Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Croesawu camau i Gymreigio Bwrdd Iechyd

Published

on

YN DILYN cyfarfod agored i drafod darpariaeth iechyd yn Gymraeg yng Nghaerfyrddin ddoe (29/04/17) mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu camau i Gymreigio Bwrdd Iechyd Hywel Dda gan bwysleisio bod angen newid meddylfryd yn yr hirdymor.

Yn ystod y cyfarfod, esboniodd Enfys Williams, Rheolwr Gwasanaethau Cymraeg Bwrdd Iechyd Hywel Dda, y camau mae’r bwrdd iechyd yn eu cymryd i Gymreigio’r gwasanaeth iechyd. Roedd hyn yn cynnwys sesiynau ymwybyddiaeth iaith, dosbarthu adnoddau i annog staff i ddechrau sgyrsiau’n Gymraeg, cefnogi staff i ddysgu Cymraeg, a’u bwriad i benodi tiwtor Cymraeg i fagu hyder staff i ddefnyddio’r Gymraeg.

Dywedodd Manon Elin, Cadeirydd Grŵp Hawliau Cymdeithas yr Iaith:’Rydyn ni’n falch bod y Bwrdd Iechyd yn cefnogi staff yn ariannol i gael gwersi Cymraeg, a’u bod wedi hysbysebu mwy o swyddi gyda’r Gymraeg yn hanfodol yn ddiweddar. Maen nhw’n bethau da ar gyfer y tymor byr. Er hynny, gan nad yw cleifion yn aml mewn sefyllfa i ofyn am wasanaeth Cymraeg, mae’n bwysig bod y gwasanaeth Cymraeg ar gael ac yn cael ei gynnig yn rhagweithiol, yn hytrach na bod y cyfrifoldeb ar y claf i ofyn amdano. Er mwyn i hynny ddigwydd mae angen newid sylfaenol fel nad yw’r Gymraeg yn rhywbeth ymylol mewn sefydliad Seisnig. Gobeithiwn barhau i gyd-weithio gyda’r Bwrdd Iechyd i wneud hynny.’

Cafwyd trafodaeth dan arweiniad arbenigwyr ym maes iechyd gan gynnwys Awen Iorwerth o ysgol feddygol Prifysgol Caerdydd, Dr Dilys Davies sydd wedi gwneud ymchwil i bwysigrwydd y Gymraeg wrth drafod iechyd a’r Aelod Cynulliad Dr Dai Lloyd. Clywyd profiadau cleifion, staff presennol a rhai sydd wedi ymddeol yn ddiweddar hefyd.

Wrth drafod hyfforddiant i fyfyrwyr, nodwyd bod rhai prifysgolion yn Lloegr yn rhoi mwy o flaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n medru’r Gymraeg nag y mae’r brifysgol feddygol yng Nghaerdydd. Nododd yr Aelod Cynulliad a’r meddyg, Dr Dai Lloyd, pan fo claf yn disgrifio ei symptomau yn ei famiaith, gall meddygon wneud diagnosis yn gynt gan ddod i ganlyniad mwy pendant, gan nad oes problemau o ran cyfathrebu.

Ychwanegodd Manon Elin: “Rydyn ni’n ymwybodol fod y gwasanaeth iechyd dan straen. Roedd profiadau’r rhai sydd wedi neu yn gweithio yn y maes yn cadarnhau nad yw dysgu neu gynyddu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn gallu cael blaenoriaeth ynghanol gwaith bob dydd. Dyna pam mae hyfforddiant gweithwyr iechyd mor bwysig. Mae cyfle i’r Bwrdd Iechyd gyd-weithio gyda darparwyr iechyd fel bod modd gwneud cyrsiau meddygol yn Gymraeg a bod y Gymraeg yn rhan o gwrs pawb sy’n hyfforddi i weithio yng Nghymru. Bydd hynny’n creu sylfaen ar gyfer gwasanaeth iechyd Cymraeg y dyfodol.”

