fynd â nod Llywodraeth Cymru, ac mae’n cyflawni hyn trwy ystod o wasanaethau sydd gyda’i gilydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gannoedd o bobl leol.

Wrth sgwrsio â rheolwyr gwaith cymdeithasol, dywedodd Mr Drakeford fod Sir Gaerfyrddin wedi gwneud argraff arbennig oherwydd bod y tîm yn barod i feddwl a gwneud pethau’n wahanol, a’i fod eisiau darganfod sut y gall ardaloedd eraill yng Nghymru efelychu ei llwyddiant.

Un o’r newidiadau symlaf, ond mwyaf effeithiol, a wnaed yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw alinio’r timau sy’n gweithio ar draws addysg a gwasanaethau plant a dod â staff sydd â sgiliau arbenigol ynghyd, fel bod teulu sydd angen cefnogaeth yn cael hynny gan y tîm cyfan, yn hytrach na bod un gweithiwr cymdeithasol yng ngofal achos unigol.

Cafodd y Prif Weinidog wybod sut y mae hyn wedi arwain at rannu sgiliau, safbwyntiau a syniadau i ddarparu pecyn pwrpasol o gefnogaeth i bob teulu, yn ogystal â bod yn greadigol wrth ddod o hyd i wahanol ffyrdd o gysylltu â theuluoedd a’u cadw ynghyd.

Dywed timau eu bod yn canolbwyntio ar feithrin perthnasoedd â theuluoedd i lwyr ddeall eu hanghenion, a pha ymyrraeth fydd yn gweithio orau iddyn nhw – yn aml drwy wahodd teuluoedd i weithio gyda nhw i gomisiynu cefnogaeth arbenigol wedi’i theilwra gan sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu mewn ffordd sy’n gweithio orau iddynt.

Mae atal ac ymyrraeth blynyddoedd cynnar hefyd yn nodwedd allweddol – yn ystod y chwe mis diwethaf mae’r gwasanaeth wedi cefnogi 18,000 o deuluoedd ag ystod o wasanaethau yn y gymuned i feithrin gwytnwch ac atal yr angen i deuluoedd gael cyswllt â’r system gofal cymdeithasol statudol.

Wedi’i ymweliad â Chyngor Sir Caerfyrddin, dywedodd Mr Drakeford ei fod yn awyddus i rannu ei ganfyddiadau ag awdurdodau eraill yng Nghymru er mwyn lleihau nifer y plant sy’n mynd i’r system ofal a chadw mwy o deuluoedd ynghyd.

“Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn gwneud gwaith gwych i gadw teuluoedd ynghyd ac atal plant rhag mynd i ofal,” meddai. “Fel Prif Weinidog, rwyf am ddatblygu’r gwaith sy’n cael ei wneud, deall pam ei fod yn cael effaith ar bobl, a rhannu’r arferion da ledled Cymru fel y gallwn helpu i gadw mwy o deuluoedd ynghyd.”

Dywedodd Jake Morgan, Cyfarwyddwr Cymunedau Cyngor Sir Caerfyrddin: “Rydym yn cefnogi bwriad strategol Llywodraeth Cymru ac yn ei rannu. Nid y targedau sy’n bwysig inni, ond cadw teuluoedd ynghyd, a lleihau nifer y plant y mae angen gofal arnynt heb gyfaddawdu dim o ran eu diogelwch.”

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Emlyn Dole, ei fod yn falch bod Sir Gaerfyrddin ar flaen y gad o ran datblygu ystod amrywiol o wasanaethau sy’n cefnogi teuluoedd sydd ag amrywiaeth o anghenion, ac yn eu cefnogi i ofalu am eu plant gartref ac yn eu cymunedau eu hunain.

Dywedodd, “Mae cadw teuluoedd ynghyd gyda’r gefnogaeth gywir yn rhywbeth rwy’n teimlo’n gryf iawn yn ei gylch. Rwy’n falch iawn o’r gwaith mae ein timau yn ei wneud, a’u parodrwydd i weithio mewn modd gwahanol a rhoi cynnig ar ddulliau newydd i gefnogi teuluoedd mewn angen a sicrhau nad ydynt yn gorfod cael cymorth gan ein gwasanaethau. Braf oedd clywed brwdfrydedd y tîm heddiw a’u balchder wrth wneud gwahaniaeth i fywydau cynifer o blant.”

Continue Reading

Cymraeg

Enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Dathlu Diwylliant Sir Gaerfyrddin

Published

on

Mae’r gwaith o ddod o hyd i’r rhai sy’n cyfoethogi ein bywydau drwy gerddoriaeth, y celfyddydau a llenyddiaeth bellach wedi dechrau.

Mae enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Dathlu Diwylliant Sir Gaerfyrddin sy’n cydnabod rhagoriaeth ym maes y celfyddydau a diwylliant.

