Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Pobl ifanc sy’n cadw fflam Cefn Gwlad yn fyw

Published

on

Mae Tîm newydd: Ar gyfer dychwelyd Cefn Gwlad

ERS 35 mlynedd, mae’r rhaglen amaeth Cefn Gwlad wedi bod yn rhan annatod o amserlen S4C yn ogystal â bod yn un o raglenni mwya’ poblogaidd y sianel. Ond wrth i’r gyfres newydd ddechrau nos Fawrth, 27 Chwefror, bydd tîm newydd o gyflwynwyr wrth law i helpu Dai.

Y ffermwr a’r darlledwr Dai Jones, Llanilar fydd asgwrn cefn y gyfres o hyd wrth iddo gyfarfod rhagor o gymeriadau sy’n byw yng nghefn gwlad Cymru. Ond yn ymuno ag o yn y gyfres newydd bydd gwraig fferm o Geredigion, Meleri Williams, y cyflwynydd a’r ffermwr defaid Ioan Doyle, y cyflwynydd a’r wraig fferm Mari Lovgreen a’r ffermwr o Fro Ddyfi, Rhys Lewis.

Yn ogystal, cawn gwrdd ag aelod ifanca’r tîm – Elis Morris, 10 oed, o Gaerdydd – sydd, fel Dai Llanilar, wedi ei fagu yn y ddinas ond â’i fryd ar fod yn ffermwr. Yn ystod y gyfres, byddwn yn dilyn Elis wrth iddo gymryd ei gamau cyntaf i mewn i’r byd ffermio.

Ac yntau’n 74 mlwydd oed, mae digon o betrol yn y tanc gan Dai o hyd. Mae’n parhau i ffermio a darlledu gymaint ag erioed ac wedi mwynhau dros 50 mlynedd yn cyflwyno rhaglenni poblogaidd fel Sion a Siân a Cefn Gwlad yn ogystal â rhaglen radio wythnosol ar BBC Radio Cymru, Ar eich Cais. Ond mae’n edrych ymlaen at rannu awenau ei raglen enwocaf gyda’r criw newydd.

“‘Da ni ar drothwy newid mawr,” meddai Dai o’i fferm yn Llanilar. “I ddechrau, bydd y rhaglenni’n awr yn hytrach na hanner awr a dwi’n meddwl y byd o’r dewis o’r pedwar aelod newydd. Mae’r pedwar yn bobl ifanc y wlad, yn dod o gefndir amaethyddol ac wedi cael eu trwytho yng nghefn gwlad Cymru. Ac mae’n holl bwysig bod Cefn Gwlad yn cadw ei gymeriad amaethyddol, gwledig. Wedi’r cwbl, fyddai rhywun ddim yn gofyn i berson sy’n gweithio mewn siop tsips ddreifio awyren, na fydden nhw? A phobl ifanc fel y rhain sy’n cadw fflam cefn gwlad yn fyw.”

Ym mhennod gynta’r gyfres newydd bydd Dai yn teithio i Ben Llŷn i gwrdd ag Ifan Hughes, perchennog Garej Ceiri Llanaelhaearn, neu Ifan Lodge fel mae’n cael ei adnabod yn lleol. Bydd Mari, merch sydd wedi ei magu yn n Caernarfon ond sydd bellach wedi setlo ym mwynder Maldwyn, yn dysgu mwy am fenter a dyfeisgarwch gwragedd fferm sy’n llwyddo i jyglo cadw teulu, rhedeg ffarm a mentro i fyd busnes. A bydd Rhys allan yng nghanol nos i wylio Rali Nos Bro Ddyfi sy’n sgrialu heibio ei fferm.

Dros y blynyddoedd, mae Dai wedi cyfarfod toreth o gymeriadau ym mhob twll a chornel o Gymru ar gyfer Cefn Gwlad, ond oes ganddo unrhyw gyngor ar gyfer y cyflwynwyr newydd?

“Y peth pwysig yw eu bod nhw’n bod yn nhw eu hunain. Dwi’n cofio’r diweddar Geraint Rees, cyn-gynhyrchydd Cefn Gwlad, yn dweud wrtha i pan o’n i’n trosleisio un o’r cyfresi cynnar, ‘Paid trio bod yn llenyddol, Dai. Gad hynny i’r beirdd. G’na ‘di fe yn dy ffordd dy hunan – mae e’n fwy angerddol.’ Ac alla i ddim pasio gwell gyngor ymlaen i’r criw ifanc ‘ma.”