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Cytundeb Partneriaeth ffurfiol newydd rhwng S4C a’r BBC

Published

on

Heledd Gwyndaf, CIG: 'Dylid canslo'r cytundeb 'partneriaeth' hwn yn syth'

MAE AWDURDOD S4C a Bwrdd Unedol y BBC heddiw’n cyhoeddi’r cytundeb newydd fydd yn cymryd lle’r Cytundeb Gweithredu a fu’n sail i’r berthynas rhwng Awdurdod S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC rhwng 2013 a diwedd Mawrth 2017.

Yn y Cytundeb Partneriaeth, Ariannu ac Atebolrwydd newydd yma, mae’r ddau ddarlledwr yn ymrwymo i weithio gyda’i gilydd yn greadigol er budd gwylwyr a’r gynulleidfa Gymraeg.

Mae ymrwymiad y BBC i ddatblygu a sefydlu partneriaethau adeiladol a theg yn un o hanfodion y Siarter newydd. Mae’r ymrwymiad i ddarparu cyllid i S4C yn rhan o’r Cytundeb Fframwaith a gyhoeddwyd yr un pryd. Gwelir y cytundeb hwn felly fel un o bartneriaethau craidd y BBC, yn unol â gofynion y Siarter.

Mae’r Cytundeb Partneriaeth yma yn seiliedig ar, ac yn diffinio, tair elfen sylfaenol:

  1. Y cyllid y bydd S4C yn ei dderbyn o ffi’r drwydded deledu, a natur yr atebolrwydd ariannol amdano i’r BBC;
  2. Y cyfraniad rhaglenni statudol gan y BBC o 10 awr yr wythnos o raglenni i S4C; a
  3. Natur y bartneriaeth ymarferol ehangach a fydd yn cynnwys y ddarpariaeth o wasanaethau technegol gan y BBC i S4C.

Bydd y Cytundeb Partneriaeth yn dal mewn grym hyd ddiwedd cyfnod Siarter newydd y BBC, sef hyd at 2028.

Mae cytundeb eisoes y bydd cyllid S4C o’r ffi drwydded yn parhau yn sefydlog tan 2022, pan fydd lefel y drwydded deledu’n cael ei adolygu.

Bydd gwerth y cyfraniad rhaglenni statudol yn cael ei gynnal ar y lefel bresennol, sef £19.4m y flwyddyn, hyd at yr un dyddiad.

Mae’r Cytundeb hefyd yn gwarantu parhad y trefniant i gynnal lle S4C ar yr iPlayer tan 2028.

Mae telerau’r cytundeb i ddarparu gwasanaethau technegol i S4C yng nghanolfan newydd y BBC yng nghanol Caerdydd o 2019 ymlaen yn awr wedi cael eu cytuno.

Mae’r Cytundeb Partneriaeth hwn yn rhoi manylion ynglŷn â sut y disgwylir i’r berthynas rhwng y ddau gorff gael ei gweithredu er mwyn sicrhau partneriaeth adeiladol, yng Nghymru ac ar y lefel y Deyrnas Gyfunol, a pha brosesau arolygu fydd yn cael eu darparu.

Dywedodd Cadeirydd S4C, Huw Jones: “Mae’r cytundeb newydd yma’n dangos yn glir beth fydd natur y berthynas rhwng S4C a’r BBC dros gyfnod y Siarter newydd. Mae’n rhoi elfen gref o sicrwydd a sefydlogrwydd i S4C dros y cyfnod hwn, wrth ganiatáu cyfle i adolygu’r elfennau craidd ar ôl 5 mlynedd, ac mae’n gosod her i’r ddau sefydliad adnabod cyfleoedd i gydweithio’n adeiladol er budd y gwylwyr.

“Mae’n adeiladu ar lwyddiant y Cytundeb Gweithredu diwethaf ac ar draddodiad hir o gydweithio a chyd-wasanaethu cynulleidfaoedd. Mae unwaith eto yn cadarnhau annibyniaeth S4C fel corff ac fel gwasanaeth.”

Rwy’n falch dros ben fod y BBC wedi gweld yn dda i adnabod ei pherthynas gydag S4C fel un o’i phartneriaethau craidd o dan y Siarter.

