Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

‘Comisiwn Iaith – nid Comisiynydd – sydd ei angen’

Published

on

Gweinidog newydd sy'n gyfrifol am ddeddfwriaeth: Eluned Morgan

MAE DYFODOL i’r Iaith wedi croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i sefydlu Comisiwn i’r Gymraeg i gynllunio a gweithredu polisïau cyhoeddus i gefnogi’r iaith.

Gall sefydlu corff pwerus annibynnol ag iddo gyfrifoldebau eang ym maes cynllunio ieithyddol osod y llwyfan i weithredu strategaeth gynhwysfawr i adfywhau’r Gymraeg yn iaith genedlaethol.

Meddai cadeirydd Dyfodol, Heini Gruffudd, “Rydyn ni wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru yn awr yn bwriadu deddfu i sefydlu ‘r Comisiwn newydd hwn.

“Er ein bod yn anghytuno ynghylch rhai agweddau o’r Papur Gwyn a gyhoeddodd y gweinidog Alun Davies yn Eisteddfod Ynys Môn, mae’r Llywodraeth wedi derbyn prif drywydd ein gofynion ni. Mae’n holl bwysig nawr i garedigion yr Iaith gyd-dynnu i wneud llwyddiant o’r trefniadau newydd. Wrth i’r Bil newydd ddilyn ei gwrs drwy’r Cynulliad bydd angen pwyso er mwyn sicrhau nad yw bwriadau’r Papur Gwyn yn cael eu glastwreiddio a bod rhai gwendidau yn cael eu cywiro”

Meddai Cynog Dafis, “Bydd rhaid i’r Llywodraeth ddangos na fydd hawliau siaradwyr Cymraeg yn cael eu gwanhau drwy fod rol y Comisiynydd presennol yn cael ei chynnwys o fewn y Comisiwn newydd. Ond bydd sefydlu’r Comisiwn yn gyfle euraid i ddatblygu rhaglenni cyffrous i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y teulu a’r gymdeithas ac ym myd gwaith ac wrth gwrs drwy helaethu addysg Gymraeg yn ddirfawr.

“Fodd bynnag dyw bwriadau da ddim yn ddigon. Os yw nod y llywodraeth o greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050 i’w gymryd o ddifrif, rhaid wrth adnoddau ariannol sylweddol a chael pobl gymwys ac ymroddedig yn y swyddi allweddol.

“Rydyn ni’n hynod falch bod Llywodraeth Cymru yn gydnabyddus â’r sefyllfa yng Ngwlad y Basgiaid a Chatalwnya lle y gweithredwyd polisïau cynhwysfawr i adfywhau eu hieithoedd cynhenid yn llwyddiannus.”

Fe gyflwynir a thrafodir hyn ymhellach mewn Cyfarfod Cyhoeddus yn Llanbedr Pont Steffan heno yn Festri Capel Brondeifi am 7 o’r gloch ac mae croeso cynnes i bawb.

Cadeirydd y cyfarfod yn Llanbed heno yw Ben Lake AS a ddywedodd “Rwy’n falch o gael cadeirio’r cyfarfod hwn yn nhref fy magwraeth a chlywed am y gwaith pwysig y mae Dyfodol wedi’i wneud i ddylanwadu ar bolisiau Llywodraeth Cymru”.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu llythyr gan Gymdeithas Rhyngwladol y Comisiynwyr Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â diddymu Comisiynydd y Gymraeg.

Meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: “Dyma dystiolaeth bellach i gefnogi’r ddadl dros gadw Comisiynydd y Gymraeg. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cael gwared ar swydd Comisiynydd y Gymraeg, a hynny heb gynnig unrhyw reswm, unrhyw resymeg nac unrhyw dystiolaeth i gefnogi hynny.