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Dim digon o bobl anabl mewn swyddi

Published

on

'Busnesau'n colli cyfle': Meddai Eluned Morgan

MAE BUSNESAU yng Nghymru yn colli’r cyfle i fanteisio ar sgiliau pobl fedrus drwy beidio â chynnig digon o gyfleoedd gwaith i bobl anabl. Dyna a ddywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, wrth gynulleidfa o reolwyr ym maes Adnoddau Dynol.

Rhoddodd y Gweinidog wybod iddynt am Nath o Rondda Cynon Taf, sydd ar y sbectrwm awtistig ac wedi cael diagnosis o Syndrom Asperger. Mae Nath wedi cael hyd i waith sy’n addas ar gyfer eu sgiliau drwy gymorth gan raglen Cymunedau am Waith Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i hariannu gan yr UE. Mae’n siarad Cymraeg yn rhugl ac yn gallu cyfieithu dogfennau’n weddol rhwydd, ond mae’n ei chael hi’n anodd mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Roedd ei gynghorydd ar gyfer y rhaglen Cymunedau am Waith wedi ei helpu i fynd am swydd fel Cyfieithydd, ac ar ôl rhywfaint o gydweithrediad dwys, fe lwyddodd i gael swydd yn gweithio i’r Autism Directory Society.

Gyda chymorth y gymdeithas a’i gynghorydd, fe gafodd cymorth ariannol gan raglen Mynediad i Waith yr Adran Gwaith a Phensiynau. Yn ychwanegol at hynny, mae’n cael cymorth gan Hyfforddwr Mynediad i Waith am dair blynedd, sy’n ei helpu i aros yn y swydd. O ganlyniad i’r cymorth hanfodol y mae’n ei gael drwy raglen Mynediad i Waith, mae’n ceisio defnyddio gwahanol ddulliau a thechnegau ac yn cadw’n gadarnhaol. Mae hynny’n ei helpu i oresgyn y rhwystredigaeth y mae’n ei chael wrth gyfathrebu’n gymdeithasol.

Wrth annerch cyfarfod Lansio Fforwm Polisi Cyhoeddus y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, dywedodd y Gweinidog: “Does dim digon o bobl anabl mewn swyddi. Mae ffigurau a gafodd eu rhyddhau dim ond yr wythnos diwethaf yn dangos mai 9.2% yw’r gyfran o bobl anabl ym Mhrydain Fawr sy’n gallu gweithio ond sy’n ddi-waith – sy’n fwy na dwywaith cyfran y rhai hynny nad ydyn nhw’n anabl, sef 3.6% ar hyn o bryd.

“Yn y cyfamser, yng Nghymru, dim ond 45% o bobl anabl mewn oedran i weithio sy’n gweithio ar hyn o bryd, o’i gymharu â 79% o’r rhai hynny nad ydynt yn anabl. Dyw hynny ddim yn dderbyniol. Rwy am i hyn newid, ac mae angen eich help chi arna’ i gyflawni hynny.

“Ac nid proses hollol anhunanol yw hon. Os nad ydych chi’n cyflogi croestoriad eang o’r gymdeithas, rydych chi’n colli cyfle i fanteisio ar botensial sydd heb ei wireddu o’n gweithlu medrus.”

Yn gynharach eleni cafodd Cynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru ei lansio. Mae’r cynllun yn cydnabod bod rhai pobl yn wynebu rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael swydd.

Un o brif gamau gweithredu’r cynllun yw darparu dull unigolyddol o fynd ati i gynnig cymorth i hybu cyflogadwyedd sy’n ymateb i anghenion unigolion ac yn ystyried amgylchiadau personol, rhwystrau, ymagweddau ac uchelgeisiau. Mae sicrhau bod cyfleoedd ar gael i bobl anabl allu dod o hyd i waith ac aros yn y gwaith yn elfen allweddol o’r dull hwnnw. Mae’r cynllun yn galw ar fusnesau i fynd i’r afael â’r rhwystrau rhag cael swydd drwy addasu swydd-ddisgrifiadau a defnyddio prosesau recriwtio arloesol.