Dywedodd Sir David Clementi, Cadeirydd y BBC: “Mae’r cytundeb newydd hwn yn cryfhau’r bartneriaeth gwasanaeth darlledu cyhoeddus hirdymor sy’n bodoli eisoes rhwng y BBC ac S4C. Mae’n cydnabod rôl hanfodol y ddau sefydliad o ran darlledu Cymraeg – ac mae’n rhoi sylfaen gadarn ar gyfer cydweithio parhaus ar adeg pan fo newidiadau sylweddol ar droed yn y cyfryngau.

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous ar gyfer darlledu yng Nghymru, ac rydw i’n hyderus y bydd parhau i weithio’n agos gydag S4C yn arwain at ganlyniadau creadigol, gan ddatblygu llawer o’r llwyddiannau a gyflawnwyd ar y cyd yn y blynyddoedd diwethaf.”

Mae Dyfodol i’r Iaith yn croesawu’r Cytundeb rhwng y BBC ac S4C.

Meddai Ruth Richards, prif weithredwr Dyfodol i’r Iaith: ‘Bydd y Cytundeb yn rhoi sefydlogrwydd ariannol i S4C am y deng mlynedd nesaf. Rydyn ni’n awr yn edrych ymlaen at weld y Sianel yn rhoi ei sylw i ddatblygu’r defnydd o’r datblygiadau technolegol newydd. Serch hynny, rydym am weld cynnydd yn yr arian ag gaiff S4C, o leiaf yn cydredeg â chwyddiant. Rydym hefyd am wybod beth yw’r oblygiadau i arolwg Euryn Ogwen Williams o S4C.”

“Mae Dyfodol i’r Iaith wedi cytuno bod angen ateb ariannol pragmataidd nes y bydd Llywodraeth Cymru’n gallu datblygu cyfrifoldeb am ddarlledu yng Nghymru. Mae’r cytundeb hwn i’w groesawu fel rhan o raglen gynhwysfawr o hyrwyddo’r iaith.”

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi rhybuddio bod cytundeb newydd rhwng S4C a’r BBC yn gam arall yn y broses o’r BBC yn traflyncu’r sianel.

Honna’r mudiad fod y cytundeb yn golygu y bydd gan y BBC ddylanwad mawr ar faterion golygyddol a gweinyddol S4C. Dywed y cytundeb: “Dylai’r bartneriaeth gynnwys, lle y bo’n briodol, cydweithredu ym meysydd technoleg; mynediad i’r iPlayer; datblygu prosiectau creadigol; materion golygyddol; hyrwyddo gwasanaethau’r BBC ac S4C; ac effeithlonrwydd gweithredol.”

Hefyd, mae’r mudiad yn pryderu bod y cytundeb yn rhoi grym a dylanwad dros waith darparu gwasanaethau S4C gyda manylion mewn cytundeb arall sydd heb ei gyhoeddi: “Mae S4C a’r BBC yn bwriadu cydleoli a rhannu gwasanaethau technegol ar gyfer darlledu a darparu Gwasanaethau S4C a gwasanaethau’r BBC yng Nghymru, yng nghanolfan ddarlledu newydd y BBC yn y Sgwâr Canolog, Caerdydd.”

Meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: “O dan y cynlluniau yn y cytundeb hwn, mae dros hanner staff S4C yn mynd i fod yn gweithio o swyddfa’r BBC yng Nghaerdydd, bydd y BBC yn darlledu signal teledu S4C, mae rhaglenni S4C ar yr I-player, ac mae’r gorfforaeth wedi dwyn allbwn drama S4C. Ble mae diwedd y daith? Gyda’r BBC yn rheoli pob dim os nad oes rhywbeth radical yn digwydd.

“Mae S4C i fod i symud i Gaerfyrddin, dylid gwneud hynny’n gyfan gwbl. Dylid canslo’r cytundeb ‘partneriaeth’ bondigrybwyll hwn a’r cyd-leoli yng Nghaerdydd yn syth, dyna un ffordd o geisio atal y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig rhag cael rheolaeth lwyr dros ein hunig sianel deledu Gymraeg.”