Cânt eu cynnal gan Gyngor Sir Caerfyrddin a’u cefnogi gan y Carmarthen Journal a’r Llanelli Star.

Cynhelir y digwyddiad blynyddol ym mis Ebrill a bydd yn tynnu sylw at bwysigrwydd diwylliant yn ein rhanbarth ac yn arddangos ein cyflawniadau diwylliannol ym mhob rhan o’r sir.

Maent yn agored i unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio yn Sir Gaerfyrddin, neu sy’n hanu o’r sir, a wnaeth gyfraniad sylweddol i ddiwylliant Sir Gaerfyrddin yn ystod 2019. Bydd unigolion, grwpiau a sefydliadau i gyd yn cael eu hystyried ar gyfer gwobrau mewn amrywiaeth o gategorïau gyda’r nod o hoelio sylw ar bob math o ddiwylliant yn Sir Gaerfyrddin.

Y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, sydd y tu ôl i’r cynllun gwobrau.

“Rydym mor ffodus o fod â threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog yma yn Sir Gaerfyrddin ac mae llawer o artistiaid nodedig, mawrion llenyddol a sêr y llwyfan a’r sgrin yn parhau i’n hysbrydoli” meddai.

“Mae cynnal y gwobrau hyn yn gyfle i anrhydeddu’r rheiny sy’n cyfoethogi ein bywydau ac yn bywiogi Sir Gaerfyrddin.”

Mae chwe chategori yn agored ar gyfer enwebiadau. Dyma nhw:

Rhagoriaeth yn y Celfyddydau Perfformio

Cydnabod perfformiwr neu grŵp o berfformwyr neu sefydliad sydd wedi gwneud argraff arbennig yn ystod 2019. Gall hyn gynnwys theatr, dawns, iaith lafar, a chomedi (ond nid yw’n gyfyngedig i hynny).

Rhagoriaeth yn y Celfyddydau Gweledol a Chrefftau

Cydnabod unigolyn, grŵp neu sefydliad sy’n gweithio ym maes y celfyddydau gweledol, dylunio, ffotograffiaeth neu grefftau y mae eu gwaith wedi gadael argraff a fydd yn para yn ystod 2019.

Rhagoriaeth yn y Cyfryngau Creadigol

Cydnabod cyflawniadau unigolyn, grŵp neu sefydliad yn y cyfryngau creadigol yn ystod 2018. Gallai hyn gynnwys ffilm, animeiddio, dylunio graffeg, dylunio gemau, a chelf ddigidol (ond nid yw’n gyfyngedig i hynny).

Rhagoriaeth mewn Llenyddiaeth

Cydnabod unigolyn, grŵp neu sefydliad rhagorol sy’n gweithio ym maes ysgrifennu creadigol, llenyddiaeth, rhyddiaith neu farddoniaeth a wnaeth argraff arbennig yn ystod 2019.

Rhagoriaeth mewn Treftadaeth

Cydnabod rhagoriaeth gan unigolyn, grŵp neu sefydliad sydd wedi codi proffil neu wedi dathlu hanes a threftadaeth Sir Gaerfyrddin yn ystod 2019.

Rhagoriaeth mewn Cerddoriaeth

Cydnabod cyflawniadau unigolyn, grŵp neu sefydliad ym maes cerddoriaeth yn ystod 2019. Gall hyn gynnwys cerddorion, cantorion, arweinwyr a chyfansoddwyr (ond nid yw’n gyfyngedig i hynny).

Bydd y beirniaid yn cyflwyno dwy wobr arbennig:

Talent Ifanc

Unigolyn neu grŵp, o dan 25 oed, sy’n gweithio mewn unrhyw ddisgyblaeth, sy’n dangos gwir botensial a thalent yn gymharol ifanc.

Cyfraniad Eithriadol i Ddiwylliant

Mae’r wobr hon ar gyfer rhywun sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’r celfyddydau a diwylliant yn Sir Gaerfyrddin dros gyfnod hir.

Bydd panel beirniadu yn llunio rhestr fer o blith yr enwebiadau, cyn dewis y tri enillydd ym mhob categori.

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw Dydd Sul, 23 Chwefror am 11.59pm. Gallwch enwebu unigolyn, grŵp neu sefydliad ar-lein yma https://bit.ly/2CzBFL6 neu galwch yn eich llyfrgell leol neu un o ganolfannau Hwb y Cyngor yn Llanelli a Rhydaman i gael cymorth â’r cais ar-lein.

Cyflwynir y gwobrau mewn seremoni yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli, ddydd Gwener 3 Ebrill.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y digwyddiad hwn, cysylltwch ag Isabel Goodman, Rheolwr Digwyddiadau Rhanbarthol – Media Wales, drwy ffonio 01792 545511 neu anfon neges e-bost at: isabel.goodman@mediawales.co.uk

Continue Reading

Trending

FOLLOW US ON FACEBOOK