Ychwanegodd y Gweinidog: “Dydyn ni ddim yn disgwyl ichi wneud hynny heb gyngor a chymorth. Ond, mae mwy i gyflogadwyedd na swyddi a sgiliau. Mae’n golygu ein bod ni’n sicrhau bod pob agwedd ar bolisi’r Llwodraeth – addysg, iechyd, tai a chymunedau – yn gweithio ar y cyd i helpu pobl i gael swyddi cynaliadwy. Ond, all y Llywodraeth ddim, a ddylai hi ddim, wneud hynny ar ei phen ei hunan. Rhaid inni gael cefnogaeth cyflogwyr, busnesau a gweithwyr proffesiynol fel chi i’n helpu ni.”

Continue Reading

Cymraeg

Llofruddiaethau’r Moors: y cysylltiadau Cymreig

Published

on

Dau wyneb o ddrwg: Brady ac Hindley

YN RHAGLEN olaf y gyfres bresennol o Y Ditectif ar S4C, fe fydd Mali Harries yn edrych ar un o achosion mwyaf erchyll yn hanes troseddol gwledydd Prydain – Llofruddiaethau’r Moors.

Mae’n cwrdd â thri o’r Cymry ddaeth mewn cysylltiad â’r seicopath Ian Brady a’i bartner Myra Hindley, wrth ddysgu am hanes tywyll a dychrynllyd yr achos yn Y Ditectif nos Fawrth 5, Mehefin.

Fe wnaeth y cyn-Dditectif Gwnstabl Evan John Hughes ddod wyneb yn wyneb â Brady pan oedd yn rhan o dîm CID Heddlu Sir Gaer yn 1965. Buodd yr ymgyrchydd iaith Enfys Llwyd yn canu mewn côr a chwechawd gyda Hindley yng Ngharchar Holloway, Llundain yn y 1970au, a’r newyddiadurwr Bob Rogers yn llythyru â Brady pan oedd yn Ysbyty Meddwl Ashworth. Mae’r tri yn arswydo at y profiad o hyd.

Fe wnaeth Brady a Hindley lofruddio pump o blant dros gyfnod o tua 18 mis yn ystod y 1960au, gan gladdu cyrff tri ohonyn nhw ar Saddleworth Moor, ger Manceinion. Wrth droedio’r gweundir, yr union dir y buodd y ditectif Evan Hughes a 150 o heddweision eraill yn chwilio, mae’r profiad yn codi ias ar Mali Harries.

“Mae dysgu am fanylion yr achos ‘ma wedi bod yn anodd, ac ro’dd bod ar y Moors yn rhoi teimlad anghysurus iawn i fi wrth feddwl am yr holl ddioddef.”

Cafodd Ian Brady a Myra Hindley eu dedfrydu am oes yn llys Caer, Chester Assizes ym 1966 am lofruddio Edward Evans, 17, John Kilbride, 12, a Lesley Ann Downey, 10.

Roedden nhw’n gwadu unrhyw gysylltiad gyda’r ddau blentyn coll arall ar y pryd ond fe wnaethon nhw gyfaddef i lofruddiaethau Pauline Reade, 16, a Keith Bennett, 12 yn hwyrach yn yr ’80au. Dyw corff Keith Bennett erioed wedi cael ei ddarganfod a bellach mae Brady a Hindley wedi marw.

Un o’r darnau mawr o dystiolaeth i’r heddlu yn y 60au oedd cynnwys dau gês. Ynddyn nhw roedd lluniau noeth o ferch fach a thâp gyda recordiad sain arno fe. Ar y tâp mae lleisiau Brady a Hindley ac eiliadau olaf y ferch ddeg oed oedd wedi diflannu, Lesley Ann Downey, yn pledio arnyn nhw i’w rhyddhau a pheidio â’i dadwisgo. Wrth ddarllen trawsgrifiad o’r tâp hwn nid yw Mali’n gallu dal y dagrau yn ôl, ac yn ei ddisgrifio fel “y peth gwaetha’ fi byth wedi darllen.”

Wrth i Mali sgwrsio â’r cyn dditectif Evan Hughes sydd bellach wedi ymgartrefu ym Mhwllheli, Gwynedd, mae’n dweud mai’r un o’i atgofion cyntaf iddo fe oedd cael y gorchymyn i orchwylio Brady pan gafodd ei arestio gyntaf.