“Roedd papur gwyn y Llywodraeth wedi’i seilio ar ddim ond naw mis o waith Comisiynydd y Gymraeg ar y Safonau. Ond mae tystiolaeth glir yn dangos bod y swydd eisoes yn cael dylanwad ar hawliau pobol ar lawr gwlad. Ffolineb llwyr fyddai cael gwared â’r swydd ar ôl cymryd amser, arian ac egni i’w sefydlu, ond yn bwysicach am ei bod hi’n amlwg ei fod yn swyddogaeth sy’n cynnig gwerth clir am arian ac yn effeithiol. Adeiladu ar y swydd a’i datblygu sydd eisiau nawr, nid ei gwaredu.”

“Mae angen Bil er lles y bobl, yr iaith a’i defnydd, nid Bil er lles y biwrocratiaid fel mae’r Llywodraeth yn ei gynnig. Byddai’n well iddyn nhw beidio deddfu o’r newydd o gwbl na throi’r cloc yn ôl fel hyn a gwanhau ein hawliau. Rydym yn gwrthwynebu yn chwyrn gynlluniau presennol y Llywodraeth, ac rydyn ni’n galw ar bobl Cymru i’w gwrthwynebu hefyd.”

“Cefais i gyfarfod gyda dau o arweinwyr Cymdeithas yr Iaith wythnos hon, ac ry’n ni’n bendant yn anghytuno ar le mae’r pwyslais,” ychwanegodd Heini Gruffudd.

“Maen nhw fel pe bai’n nhw’n rhoi’r pwyslais i gyd ar Gomisiynydd, dw i’n ofni bod rhoi pwyslais ar hawliau unigol ond yn mynd i effeithio ar ganran fach iawn o’r boblogaeth.

“Mae angen rhywbeth llawer iawn mwy eang na hynny. Dydyn ni ddim yn erbyn Comisiynydd, dw i’n deall bod Comisiynwyr Ewrop eisiau cadw Comisiynydd yng Nghymru, popeth yn dda.

“Ond beth sydd ddim yng Nghymru yw’r math o gynllunio iaith ar lefel drylwyr iawn, traws-lywodraeth sydd wedi bod yn digwydd gyda’r Basgiaid a Chatalwnia.

“Dw i ddim yn gweld bod eisiau mynd am un neu’r llall, buaswn i’n dweud bod y maes y byddai’r Comisiwn yn delio gyda fe yn llawer ehangach na’r hyn sy’n cael ei ddelio ‘da fe o dan hawliau.

“Os ydych chi’n edrych ar Wlad y Basg, y peth cyntaf wnaethon nhw oedd hyfforddi 7,000 o weision sifil ac athrawon. Buddsoddi mawr ar raddfa eang er mwyn Basgeiddio’r system addysg a’r llywodraeth. Dyw’r system Comisiynydd ddim yn mynd i gyflawni hynny.”

Fydd neb yn synnu ar Cymdeithas a Dyfodol cael ei wrthwynebu. Mae’n ymddangos, fodd bynnag, bod barn Dyfodol i’r Iaith yw heb gymorth gan sefydliadau eraill.

Mae clwstwr o fudiadau iaith Cymru wedi beirniadu Papur Gwyn Llywodraeth Cymru gan ddweud ei fod yn tynnu sylw oddi wrth yr ymdrechion i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mi gafodd y Papur Gwyn ei lansio ar faes prifwyl Môn eleni ac un o’i brif argymhellion yw sefydlu Comisiwn y Gymraeg a fyddai’n disodli rôl Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws.

Ond yn ôl y mudiadau sy’n gweithredu o dan yr enw ‘Dathlu’r Gymraeg’ does dim tystiolaeth i gyfiawnhau diddymu rôl y Comisiynydd.

Am hynny maen nhw’n galw am “bwyllo ac oedi” cyn cyflwyno cynlluniau’r papur gwyn.

Mae’r mudiadau sydd wedi arwyddo’r llythyr agored yn cynnwys Mentrau Iaith Cymru, undeb athrawon UCAC, Cymdeithas yr Iaith, Rhieni dros Addysg Gymraeg a’r Mudiad Meithrin.