Ychwanegodd: “Os yw cymaint o fanylion â hyn eisoes wedi eu pennu yn y cytundeb hwn, beth yw diben adolygiad Llywodraeth Prydain o’r sianel? Mae’r amseriad yn edrych yn tanseilio’r adolygiad. Yr unig ateb i hyn yn y pendraw yw datganoli darlledu i Gymru: dylai penderfyniadau am ddarlledu yng Nghymru gael eu gwneud yng Nghymru. “

Continue Reading

Cymraeg

‘Comisiwn Iaith – nid Comisiynydd – sydd ei angen’

Published

on

Gweinidog newydd sy'n gyfrifol am ddeddfwriaeth: Eluned Morgan

MAE DYFODOL i’r Iaith wedi croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i sefydlu Comisiwn i’r Gymraeg i gynllunio a gweithredu polisïau cyhoeddus i gefnogi’r iaith.

Gall sefydlu corff pwerus annibynnol ag iddo gyfrifoldebau eang ym maes cynllunio ieithyddol osod y llwyfan i weithredu strategaeth gynhwysfawr i adfywhau’r Gymraeg yn iaith genedlaethol.

Meddai cadeirydd Dyfodol, Heini Gruffudd, “Rydyn ni wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru yn awr yn bwriadu deddfu i sefydlu ‘r Comisiwn newydd hwn.

“Er ein bod yn anghytuno ynghylch rhai agweddau o’r Papur Gwyn a gyhoeddodd y gweinidog Alun Davies yn Eisteddfod Ynys Môn, mae’r Llywodraeth wedi derbyn prif drywydd ein gofynion ni. Mae’n holl bwysig nawr i garedigion yr Iaith gyd-dynnu i wneud llwyddiant o’r trefniadau newydd. Wrth i’r Bil newydd ddilyn ei gwrs drwy’r Cynulliad bydd angen pwyso er mwyn sicrhau nad yw bwriadau’r Papur Gwyn yn cael eu glastwreiddio a bod rhai gwendidau yn cael eu cywiro”

Meddai Cynog Dafis, “Bydd rhaid i’r Llywodraeth ddangos na fydd hawliau siaradwyr Cymraeg yn cael eu gwanhau drwy fod rol y Comisiynydd presennol yn cael ei chynnwys o fewn y Comisiwn newydd. Ond bydd sefydlu’r Comisiwn yn gyfle euraid i ddatblygu rhaglenni cyffrous i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y teulu a’r gymdeithas ac ym myd gwaith ac wrth gwrs drwy helaethu addysg Gymraeg yn ddirfawr.

“Fodd bynnag dyw bwriadau da ddim yn ddigon. Os yw nod y llywodraeth o greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050 i’w gymryd o ddifrif, rhaid wrth adnoddau ariannol sylweddol a chael pobl gymwys ac ymroddedig yn y swyddi allweddol.

“Rydyn ni’n hynod falch bod Llywodraeth Cymru yn gydnabyddus â’r sefyllfa yng Ngwlad y Basgiaid a Chatalwnya lle y gweithredwyd polisïau cynhwysfawr i adfywhau eu hieithoedd cynhenid yn llwyddiannus.”

Fe gyflwynir a thrafodir hyn ymhellach mewn Cyfarfod Cyhoeddus yn Llanbedr Pont Steffan heno yn Festri Capel Brondeifi am 7 o’r gloch ac mae croeso cynnes i bawb.

Cadeirydd y cyfarfod yn Llanbed heno yw Ben Lake AS a ddywedodd “Rwy’n falch o gael cadeirio’r cyfarfod hwn yn nhref fy magwraeth a chlywed am y gwaith pwysig y mae Dyfodol wedi’i wneud i ddylanwadu ar bolisiau Llywodraeth Cymru”.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu llythyr gan Gymdeithas Rhyngwladol y Comisiynwyr Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â diddymu Comisiynydd y Gymraeg.

Meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: “Dyma dystiolaeth bellach i gefnogi’r ddadl dros gadw Comisiynydd y Gymraeg. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cael gwared ar swydd Comisiynydd y Gymraeg, a hynny heb gynnig unrhyw reswm, unrhyw resymeg nac unrhyw dystiolaeth i gefnogi hynny.