“Roedd rhywun wedi rhoi papur newydd iddo fo ac roedd o’n darllen y papur newydd fel nad oedd dim byd wedi digwydd erioed. Dwi wedi treulio’r hanner can mlynedd yn ceisio anghofio amdano fo ond dyw pobol ddim yn gadael imi anghofio…. Fuaswn i’n disgrifio’r ddau’n ddieflig, a dweud y gwir, mae’n anodd coelio bod unrhyw berson wedi gallu gwneud beth wnaeth y ddau yma,” meddai Evan.

Roedd Enfys Llwyd o Dalgarreg, Ceredigion wedi cael ei hanfon i Holloway ar ôl torri mewn i swyddfeydd y BBC yn Llundain wrth ymgyrchu dros sianel deledu Gymraeg ar ran Cymdeithas yr Iaith. Roedd hi a’i chyd ymgyrchydd Meinir Ffransis yn canu yng nghôr y carchar gyda Hindley.

“Roeddech chi’n edrych ar ei dwylo hi a meddwl beth oedd y clustie’ wedi clywed a’r llygaid wedi gweld, roeddech chi’n teimlo arswyd,” meddai.

Bu’r newyddiadurwr a’r awdur Bob Rogers yn llythyru â Brady yn y gobaith o gael gwybodaeth ganddo am le yr oedd Keith Bennett wedi’i gladdu. Dywedodd, “Gymerodd e ddim sylw o fy nghwestiynau, y cyfan ges i ‘nôl oedd rantio a chwyno am sut roedd yn cael ei drin. Doedd e’n gweld dim drwg yn yr hyn oedd wedi ei wneud. Dyma oedd fy mhrofiad cyntaf o ddelio gyda seicopath llwyr, fel arfer mae yna ryw rinwedd yn rhywle ond roedd e’n ddrwg i gyd.”

Continue Reading

Cymraeg

Dewch i Ddathlu Blwyddyn y Môr

Published

on

Dathlu Blwyddyn y Môr: Yn teithio drwy Aberdaugleddau

HOFFECH chi weld Arfordir Sir Benfro o’r môr neu ddysgu mwy am fywyd gwyllt y môr a ttadaeth forwrol yr ardal? Os felly, ymunwch â thrip cwch Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i ddathlu Blwyddyn y Môr.

Mae Awdurdod y Parc wedi ymuno â chwmni Dale Sailing i drefnu’r daith arbennig hon rhwng 11am a 3pm ddydd Mawrth 5 Mehefin, a fydd yn teithio drwy Aberdaugleddau cyn mynd allan i’r môr.

Dywedodd Gayle Lister, Cydlynydd y Digwyddiad sy’n gwirfoddoli gydag Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Rhai o’n gwirfoddolwyr ymroddedig sydd â gwybodaeth fanwl am Arfordir Sir Benfro a’i rinweddau arbennig fydd yn arwain y trip cwch hwn.

“Dewch i glywed hanesion y bobl sy’n byw ac yn gweithio ar y môr ac o’i amgylch, dysgu am yr adar a bywyd gwyllt y môr, darganfod hanes y llongau yn Aberdaugleddau ddoe a heddiw a mwynhau golygfeydd arfordirol anhygoel o fan unigryw”.

Mae’r tocynnau’n costio £30 y person a bydd y cwch yn gadael Cei Mecryll Marina Aberdaugleddau.

Bydd angen i chi ddod â bocs bwyd, diodydd, dillad cynnes a dillad glaw gyda chi. Efallai y byddwch am ddod â chamera a binocwlars hefyd. Mae toiled ar gael ar y cwch.

Mae’n rhaid i chi archebu lle. I archebu lle ffoniwch 01437 720392.

Dylech nodi bod dydd Iau 7 Mehefin yn ddyddiad wrth gefn os bydd y tywydd yn ein rhwystro rhag hwylio ar 5 Mehefin. Mae angen i chi fod ar gael ar gyfer y ddau ddyddiad hyn. Os bydd y tywydd yn ein rhwystro rhag hwylio ar y ddau ddiwrnod, byddwch yn cael ad-daliad llawn.

I gael rhagor o wybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ewch i https://bit.ly/2LyI9gN.

Continue Reading

Trending