Mae’r llythyr yn cydnabod yr angen am “reoleiddiwr annibynnol a grymus” i wella hawliau i’r Gymraeg.

Ond maen nhw’n nodi y gall y Papur Gwyn “ddargyfeirio ymdrechion y Llywodraeth o’r gwaith pwysig o weithredu Strategaeth y Gymraeg, sydd wedi ennyn cefnogaeth o bob cwr o Gymru.”

“Credwn felly y byddai mantais pwyllo ac oedi cyn cyflwyno newidiadau mor bellgyrhaeddol â’r rhai sydd yn y papur gwyn,” meddai’r llythyr.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Mae y byd yn dod i Langollen

Published

on

“Y byd yn uno mewn dathliad lliwgar a llawen”: Yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen

BOB BLWYDDYN mae’r byd yn dod i Langollen, tref fechan yng ngogledd-ddwyrain Cymru, gan drawsnewid y dref gysglyd gyda môr o liw, can a dawns ar gyfer Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen. Os na fedrwch fod yno, bydd S4C yn dod â bwrlwm yr ŵyl i’ch ystafell fyw gyda darlledu byw o’r pafiliwn a rhaglenni uchafbwyntiau gyda’r nos.

Mae’r cyflwynwyr Nia Roberts a Trystan Ellis-Morris yno i’n tywys trwy’r hwyl mewn rhaglenni uchafbwyntiau nosweithiol gyda chymorth arbenigwyr i drafod a dadansoddi’r cystadlaethau corawl, dawns, unigol ac offerynnol. Un o arbenigwyr eleni fydd y soprano Elin Manahan Thomas, un o berfformwyr Gala yr Eisteddfod y llynedd a wnaeth hefyd berfformio yn ystod priodas Dug a Duges Sussex, Tywysog Harry a Meghan Markle fis Mai eleni.

Fel rhan o’r uchafbwyntiau nosweithiol bydd eitemau arbennig wedi eu ffilmio o flaen llaw yn dilyn cystadleuwyr o Gymru, Iwerddon ac Indonesia i ddangos pwysigrwydd yr Eisteddfod Ryngwladol i bobl o ddiwylliannau amrywiol o amgylch y byd.

Y cyflwynydd Morgan Jones fydd yn cyflwyno gyda Elin Llwyd yn fyw o’r maes ar brynhawn dydd Sadwrn gan roi blas o’r cyffro o amgylch y maes ac yn y dref. “Dwi wedi cael cyfle i fynd allan i gwrdd â grwp ddawns Al Zhir yn Jakarta, Indonesia, un o ddinasoedd fwya’r byd. Cawn ddod i nabod y cystadleuwyr yn yr eitemau a byddwn ni’n dilyn eu hanes wrth iddyn nhw gystadlu yn yr Eisteddfod Ryngwladol,” meddai cyn ychwanegu, “Dwi’n edrych mlaen i groesawu criw Jakarta i Gymru!”

“Bob blwyddyn dwi’n edrych ymlaen at y teimlad o frawdgarwch rhwng cenhedloedd. Dyma yw pam fod gymaint o’r cystadleuwyr yn dod nôl bob blwyddyn oherwydd ei fod yn ŵyl o fri sy’n cael ei pharchu yn rhyngwladol, ac mae pawb yn awyddus i fod yn rhan o’i hanes cyfoethog ac i fod yn rhan o’r hwyl sydd i’w gael ar y maes ac yn y dref,” meddai Morgan.

Bydd yr wythnos yn gorffen gyda crescendo ar nos Sadwrn wrth i enillwyr y corau ieuenctid, cymysg, merched, dynion a’r categorïau agored cystadlu am deitl mawreddog Côr y Byd 2018, tlws Luciano Pavarotti a gwobr ariannol gwerth £3,000.

