Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Ymwelwyr yn heidio i’r Senedd i weld Weeping Window

Published

on

DAETH nifer uwch nag erioed o ymwelwyr i’r Senedd dros yr haf eleni i weld cerflun pabis eiconig Weeping Window.

Daeth mwy na 49,000 o bobl i weld gwaith yr artist Paul Cummins a’r dylunydd Tom Piper, sy’n rhan o daith ledled y DU a drefnwyd gan 14-18 NOW, sef rhaglen gelfyddydol y DU i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae’r ffigur fwy na deirgwaith yn uwch na nifer y bobl a ymwelodd â’r Senedd yn ystod yr un cyfnod dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Roedd y cerflun i’w weld ar risiau’r Senedd rhwng mis Awst a mis Medi a bydd yn symud nawr i Amgueddfa Ulster yn Belfast ar gyfer cam nesaf y daith ledled y DU.

Roedd yr arddangosfa yn rhan o ‘Cymru’n Cofio’, sef rhaglen o ddigwyddiadau i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd arddangosfa Weeping Window yn cyd-fynd â chanmlwyddiant Brwydr Passchendaele, lle y bu farw llawer o Gymry, gan gynnwys y bardd enwog Hedd Wyn.

Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad, “Mae Weeping Window wedi bod yn boblogaidd iawn, gan ddenu nifer fawr o ymwelwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt.

“Mae’r Senedd yn lleoliad arbennig ac mae wedi bod yn wych gweld cynifer o bobl yn mwynhau’r cerflun ac yn cymryd amser i feddwl ac ystyried ei arwyddocâd.”

Dywedodd Jenny Waldman, Cyfarwyddwr 14-18 NOW: “Mae’r pabis wedi swyno miliynau o bobl ledled y DU, ac roeddem yn falch iawn o gael cyfle i weithio gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflwyno Weeping Window yn y Senedd yng Nghaerdydd.

“Rydym yn hynod ddiolchgar i’r artist Paul Cummins a’r dylunydd Tom Piper am y ddau ddarn hynod bwerus hyn o gelf sydd o arwyddocâd cenedlaethol ac sy’n parhau i ysbrydoli pawb sy’n eu gweld.”

Mae Weeping Window yn un o ddau gerflun a gymerwyd o’r celfwaith Blood Swept Lands and Seas of Red – gwaith yr artist Paul Cummins yw’r pabis a’r cysyniad gwreiddiol a dyluniwyd y gosodiad gan Tom Piper​.​

Cafodd y gosodiad ei arddangos yn wreiddiol yn Nhŵr Llundain yn 2014, lle’r oedd 888,246 o babis i’w gweld, sef un ar gyfer pob milwr Prydeinig neu drefedigol a laddwyd ar y ffrynt yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Lluniwyd y gosodiad gan Paul Cummins Ceramics Limited ar y cyd â’r Palasau Brenhinol Hanesyddol. Weeping Window yw’r rhaeadr o babis a oedd i’w gweld yn llifo allan o ffenestr uchel i lawr at y glaswellt oddi tani.

Ochr yn ochr â Weeping Window cynhaliodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru arddangosfa o’r enw Menywod, Rhyfel a Heddwch hefyd. Daeth Lee Karen Stow, y ffotonewyddiadurwr enwog, â’i harddangosfa fyd-enwog i Gymru, yn cynnwys portreadau ychwanegol a gomisiynwyd yn arbennig i ddangos effaith y rhyfel ar fenywod Cymru.

Mae teithiau Wave a Weeping Window gan 14-18 NOW yn rhoi cyfle i bobl ledled y DU deimlo effaith y pabis seramig mewn lleoliadau amrywiol sydd â chysylltiad â’r Rhyfel Byd Cyntaf. Ers i’r teithiau ddechrau yn 2015, mae dros 2.7 miliwn o bobl wedi gweld y ddau gerflun. Bydd Wave a Weeping Window yn parhau i gael eu harddangos mewn lleoliadau penodol o amgylch y DU, gan gyrraedd IWM North ac IWM Llundain yn ystod yr hydref yn 2018.

Yn dilyn yr arddangosfa yng Nghaerdydd, bydd Weeping Window yn Amgueddfa Ulster yn Belfast rhwng 14 Hydref a 3 Rhagfyr 2017. Bydd Wave i’w weld yng Nghofgolofn Lyngesol Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad yn Plymouth rhwng 23 Awst a 19 Tachwedd 2017.