“Roedd papur gwyn y Llywodraeth wedi’i seilio ar ddim ond naw mis o waith Comisiynydd y Gymraeg ar y Safonau. Ond mae tystiolaeth glir yn dangos bod y swydd eisoes yn cael dylanwad ar hawliau pobol ar lawr gwlad. Ffolineb llwyr fyddai cael gwared â’r swydd ar ôl cymryd amser, arian ac egni i’w sefydlu, ond yn bwysicach am ei bod hi’n amlwg ei fod yn swyddogaeth sy’n cynnig gwerth clir am arian ac yn effeithiol. Adeiladu ar y swydd a’i datblygu sydd eisiau nawr, nid ei gwaredu.”

“Mae angen Bil er lles y bobl, yr iaith a’i defnydd, nid Bil er lles y biwrocratiaid fel mae’r Llywodraeth yn ei gynnig. Byddai’n well iddyn nhw beidio deddfu o’r newydd o gwbl na throi’r cloc yn ôl fel hyn a gwanhau ein hawliau. Rydym yn gwrthwynebu yn chwyrn gynlluniau presennol y Llywodraeth, ac rydyn ni’n galw ar bobl Cymru i’w gwrthwynebu hefyd.”

“Cefais i gyfarfod gyda dau o arweinwyr Cymdeithas yr Iaith wythnos hon, ac ry’n ni’n bendant yn anghytuno ar le mae’r pwyslais,” ychwanegodd Heini Gruffudd.

“Maen nhw fel pe bai’n nhw’n rhoi’r pwyslais i gyd ar Gomisiynydd, dw i’n ofni bod rhoi pwyslais ar hawliau unigol ond yn mynd i effeithio ar ganran fach iawn o’r boblogaeth.

“Mae angen rhywbeth llawer iawn mwy eang na hynny. Dydyn ni ddim yn erbyn Comisiynydd, dw i’n deall bod Comisiynwyr Ewrop eisiau cadw Comisiynydd yng Nghymru, popeth yn dda.

“Ond beth sydd ddim yng Nghymru yw’r math o gynllunio iaith ar lefel drylwyr iawn, traws-lywodraeth sydd wedi bod yn digwydd gyda’r Basgiaid a Chatalwnia.

“Dw i ddim yn gweld bod eisiau mynd am un neu’r llall, buaswn i’n dweud bod y maes y byddai’r Comisiwn yn delio gyda fe yn llawer ehangach na’r hyn sy’n cael ei ddelio ‘da fe o dan hawliau.

“Os ydych chi’n edrych ar Wlad y Basg, y peth cyntaf wnaethon nhw oedd hyfforddi 7,000 o weision sifil ac athrawon. Buddsoddi mawr ar raddfa eang er mwyn Basgeiddio’r system addysg a’r llywodraeth. Dyw’r system Comisiynydd ddim yn mynd i gyflawni hynny.”

Fydd neb yn synnu ar Cymdeithas a Dyfodol cael ei wrthwynebu. Mae’n ymddangos, fodd bynnag, bod barn Dyfodol i’r Iaith yw heb gymorth gan sefydliadau eraill.

Mae clwstwr o fudiadau iaith Cymru wedi beirniadu Papur Gwyn Llywodraeth Cymru gan ddweud ei fod yn tynnu sylw oddi wrth yr ymdrechion i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mi gafodd y Papur Gwyn ei lansio ar faes prifwyl Môn eleni ac un o’i brif argymhellion yw sefydlu Comisiwn y Gymraeg a fyddai’n disodli rôl Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws.

Ond yn ôl y mudiadau sy’n gweithredu o dan yr enw ‘Dathlu’r Gymraeg’ does dim tystiolaeth i gyfiawnhau diddymu rôl y Comisiynydd.

Am hynny maen nhw’n galw am “bwyllo ac oedi” cyn cyflwyno cynlluniau’r papur gwyn.

Mae’r mudiadau sydd wedi arwyddo’r llythyr agored yn cynnwys Mentrau Iaith Cymru, undeb athrawon UCAC, Cymdeithas yr Iaith, Rhieni dros Addysg Gymraeg a’r Mudiad Meithrin.