Ymunwch â ni yn n fechan Llangollen am wledd o gerddoriaeth a dawns wrth i’r Eisteddfod Ryngwladol dod a’r byd yn un am wythnos arbennig.

Continue Reading

Cymraeg

Eglwys Madagascar yn ymweld â Cheredigion

Published

on

Dwy gan mlynedd o bartneriaeth: Pwysigion o Fadagascar gydag aelodau Cyngor Sir Ceredigion

AR DDYDD Iau, 7 Mehefin, cwrddodd nifer o bwysigion o Fadagascar gydag aelodau Cyngor Sir Ceredigion fel rhan o ddathliadau y cafodd eu cynnal yng Ngheredigion i ddathlu deucanmlwyddiant o’r cenhadon cyntaf a deithiodd o ardal Aberaeron i Fadagascar.

Ymwelodd y pwysigion o Fadagascar, gan gynnwys Mr Marc Ravalomanana, cyn-Lywydd Madagascar a Chadeirydd Pwyllgor Dathliadau Deucanmlwyddiant Eglwys Iesu Grist ym Madagascar (FJKM), Ceredigion dros gyfnod o ddiwrnodau. Fe wnaethant fynychu cyngherddau dathlu a gweld arddangosfeydd a oedd yn arddangos coffau o ymdrechion ac etifeddiaeth y cenhadwyr o gapel Neuaddlwyd a sefydlodd eglwys ar ynys Madagascar 200 mlynedd yn ôl – eglwys sy’n llwyddiannus ac yn cael ei fynychu’n dda hyd heddiw.

Dywedodd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Hag Harris, a gyflwynodd Mr Ravalomanana gyda plac o crest y Cyngor, “Roedd yn anrhydedd i groesawu’r ymwelwyr o Fadagascar i Geredigion a chlywed sut wnaeth y cenhadwr hwylio a sefydlu eglwys yno, sy’n dal i fod yn gryf heddiw. Mae cyfleoedd fel hyn yn ein galluogi ni i adlewyrchu a dathlu ar y cysylltiadau sydd gan ein sir ni gyda lleoedd ledled y byd a’r cyfraniadau cadarnhaol y gallwn eu darparu i eraill.”

Continue Reading

Cymraeg

Cyhoeddi ‘geiriadur’ o Enwau Lleoedd Cymru

Published

on

'Un gam o’r ffordd': Dai Lloyd, AC

BYDD RHESTR gynhwysfawr o enwau lleoedd Cymru yn cael ei chyhoeddi gan Gomisiynydd y Gymraeg ar 20 Mehefin, fydd yn cynnig sillafiad safonol ar gyfer enwau pentrefi, trefi a dinasoedd yng Nghymru.

Mae’r rhestr, fydd ar gael ar-lein ar wefan Comisiynydd y Gymraeg, yn cael ei disgrifio fel ‘geiriadur’ i wirio sut i sillafu enwau lleoedd. Mae bron i 3,000 o enwau ar y rhestr, ac mae’n ffrwyth blynyddoedd o waith ymchwil ac ymgynghori yn y maes.

Yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd eleni bu’r Comisiynydd yn gofyn i ymwelwyr brofi’r rhestr ddigidol ar ei stondin. Erbyn diwedd yr wythnos roedd dros 750 o binnau wedi eu rhoi ar y map yn nodi fod enw tref neu bentref wedi ei wirio ac mae unrhyw enwau oedd yn ymddangos ‘ar goll’ wrthi’n cael eu hychwanegu at y rhestr.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, “Rydym yn hynod o falch ein bod bellach mewn sefyllfa i gyhoeddi rhestr safonol o enwau lleoedd yng Nghymru. Mae’r digwyddiad hwn yn benllanw blynyddoedd o waith ymchwil gan ein tîm bychan o fewn Comisiynydd y Gymraeg mewn ymgynghoriad â phanel o arbenigwyr ar enwau lleoedd. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r arbenigwyr hyn am eu cyfraniad anhepgor at y prosiect hwn yn sicrhau bod sail gadarn i bob un o’r argymhellion.