Mae Wave a Weeping Window wedi cael eu cadw i’r genedl gan Ymddiriedolaeth Backstage a Sefydliad Clore Duffield. Cafwyd cymorth ariannol ar gyfer yr arddangosfeydd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a Chronfa Dreftadaeth y Loteri, ac mae’r gwaith o godi arian ar gyfer y teithiau yn parhau.

DAF Trucks yw’r noddwr trafnidiaeth ar gyfer yr arddangosfeydd yn y DU, ac mae 14-18 NOW yn falch iawn o fod yn bartner i DAF wrth droi’r prosiect hanesyddol hwn yn realiti. Cefnogir y rhaglen ddysgu ac ymgysylltu sy’n cyd-fynd â thaith y pabis gan Sefydliad Foyle.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Bydd cynlluniau iaith yn cael eu moderneiddio

Published

on

Alun Davies: ​'Gweithredu brys​' i gynyddu'r nifer o athrawon

MAE GWEINIDOG y Gymraeg, Alun Davies AC, wedi dweud mae Llywodraeth Cymru angen ​’addasu a moderneiddio​’ y ffordd mae addysg Gymraeg yn cael ei chynllunio, yn ôl.

Wrth siarad ar ddydd Mawrth, 10 Hydref, dywedodd Mr Davies wrth ACau: “Cefais fy siomi gan y diffyg uchelgais o fewn y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg ar ddechrau’r flwyddyn, a dyna pam cafodd Aled Roberts ei benodi i gynnal adolygiad brys o’r system, ynghyd â chysylltu â’r awdurdodau lleol i drafod eu cynlluniau cyfredol.”

Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i baratoi a chyflwyno Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg i Lywodraeth Cymru eu hystyried.

Adroddiad Mistar Roberts yn cynnig 18 o argymhellion ar gyfer datblygu’r cynlluniau i’r dyfodol.

Dyweddod y Gweinidog: “Mi fyddwn ni’n derbyn pob un o’r argymhellion.”

Mae adroddiad Aled hefyd yn cynnig argymhellion ar gyfer cynllunio addysg Gymraeg ar gyfer y dyfodol.

Mae’r argymhellion yn cynnwys adolygiad o amserlenni’r WESPs i gyd-fynd â rhaglenni cyfalaf Llywodraeth Cymru, yn arbennig y rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac y dylid targedu’r buddsoddiad cyfalaf er mwyn sicrhau cysylltiad rhwng rhaglenni ysgolion a chyn ysgol.

Yn ail, dylid sefydlu panel neu fwrdd er mwyn trafod a phwyso a mesur y newidiadau sydd eu hangen i’r ddeddfwriaeth a’r rheoliadau cyn iddynt gael eu cyflwyno gerbron y Cynulliad.

Yn drydedd, cryfhau’r berthynas strategol rhwng llywodraeth leol a Mudiad Meithrin er mwyn sicrhau twf ar lefel pob sir a fydd yn cyfrannu at dargedau cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar hyd y daith at 2050. Yna, symleiddio proses categoreiddio ieithyddol ysgolion; a chynllunio a gweithredu brys er mwyn cynyddu’r nifer o athrawon sydd yn cael eu hyfforddi i addysgu yn y Gymraeg.

Wrth ymateb i gyhoeddiad Mr Davies i’r Blaid Geidwadol, dywedodd Darren Millar: “I am concerned, frankly, that the existing Welsh language impact assessments, which local authorities are required to undertake with regard to developments over a certain size, are not always looking for opportunities through their section 106 agreements to extend Welsh-medium provision in their communities.”

Diolchodd Mr Davies Mr Millar am ei ‘ymateb adeiladol’.

Dywedodd: “O ran cynlluniau datblygu lleol, yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth sydd wedi bod yn destun dadl rhai lleol mewn gwahanol rannau o’r wlad. Yr wyf wedi cyfarfod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd er mwyn trafod sut y gallwn symud y materion hyn ymlaen.

“Yr ydym yn dal i ystyried ein safbwynt ar hynny. I mi, ni welaf reswm o gwbl pam na all awdurdodau lleol sicrhau bod unrhyw ysgolion a adeiladwyd fel na all rhan o’r cytundebau 106 yn cynlluniau datblygu lleol yn sicrhau bod y Gymraeg yn rhan o hynny.”

Dywedodd Llyr Gruffudd: “Rydw i’n cytuno â chi bod yn rhaid addasu a moderneiddio nawr y ffordd rydym ni yn cynllunio.