Mae’r llythyr yn cydnabod yr angen am “reoleiddiwr annibynnol a grymus” i wella hawliau i’r Gymraeg.

Ond maen nhw’n nodi y gall y Papur Gwyn “ddargyfeirio ymdrechion y Llywodraeth o’r gwaith pwysig o weithredu Strategaeth y Gymraeg, sydd wedi ennyn cefnogaeth o bob cwr o Gymru.”

“Credwn felly y byddai mantais pwyllo ac oedi cyn cyflwyno newidiadau mor bellgyrhaeddol â’r rhai sydd yn y papur gwyn,” meddai’r llythyr.

Continue Reading

Cymraeg

Eryri’n barod i groesawu Eisteddfod Ffermwyr Ifanc

Published

on

Fe wnaeth mam gystadlu yn yr Eisteddfod pan oedd hi'n feichiog hefo fi!: Medda Anni Llyn

BYDD digon o hwyl yn Venue Cymru, Llandudno nos Sadwrn, 18 Tachwedd, wrth i Eryri groesawu Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru 2017.

Anni Llŷn, Meinir Howells, Ifan Jones Evans a Terwyn Davies fydd yn dod â holl gyffro’r digwyddiad, o’r cystadlu hwyliog i’r cyffro cefn llwyfan, i wylwyr S4C. Ac mae Anni’n edrych ymlaen yn arw at brofi hwyl y cystadlu eto eleni.

“Mae’r Eisteddfod yn gyfle gwych i aelodau o bob cwr o Gymru – rhai’n ffermwyr ac eraill sydd ddim yn ffermio – ddod at ei gilydd i gael hwyl a dangos diwylliant cefn gwlad Cymru ar ei orau,” meddai’r ferch fferm sy’n wreiddiol o Sarn Meyllteyrn, Pen Llŷn ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. “Mae’r amrywiaeth eang o gystadlaethau bob amser yn cynnig gwledd liwgar o adloniant, ac mae’r safon yn gallu bod yn uchel iawn.”

Bydd S4C yn darlledu’r cystadlu brwd yn fyw am 5.00 o’r gloch y prynhawn, ac eto o 8.30 hyd nes i’r holl gystadlu ddod i ben.

Mae gan Anni fwy o reswm i edrych ymlaen at yr Eisteddfod eleni gan ei bod hi’n arfer bod yn aelod o glwb Ffermwyr Ifanc Eryri a gan mai ei mam, Rhian Parry, yw Llywydd Anrhydeddus y digwyddiad eleni.

“Roeddwn i’n arfer cystadlu gyda’r llefaru a’r ddeuawd ddoniol hefo Clwb y Rhiw pan oeddwn i’n iau ac fe wnaeth mam gystadlu yn yr Eisteddfod pan oedd hi’n feichiog hefo fi! Wrth gwrs, mae’n grêt ei bod hi’n Llywydd ac mae pobl Eryri wastad yn groesawgar. Ond er fy nghysylltiadau personol. Mae’r ffaith bod rhaid cynnal yr Eisteddfod y tu hwnt i ffiniau’r sir, yn neuadd fawr Venue Cymru, yn beth da ac yn dangos pa mor boblogaidd yw’r digwyddiad.”

Oes gan Anni hoff gystadlaethau mae hi’n edrych ymlaen at eu gweld yn ystod y noson?

“Mae’r cystadlaethau ysgafn wastad yn hwyl,” meddai Anni. “Y sgets a’r ddeuawd ddoniol ac ati. Dwi fel arfer yn mwynhau’r perfformiadau ond hefyd yn rhyfeddu at ba mor wreiddiol mae’r cynyrchiadau. Mae rhywun yn gallu mwynhau’r comedi a’r gwaith creadigol sydd tu ôl i’r perfformiad – a dwi’n edrych ymlaen yn eiddgar at weld pa sir fydd yn dod i’r brig!”

Ac os ydych chi am fwynhau rhagor o gwmni’r ffermwyr ifanc, bydd rhaglen arbennig ar S4C dros y Nadolig yng nghwmni Lisa Angharad am y gwaith paratoi a’r tynnu coes, cyn ac yn ystod, Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc.

Continue Reading

Trending