“Mae gan lawer ohonom farn bersonol am sut i ysgrifennu enwau lleoedd yn ein milltir sgwâr ac mae’n bosibl na fydd pawb yn cytuno â phob argymhelliad ar y rhestr. Nid gorfodi yw ein bwriad, ond yn hytrach argymell, a cheisio sicrhau bod cysondeb yn y modd yr ydym yn sillafu enwau lleoedd yng Nghymru mewn cyd-destunau swyddogol.”

Un o’r sefydliadau sydd eisoes wedi cyhoeddi y byddant yn gwneud defnydd o’r rhestr newydd yw’r Arolwg Ordnans.

Yn ôl Pam Whitham, Rheolwr Perthnasau’r Arolwg Ordnans, “Mae gennym bartneriaeth werthfawr â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, ac maen nhw wedi chwarae rôl allweddol wrth i ni ddatblygu ein Polisi Enwi Cymraeg a sicrhau cysondeb o ran enwau lleoedd yng Nghymru yn ein holl gynnyrch. Rydym yn falch iawn o fod yn parhau i weithio â’r Comisiynydd ac yn croesawu’r rhestr hon fel adnodd gwerthfawr i ddiffinio enwau lleoedd yng Nghymru.”

Bydd y rhestr yn cael ei lansio mewn digwyddiad ym Mae Caerdydd, dan nawdd Dr Dai Lloyd AC. Gwnaeth Dr Dai Lloyd ymgais ym Mawrth 2017 i gyflwyno mesur fyddai’n diogelu enwau lleoedd yng Nghymru, ond pleidleisiodd y Cynulliad yn erbyn y cynnig ar y pryd.

Dywedodd Dr Lloyd, “Mae rhoi’r enwau ar gof a chadw ar restr fel hon yn mynd gam o’r ffordd at sicrhau bod y ffurfiau safonol yn cael eu cofnodi a’u parchu. Er mwyn gwirioneddol ddiogelu’r enwau lleoedd, a sicrhau na ddaw enwau eraill i gymryd eu lle’n fympwyol, credaf bod angen statws cyfreithiol i’r rhestr hon, fel sydd wedi digwydd mewn nifer o wledydd eraill.”

Wrth safoni enwau lleoedd, mae’r panel o arbenigwyr wedi bod yn dilyn canllawiau pendant. Maent yn talu sylw i ynganiad a tharddiad yn ogystal â defnydd lleol a defnydd hanesyddol o’r enw.

Mae Dr Dylan Foster Evans o Brifysgol Caerdydd yn aelod o’r panel. Dywedodd, “Mae enwau lleoedd yn rhan o’n treftadaeth a’n hunaniaeth – dyna pam y mae cymaint ohonom â diddordeb byw ynddynt. Dim ond yn yr ugeinfed ganrif y cafodd system sillafu’r Gymraeg ei safoni’n drylwyr. Bu enwau lleoedd yn araf deg yn dilyn y drefn honno: mae sillafiad megis Caernarvon yn edrych yn Seisnig a dieithr inni heddiw, ond dyna’r ffurf sydd ar gadair Eisteddfod Genedlaethol 1935!

“Nid mater du a gwyn yw sillafu enwau lleoedd, ac nid pawb a fydd yn cytuno â phob argymhelliad. Ond mae cytuno ar ffurfiau safonol mewn cronfa fel hon yn rhywbeth hanfodol os yw’r Gymraeg i fod yn iaith fodern ac addas ar gyfer yr oes ddigidol sydd ohoni.”

Bydd y rhestr ar gael i’w chwilio a’i lawrlwytho o dan drwydded agored ar wefan Comisiynydd y Gymraeg: https://bit.ly/2tjAvOG.

Continue Reading

Trending

FOLLOW US ON FACEBOOK