“Rŷch chi’n berffaith iawn i ddweud nid dim ond rôl i’r Llywodraeth yw hon. Mae’r awdurdodau lleol, y byrddau llywodraethwyr, y prifathrawon, y rhieni, y plant eu hunain, a’r gymuned yn ehangach, wrth gwrs, â rôl bwysig i’w chwarae.

“Ond y Llywodraeth sydd yn gorfod dangos yr arweiniad. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth ddangos arweiniad cryf, arweiniad dewr, arweiniad diwyro, er mwyn sicrhau bod y gweddill yn dilyn. Heb hynny, yna rydw i yn ofni y byddwn ni’n cychwyn o fan o wendid.”

Ymatebwyd mae Gweindiog: “Rwy’n credu bod angen inni gydnabod lle mae’r sefyllfa a’r cymeriad ieithyddol yn wahanol yn rhannau gwahanol o’r wlad, a dechrau drwy gydweithio â rhieni a’r cymunedau i sicrhau ein bod ni’n symud yn yr un cyfeiriad i sicrhau bod yna fwy o Gymraeg a mwy o gyfle i gael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ac addysg Gymraeg, ac i wneud hynny drwy gytundeb.

“Felly, yr uchelgais sydd gen i yw ein bod ni’n gallu symud ymlaen drwy gytundeb i ehangu addysg Gymraeg ym mhob un rhan o’r wlad.”

Dywedodd Mr Davies ei fod e’n derbyn hefyd bod angen ​’gweithredu brys​’ i gynyddu’r nifer o athrawon sy’n cael eu hyfforddi i addysgu yn y Gymraeg

Continue Reading

Cymraeg

Gweithio, dysgu, astudio

Published

on

Meleri Haf Owen: Mae hi'n cyfuno gwaith ac astudio

MAE’R PRIF gontractwyr sy’n gyfrifol am reoli’r gwaith adeiladu ar Yr Egin, Kier Group plc, wedi penodi myfyrwraig ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i weithio gyda’r cwmni ar y prosiect uchelgeisiol.

Bu Meleri Haf Owen, sy’n astudio Addysg Grefyddol trwy gyfrwng y Gymraeg yn Y Drindod Dewi Sant, ar leoliad gyda Kier dros yr haf ac ers hynny mae hi wedi cael ei chyflogi’n Weinyddwr dros gyfnod y prosiect i weithio gyda’r cwmni adeiladu wrth iddi gwblhau ei hastudiaethau.

“Roedd angen i Kier gael gweinyddwr i weithio ar brosiect Yr Egin. felly dyma ni’n gweithio gyda Sgiliau Adeiladu Cyfle i geisio dod o hyd i’r person cywir i ni. I ddechrau, roedd y lleoliad ar gyfer cyfnod prawf o bythefnos gyda golwg ar gyflogaeth dros gyfnod yr haf,” meddai Steve Langford o Kier, Rheolwr Prosiect Yr Egin.

“O’r cychwyn cyntaf, dangosodd Meleri frwdfrydedd, ymrwymiad ac agwedd glodwiw. Pan ddaeth y lleoliad i ben, hyfryd o beth oedd gallu cynnig gwaith iddi hi gyda ni ar Yr Egin.

“Mae Meleri’n gweithio’n galed, ac mae hi bob amser yn gwrtais, gan gwblhau pob un o’i thasgau i safon broffesiynol. Rydyn ni’n falch dros ben ei bod hi bellach yn gallu parhau i weithio i ni gydol y prosiect, wrth iddi gwblhau ei hastudiaethau yn Y Drindod Dewi Sant.”

Mae’r Egin – canolfan ddigidol a chyfryngol newydd Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin – yn ddatblygiad a fydd yn gartref i brif bencadlys S4C yn ogystal â nifer o gwmnïau a sefydliadau sy’n gweithio gyda’r diwydiannau creadigol a digidol.

Bydd yr Egin hefyd yn ganolfan a fydd ynghanol y gymuned gan ddarparu cyfleoedd i bobl leol fwynhau’r adeilad a’i adnoddau – caffi, awditoriwm a mannau perfformio. Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Mawrth ac mae’r ganolfan ar y trywydd iawn i’w chwblhau erbyn haf 2018.

“Mae’n fraint cael gweithio ar brosiect mor gyffrous â’r Egin,” meddai Meleri sy’n ugain oed ac sy’n dod o Foelgastell, Sir Gaerfyrddin.

“Roeddwn i wedi bod yn gweithio i Sgiliau Adeiladu ar gampws Rhydaman Coleg Sir Gâr dros yr haf a thrwy Cyfle ces i wybod am y swydd hon. Gwnes i gais am swydd gyda Kier i ennill profiad o weithio mewn amgylchedd swyddfa, a chael fy mhlesio’n fawr iawn.

“Roeddwn i hefyd am gael rhagor o brofiad ym maes gweinyddu,” ychwanega Meleri. “Yn ystod fy nghyfnod i gyda Kier, dwi wedi datblygu a dysgu llawer o sgiliau gweinyddol newydd yn ogystal â dysgu rhagor am y diwydiant adeiladu a chael cyfle i gyfarfod â llawer o bobl newydd.

“Dwi wrth fy modd yn gweithio i Kier ac yn falch dros ben o gael cyfle mor anhygoel lle ar yr un pryd dwi hefyd yn gallu cwblhau fy astudiaethau yn Y Drindod Dewi Sant.”

Mae Kier yn cynnig lleoliadau profiad gwaith gydol cyfnod prosiect Yr Egin yn ogystal â llawer o gyfleoedd ymgysylltu cymunedol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Amanda Swoboda, Cydlynydd Cymuned Kier trwy’r e-bost: Amanda.Swoboda@kier.co.uk

Continue Reading

Cymraeg

Lauren Jenkins – wrth ei bodd ar Rygbi Pawb

Published

on

Lauren Jenkins: Rygbi Pawb

MAE LAUREN JENKINS wedi teithio’r byd yn gohebu ar gemau rygbi, ond mae hi wrth ei bodd yn ymweld â rhai o feysydd enwog Cymru ers dechrau ei swydd fel cyflwynydd newydd Rygbi Pawb.

Bydd y gyfres yn parhau i ddangos gemau Cynghrair Colegau ac Ysgolion Cymru, yn ogystal â rygbi ieuenctid a rhanbarthol, yn fyw ar y wefan, s4c.cymru ac ar dudalen Facebook Live S4C Chwaraeon bob nos Fawrth. Dangosir uchafbwyntiau o’r gemau mewn rhaglen ar S4C, y noson ganlynol, bob nos Fercher. Ac mae safon y chwarae wedi dal llygaid Lauren hyd yma.

“Dwi wedi bod yn dilyn y timoedd ers rhai wythnosau bellach a ti’n dechrau gweld y rhai sydd â’r potensial i gamu’n uwch. Mae’r gystadleuaeth yn gyfle da iddyn nhw chwarae ar gaeau fel Parc yr Arfau a’r Gnoll, sydd â chymaint o hanes yn perthyn iddyn nhw.

Ar ôl byw yn agos at gartref Clwb Rygbi Llanelli yn ystod ei phlentyndod, does dim syndod bod rygbi yn chwarae rôl ganolog ym mywyd Lauren.

“Roedd tŷ fy nhad i gefn-wrth-gefn â Pharc y Strade felly roeddwn i’n mynd yna’n aml iawn ar benwythnosau,” meddai Lauren. “Roeddwn i’n mynd i Ysgol Gyfun y Strade ac roedd pobl fel Ray Gravell yn aml yn dod i’r ysgol, felly cefais fy magu ar rygbi.

“Uchafbwynt fy ngyrfa hyd yma yw gweithio i BBC Cymru yn Seland Newydd ar gyfer Taith y Llewod eleni. Nid yn unig oherwydd y rygbi; cefais hefyd flas ar ddiwylliant Seland Newydd a gweld faint mae rygbi’n ei olygu iddyn nhw. Mae Eden Park yn un o’r llefydd gorau yn y byd i wylio rygbi, felly roedd cael mynd yno i weld y Crysau Duon yn chwarae yn anrhydedd.

“Mae’r ffaith bod 16 o chwaraewyr Cymru a aeth ar daith yr haf i Ynysoedd y De eleni wedi dechrau eu gyrfaoedd yn chwarae rygbi’r colegau yn dangos cymaint o sbring-fwrdd yw e i bethau gwell. Mae ‘na lot o geisiau a lot o redeg ac mae’r chwaraewyr yn gallu bod yn fwy anturus na thimoedd rygbi proffesiynol.”

Nos Fawrth yma, 17 Hydref bydd gêm Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yn erbyn Coleg Gŵyr Abertawe i’w gweld yn fyw ar y we gydag uchafbwyntiau ar Rygbi Pawb, nos Fercher 18 Hydref ar S4C.

Continue Reading

Trending